Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Ar Noson Oer Nadolig
Amrywiol/Various
ISBN: 9781847711779 (1847711774)Dyddiad Cyhoeddi Tachwedd 2009
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Golygwyd gan Meinir Wyn Edwards Fformat: Clawr Meddal, 297x210 mm, 76 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £9.95 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Casgliad o garolau ar gyfer llais a chyfeiliant piano, gan rai o gyfansoddwyr gorau Cymru, fel Geraint Cynan, Caryl Parry Jones, Pwyll ap Siôn a Robat Arwyn. Mae yma garolau newydd a threfniannau newydd o garolau adnabyddus fel 'Hwiangerdd Mair'. Cyfrol werthfawr ar gyfer ysgolion ac unawdwyr o bob oed.

A collection of carols, arranged for voice and piano accompaniment, written by some of Wales's best composers, including Geraint Cynan, Caryl Parry Jones, Pwyll ap Siôn and Robat Arwyn. Includes new carols and new arrangements of well-known carols, such as 'Hwiangerdd Mair'. A valuable collection for schools and soloists of all ages.
Tabl Cynnwys:
Rhestr or Caneuon sydd yn y gyfrol:

1. Angel y Nadolig (Pwyll ap Sin, Myrddin ap Dafydd)
2. Nadolig? Pwy a ŵyr? (Ryan Davies)
3. Nos Nadolig Yw (Gilmor Griffiths, Desmond Healy, tr. Meinir Wyn Edwards)
4. Rwyt yn fab i mi (Geraint Cynan, Ceri Wyn Jones)
5. Seren Wen (J. Eirian Jones, John Beynon Phillips)
6. Ar Noson Fel Heno (Geraint Cynan, Hywel Gwynfryn)
7. Noson Oer Nadolig (Meic Stevens, tr. Meinir Wyn Edwards)
8. Hwiangerdd Mair (Haydn Morris, Nantlais, tr. Meinir Wyn Edwards)
9. Un enaid bach (Robat Arwyn, Robin Llwyd ab Owain)
10. Fe Fydd y Ffordd yn Faith (Geraint Cynan, Hywel Gwynfryn)
11. Y Baban Hwn (Caryl Parry Jones, Christian Phillips)
Gwybodaeth Bellach:
Dyma gasgliad o 11 o ganeuon Nadoligaidd, gan gynnwys hen ffefrynnau fel "Nadolig? Pwy a Ŵyr?" a threfniant newydd o "Hwiangerdd Mair", "Ar Noson Oer Nadolig" a "Nos Nadolig Yw". Mae yma garolau gan rai o gyfansoddwyr gorau Cymru, fel Caryl Parry Jones, Geraint Cynan, Pwyll ap Sin, Robat Arwyn, J. Eirian Jones a Meic Stevens.

Mae yma unawdau (i blant ac oedolion), ambell ddeuawd, un ar gyfer cr SATB, a phob un a chyfeiliant piano cyfoes. Mae'n gyfrol sy'n addas i'w defnyddio gan unigolion, ysgolion cynradd ac uwchradd, partion a chorau mewn ysgol, capel neu eglwys, ac mewn cyngherddau.

Cyfrol werthfawr i bawb sy'n mwynhau canu ar nosweithiau oer y Nadolig.

******************************
Casgliad Newydd o Ganeuon Nadoligaidd

Maer Lolfa newydd gyhoeddi cyfrol newydd syn cynnwys unarddeg o ganeuon Nadoligaidd hen a newydd. Mae Ar Noson Oer Nadolig yn cynnwys carolau newydd sbon gan rai o gyfansoddwyr gorau Cymru, Caryl Parry Jones, Geraint Cynan, Pwyll ap Sin a Robat Arwyn; rhai sydd wedi bod mewn print or blaen gan Ryan Davies a J. Eirian Jones; a threfniannau newydd sbon o hen glasuron Hwiangerdd Mair, Ar Noson Oer Nadolig a Nos Nadolig Yw'.

Yn dilyn ceisiadau gan nifer o gantorion, cerddorion ac athrawon, penderfynodd golygydd y gyfrol, Meinir Wyn Edwards, fynd ati i gasglu carolau oedd yn fodern, yn addas ar gyfer canu mewn ysgol, capel, eglwys a chyngerdd, ac iddynt gyfeiliant piano. Dywedodd: Ar l gwrando ar nifer o gryno-ddisgiau a gyhoeddwyd yn y blynyddoedd diwethaf, fe ddewisais rai o fy hoff ganeuon i, gan obeithio y byddant yn apelio at gynulleidfa eang. Mae rhai syn addas ar gyfer plant cynradd, rhai at unawdwyr, dwy ddeuawd ac un trefniant ar gyfer cr pedwar llais; rhain syml a rhain fwy uchelgeisiol. Mae wedi bod yn fraint cydweithio chyfansoddwyr profiadol, a thrwy gyfrwng y rhaglen Sibelius mae wedi bod yn haws nag erioed i gyhoeddi cyfrol o safon uchel. Gobeithio bod rhywbeth at ddant pawb sydd am ganu ar nosweithiau oer Nadolig!

Mae Ar Noson Oer Nadolig yn gyfrol ddeniadol a hylaw gyda rhwymiad sbeiral syn golygu ei fod yn agor yn rhwydd ar y piano.
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Golau Newydd, Y
Einir Dafydd
£12.99
 
Prynwch
Caneuon Ryan
Ryan Davies
£6.95
 
Prynwch
Hen Garolau Plygain
Geraint Vaughan-Jones
£7.95
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Dim Croeso '69 - ...
Arwel Vittle
£9.99
 
Prynwch
Saesneg
Levels, The
Helen Pendry
£8.99
 
Prynwch
Plant
Seren Orau'r Sêr! / ...
Sophy Henn
£5.99
 
Prynwch