Eich basged
Mae eich Basged yn Wag
Ewch i...
Gwerthwyr Gorau
Dolenni
|
| Gwybodaeth Lyfryddol |
| CaersaintAngharad Price
Gweld rhagor o deitlau gan 'Angharad Price' |
ISBN: 9781847711717 (1847711715)Dyddiad Cyhoeddi Chwefror 2010
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bontFformat: Clawr Meddal, 193x130 mm, 384 tudalen
Iaith: Cymraeg
Ar gael Ein Pris:
£8.95
| |
| Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
|
|
|
Nofel hirddisgwyliedig yr awdures dalentog Angharad Price, a enillodd y Fedal Ryddiaith yn 2002 gyda'r clasur O! Tyn y Gorchudd. Nofel yw hon am Jaman Jones sy'n dychwelyd i'w dref enedigol ar ôl etifeddu tŷ ei fodryb, ac mae'n cynnig sylwebaeth ddeifiol ar fywyd tref Gymreig ar ddechrau'r 21ain ganrif.
A novel by the award-winning novelist Angharad Price, whose classic, O! Tyn y Gorchudd won her the Literary Medal at the 2002 National Eisteddfod. This novel tells the story of Jaman Jones returning to his home town, after inheriting his aunt's house. It offers an insight into Welsh urban life at the beginning of the 21st century.
|
|
Y chweched o Fai ac mae ’na ddau etholiad. Dau? meddech chi. Ia, ac ar hyn o bryd does dim amheuaeth ynglŷn â pha un sy’ wedi gafael ynof i. Rydw i yng nghanol berw hystings Caersaint a fedra i yn fy myw roi'r nofel i lawr.
Mae dau arweinydd gwahanol iawn yma - Med Medra â’i slicrwydd a’i ffraethineb, ochr yn ochr â’r Jamal naïf, onest a gwylaidd. Ond fe fydd yn rhaid i chi ddarllen nofel Angharad Price i gael y canlyniad.
Go brin y byddai ceisio gwerthu nofel sydd yn sôn am etholiad yn denu neb i’w benthyg heb sôn am ei phrynu pan fo’r cyfryngau wedi ein trochi (a’n boddi ar brydiau ) gyda blas a diflastod yr etholiad. Peidiwch â phoeni, mae Caersaint (a’r enwau cyfareddol fel Tonwen Bold, Angharad Bugbird, Babs Inc, Alun Stalin ac eraill) yn ddifyrrwch pur o grwydro hamddenol braf o Ffordd Bethlehem i gyfeiriad Stryd Victoria, hebio Gwynfa Stores a’r siop jips i ferw tafarn y Mona a’i theulu ‘anghymarus ac anghytûn’. Yma, down i gwmni Pepe, Heulwen Hwr, Haydn Palladium, Phil Golff, Pen Monyn a Magnum, y daeargi mwngral. Arwr y nofel (ac mae o’n dipyn o arwr) ydy Jamal Gwyn Jones ac mae ei fywyd yn ddrych o fywydau nifer o rai eraill, sydd fel pe bai bywyd ei hun yn chwarae triciau â nhw - anffodusion sy’n cael a cholli, sydd bron â chyrraedd ac yna’n crwydro, yn dyheu am y newydd ac eto’n methu gollwng yr hen. Mae’n ddirdynnol ar brydiau.
Ar brydiau yn unig oherwydd dyma gryfder Angharad Price. Mae’n gallu cyflwyno gwirioneddau a chondemniad grymus o’n cymdeithas wrth iddi wneud i ni chwerthin yn braf ar yr un pryd . . .
I’r rhai ohonom a wirionodd ar O! Tyn y Gorchudd mae edrych ymlaen mawr wedi bod am ei hail gyfrol. Ond mae hon yn gyfrol hollol wahanol, ond yr un mor orchestol gan mai clust a llygad llenor arbennig iawn sydd y tu ôl i hon hefyd. Llygaid yr un awdur a’n swynodd â Chwm Maesglasau sy’n gweld ac yn disgrifio ‘Coronau gleision Eryri. Porfeydd gleision y tir. Y Fenai’n las arian. Ac yng nghanol hyn i gyd, fel brenhines nad oedd yn fawr ond mawreddog, ond eto’n urddas i gyd, ymgodai tref Caersaint yn dyrau ac yn doeau a’r rheiny’n disgleirio’n borffor las wedi glaw a haul y gwanwyn.’ Yr un glust firain a wrandawodd ar sgwrs Evan bach a’i nain yng nghegin gefn Tynybraich sydd hefyd yn clywed sgwrs Alun Stalin a Jamal Gwyn: ‘Does gin i ddim diddordab mewn gwleiyddiaeth’. ‘Nag oes, mwn. Mae’r hogyn acw yn tŷ ni yn union yr un fath. Petha difrifol yn mynd ymlaen yn ei dre fo ’i hun . . . Dach chi’n pathetig. Plant Thatcher . . . Siwpyrgliwio’ch tina i sêt compiwtars, er bod gynnoch chi goesa a’r rheiny yn gweithio. Eich penna a’ch calonna wedi’u heijacio gan Bill Gates a Richard Branson . . .’
Yn dal heb eich argyhoeddi? Wel, mae yma stori garu hefyd!
Eirwen Llwyd Jones
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com,/i>, with the permission of the Welsh Books Council.
|
|
Bywgraffiad Awdur: Mae Angharad Price yn byw yng Nghaernarfon ac yn darlithio ym Mhrifysgol Bangor. Enillodd ei nofel, O! Tyn y Gorchudd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi 2002 a gwobr Llyfr y Flwyddyn 2003. Gwybodaeth Bellach: Ei chariad tuag at dref Caernarfon a ysbrydolodd yr awdur Angharad Price i ysgrifennu ei nofel newydd, Caersaint.
Dair blynedd yn ôl, roedd cael dychwelyd i Gaernarfon yn bleser i Angharad Price, ac felly dyma fynd ati i geisio dangos ei gwerthfawrogiad o’r dref drwy ysgrifennu nofel amdani dan yr enw Caersaint.
Mae’r gyfrol yn dilyn ymdrechion Jaman Jones i ‘ganfod ei hun’ wedi iddo etifeddu ty Arfonia Bugbird. Wedi bod i ffwrdd o Gaersaint ers sawl blwyddyn mae ei ddychweliad yn creu chwilfrydedd ymysg ei gymdogion. Cawn ddod i adnabod nifer o’r trigolion lleol gan gynnwys Babs Inc, golygydd y papur lleol, rhai o yfwyr ffraeth y Mona a Tonwen Bold, gwraig Med Medra – y gwr sydd am ‘godi Caersaint yn ei hôl’ ac ennill etholiad i fod yn faer y dref. Ond mae nifer o drigolion yn gwrthwynebu. A fydd rhywun yn gallu ei rwystro?
Er mai Caernarfon yw cefnlen y nofel hon, mae’n stori berthnasol i unrhyw dref yn unrhyw ran o Gymru, ac mae’r awdur yn sicr na fydd neb o drigolion Caernarfon yn llwyr adnabod trigolion Caersaint.
"Dwi wedi bod yn ofalus i beidio rhoi neb go iawn yn y nofel, ond dydy hynny ddim yn golygu nad oes yna bethau dwi wedi clywed pobl go iawn yn eu dweud yn y nofel. Mae llawer o’r sgwrsio yn y gyfrol wedi ei ysbrydoli gan sgwrsio go iawn, ac yn aml mae’r pethau sy’n cael eu dweud yn ysbrydoli cymeriad," eglura Angharad Price a ddaw’n wreiddiol o bentref Bethel, rhyw ddwy filltir i ffwrdd o Gaernarfon.
Fel pob tref arall yng Nghymru, mae gan Gaersaint ei chymeriadau, ac mae ganddi hefyd ei phroblemau, ac o’r problemau hyn y mae llawer o’r stori yn deillio.
"Mi oedd yna rai pethau ro’n i eisiau eu tynnu mewn yn benodol yn y nofel, fel y tensiwn rhwng twristiaeth a threftadaeth, yn ogystal â hanes a chwedloniaeth y dref. Ond ro’n i hefyd eisiau cyfleu’r bywiogrwydd sydd yma," meddai'r awdur.
A hithau wedi ennill y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi yn 2002 a gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2003 gyda’i nofel ddiwethaf, O, Tyn y Gorchudd, mae Angharad bellach yn ddarlithydd Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Mae llenyddiaeth, felly, yn rhan o’i bywyd dyddiol, ond gyda dau o blant ifanc, mae amser i ysgrifennu er ei phleser ei hun yn brin iawn i Angharad.
"Ma’ ysgrifennu yn un o’r petha' pwysica’ yn fy mywyd i faswn i’n ei ddweud; rhywbeth sy’n ymylu ar fod yn rheidrwydd. Mae hynny’n golygu defnyddio’r ychydig amser sbâr sydd gen i, ond mae o werth yr aberth!" |
|
|
|
Diweddarwyd ar 02 Mawrth 2010
|
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
|
|
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
|
|
|
|
Rhagor o Deitlau
|
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
|
Llyfr y Mis
|