Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Cyfres Stori Sydyn: Ar Ben y Byd
Shane Williams, Lynn Davies
ISBN: 9781847711137 (1847711138)Dyddiad Cyhoeddi Chwefror 2009
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 198x130 mm, 80 tudalen Iaith: Cymraeg Allan o brint Ein Pris: £1.99   
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Un o gyfrolau byr a chyflym y gyfres Stori Sydyn. Atgofion am yrfa a blwyddyn anhygoel Shane Williams - chwaraewr rygbi gorau'r byd yn 2008 a Phersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru 2008.

A title in the short and fast-paced series Quick Reads. Memoirs of Shane Williams's amazing year, voted the world's best rugby player 2008, and the BBC Wales Sports Personality of the Year 2008.
Ar Ben y Byd gan Shane Williams a Lynn Davies yw un o bedair cyfrol ddiweddaraf y gyfres Stori Sydyn, sef cyfres o lyfrau byr er mwyn hybu darllen ymhlith oedolion, neu ir rhai sydd ddim fel rheol yn darllen llyfrau neu wedi colli'r arferiad.

Er iddo gyhoeddi ei hunangofiant y llynedd, mae Shane wedi cyflawni cryn dipyn ers hynny, ac mae Ar Ben y Byd yn gyfle iddo rannu ei deimladau am yr holl lwyddiannau anhygoel sydd wedi dod iw ran ers hynny.

Roedd 2008 yn flwyddyn iw chofio i Shane, ac yma cawn gofnod personol ganddo or flwyddyn pan enillodd nid yn unig ei ail gamp lawn gyda thm Cymru (a sgorio chwe chais), ond pan lwyddodd hefyd i gipio gwobr Chwaraewr Rygbi Goraur Byd yr IRB, a Phersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn yng Nghymru!

Yma, mae Shane hefyd yn edrych yn l ar ei yrfa ddisglair oi ddyddiau cynnar yn byw ym mhentref Glanaman, iw gyfnod fel chwaraewr gyda thm Chastell-nedd, ac yna ymlaen at ei gyfnod yn disgleirio gydai glwb presennol, y Gweilch!

Dyma lyfr diddorol, byr a hwyliog sydd yn hawdd ei ddarllen, ac os ydych yn hoff o rygbi ac eisiau gwybod mwy am un o arwyr disgleiriaf byd y bl hirgron, yna mae Ar Ben y Byd yn siŵr o blesio!

Llŷr Evans

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Gwybodaeth Bellach:
Bu 2008 yn flwyddyn anhygoel i Shane Williams. Enillodd wobr Chwaraewr Rygbi Gorau'r Byd yr IRB, a Phersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn yng Nghymru, a hynny ar l ennill ei ail Gamp Lawn!

Yn y llyfr yma mae Shane yn rhannu ei deimladau am ei flwyddyn gyffrous gyda thim Cymru ac yn edrych nl ar ei frwydrau personol trwy gydol ei yrfa i gyrraedd y brig.
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Cryno-Ddysg y Cymry - ...
Cennard Davies
£6.99
 
Prynwch
Usborne Language Guides: ...
Angela Wilkes
£7.99
 
Prynwch
Cyfres y Cewri: 20. C'mon ...
Gwyn Pierce Owen
£6.95
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Apostol
Dyfed Edwards
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Bee Book, The
Jo Byrne
£9.99
 
Prynwch
Plant
Dathlu gyda Sali Mali
Ifana Savill
£6.99
 
Prynwch