Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Hela'r Hen Ganeuon
Meredydd Evans
ISBN: 9781847711786 (1847711782)Dyddiad Cyhoeddi Tachwedd 2009
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 215x140 mm, 248 tudalen Iaith: Cymraeg Allan o Stoc Ein Pris: £14.95   
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Cyfrol newydd ar gerddoriaeth draddodiadol Cymru, gan un o hoelion wyth cerddoriaeth werin yng Nghymru, Meredydd Evans. Mae'n olrhain hanes caneuon/alawon gwerin, a hynny drwy astudio gwaith rhai o'r casglwyr cynnar megis Iolo Morganwg, ac yna Maria Jane Williams hyd at J. Lloyd Williams yn yr ugeinfed ganrif.

A new volume on traditional Welsh music, written by one of the best-known characters in Wales, Meredydd Evans. He traces the history of folk songs, and in doing so, he studies the pioneers of the folk-song collectors in Wales, such as Iolo Morganwg and Maria Jane Williams, up until J. Lloyd Williams in the twentieth century.
Wrth longyfarch Dr Meredydd Evans ar ei ben-blwydd yn ddeg a phedwar ugain, pleser hefyd yw ei longyfarch ar ymddangosiad y gyfrol hon, gan ddiolch iddo am ei waith diflino dros y blynyddoedd ym maes alawon gwerin Cymru, yn dehongli a pherfformio.

Croniclir yma y gwaith o gasglu a chofnodi alawon gwerin Cymru dros y ddwy ganrif ddiwethaf. Iolo Morganwg yw’r casglwr cyntaf a drafodir a dangosir sut y bu iddo, o dan ddylanwad syniadau Edward Lhuyd, groniclo llawer o ganeuon gwaith a defod ei sir enedigol cyn i ddylanwadau’r Chwyldro Diwydiannol ddieithrio’r ardaloedd hynny.

Erbyn ail ddegawd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, Ifor Ceri yw’r casglwr pwysicaf. Dengys ei lawysgrifau, ‘Melus-Geingciau Deheubarth Cymru’ a ‘Melus Seiniau a Per-seiniau Cymru’, ei fod yn llawer trylwyrach casglwr nag Iolo, a’i fod yn dipyn gwell cerddor hefyd.

Cystadlaethau’r eisteddfodau cynnar yn gofyn am gasgliad o alawon gwerin fu’r symbyliad yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gydag Aneurin Owen yn ennill yn y Trallwng yn 1824, Maria Jane Williams yn y Fenni yn 1837, a Llywelyn Alaw yn Llangollen yn 1858. Ychydig o gasglu a fu yn ail hanner y ganrif ond arferid perfformio’r caneuon a oedd eisoes ar glawr mewn cyngherddau ac eisteddfodau, a chadwyd y diddordeb yn fyw trwy gyhoeddi pedwar cyfnodolyn cerddorol rhwng 1861 a 1920.

Ac yna, gyda throad yr ugeinfed ganrif, gwelwyd sefydlu Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, yn dilyn ffurfio cymdeithasau tebyg yn Lloegr ac Iwerddon rai blynyddoedd ynghynt, a chyhoeddwyd Cylchgrawn y Gymdeithas o 1909 ymlaen. Daw hynny â ni at y bennod olaf sy’n trafod gwaith sylweddol Dr John Lloyd-Williams yn y maes, y cyfraniad unigol mwyaf yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif.

Bydd y gyfrol gyfoethog hon, sy’n llawn fersiynau o’r alawon a drafodir, yn ddeniadol i’r darllenydd cyffredin yn ogystal â bod yn werthfawr i’r arbenigwr, er y byddai’r arbenigwr wedi croesawu mynegai i’r alawon ac i’r unigolion a drafodir er mwyn cyfeirio’n ôl gyda rhwyddineb at gynnwys y gyfrol dra defnyddiol hon.

Rhiannon Ifans

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Bywgraffiad Awdur:
Ganwyd Dr Meredydd Evans yn 1919 a magwyd ef yn Nhanygrisiau. Ar ol gadael yr ysgol yn 14 oed aeth i weithio fel siopwr, cyn parhau a'i addysg yng Ngholeg Clwyd, Y Rhyl a Choleg Prifysgol Bangor. Cafodd swydd wedyn yng Ngholeg harlech, yna bu'n gweithio fel newyddiadurwr ar Y Cymro, yn darlithio ym Mhrifysgol Princeton, UDA, ac yna yn yr Adran Efrydiau Allanol ym Mangor. Bu'n Bennaeth Adloniant Ysgafn gyda'r BBC cyn dychwelyd i Addysg Oedolion ym Mhrifysgol Caerdydd. Ymddeolodd Mered a Phyllis dros ugain mlynedd yn ol ac ymgartrefu yng Nghwmystwyth.

Bu'r ddau yn flaenllaw ym myd adloniant Cymru ers hanner canrif. Trwy eu hymroddiad a'u brwdfrydedd, maent wedi gwneud cyfraniad aruthrol i'r traddodiad canu gwerin, yr iaith Gymraeg ac i holl ddiwylliant Cymru.
Gwybodaeth Bellach:
Ffrwyth blynyddoedd o lafur diflino yw Hela'r Hen Ganeuon. Mae'r gyfrol nodedig hon yn trafod hanes casglu caneuon gwerin Cymru o gyfnod Iola Morganwg, yna Ifor Ceri a Maria Jane Williams, hyd at gyfraniad unigryw John Lloyd Williams i'r mudiad canu gwerin ar ddechrau'r ugeinfed ganrif. Mae'r awdur yn dadansoddi rhai gweddau cerddorol ar ein caneon gwerin, ac yn gosod eu cefndir a'u cyd-destun cymdeithasol.

Roedd eisteddfodau Cymru'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, fel eisteddfodau y Fenni, yn gyfrwng pwysig i gasglwyr ac unawdwyr alawon a chaneuon gwerin. A chyda twf cylchgronau fel Y Cerddor Cymreig a'r Perl Cerddorol roedd modd cadw'r caneuon gwerin yn fyw. Mae dyfyniadau cerddorol o ganeuon cyfarwydd ac anghyfarwydd yn frith drwy'r gyfrol, ac mae hanes sefydlu Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn 1906, a'r cecru a fu wrth wneud hynny, yn cael sylw haeddiannol.

*************************************
Helfa Meręd Rhwng Dau Glawr

Mae Dr Meredydd Evans wedi bod wrthi yn hela hen ganeuon ac alawon gwerin Cymru ers degawdau a’r wythnos hon bydd yn cyhoeddi ei ddarganfyddiadau mewn cyfrol newydd Hela’r Hen Ganeuon. Mae ynddi hanes twf cylchgronau cerdd fel Y Cerddor Cymreig a’r Perl Cerddorol a oedd mor bwysig wrth gyhoeddi alawon traddodiadol a dod â hwy i lygaid y cyhoedd. Mae’r gyfrol yn dilyn hanes casglwyr caneuon o gyfnod Iolo Morganwg ac Ifor Ceri hyd at gyfraniad unigryw John Lloyd Williams ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Mae Meręd hefyd yn olrhain hanes sefydlu Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn 1906, a’r cecru a fu wrth wneud hynny. Dengys ddylanwad aruthrol eisteddfodau Cymru ar gasglwyr ac unawdwyr ein cerddoriaeth draddodiadol, fel eisteddfodau’r Fenni.

Dywedodd yr awdur,“O ddarllen sawl llyfr yn ymwneud â cherddoriaeth werin cenhedloedd eraill, yn arbennig y Saeson, Albanwyr a’r Gwyddelod, gwelais mor ddwfn oedd anwybodaeth yr awduron am ein cynhysgaeth ni yng Nghymru. Dros gyfnod hir, mae Phyllis fy ngwraig a minnau wedi bod yn cyd-ganu a chyd-ddarlithio. Byddem yn ymchwilio i gefndir y caneuon, gan fwynhau gwneud hynny lawn cymaint â’u perfformio.”

Yn ôl Meinir Wyn Edwards o wasg Y Lolfa, golygydd y gyfrol, “Mae Hela’r Hen Ganeuon yn gyfrol a fydd yn apelio at bawb sy’n ymddiddori yn nhraddodiad gwerin Cymru, at bawb sy’n mwynhau canu gwerin ac am wybod sut yr aethpwyd ati i gasglu caneuon ac alawon gwerin dros y ddwy ganrif ddiwethaf. Mae ynddi ddyfyniadau o ganeuon gwerin cyfarwydd ac anghyfarwydd a cheir amrywiadau o’r un alaw gan wahanol gasglwyr, rhai ohonynt o’r llawysgrifau gwreiddiol. Rwy’n teimlo’n freintiedig o fod wedi gweithio ar gyfrol mor nodedig â hon a chydweithio gyda dyn mor fonheddig a hynaws â Meręd.”

Gan gofio mai ffrwyth llafur blynyddoedd o waith diflino Meręd a Phyllis yw Hela’r Hen Ganeuon, rhaid talu teyrnged i’w brwdfrydedd a’u gwaith ym maes cerddoriaeth werin ers hanner canrif a mwy. Bu’n gweithio fel darlithydd mewn prifysgolion yng Nghymru a’r Unol Daleithiau ac i’r B.B.C., yn ogystal â chyfrannu’n helaeth i’r byd adloniant fel rhan o Driawd y Coleg a chyhoeddi nifer fawr o erthyglau a llyfrau alawon gwerin. Ymddeolodd ef a Phyllis dros ugain mlynedd yn ôl ac ymgartrefu yng Nghwmystwyth, Ceredigion. Ac yntau’n cyrraedd ei 90 oed ar Ragfyr y 9fed rhaid cydnabod cyfraniad unigryw Meręd i ddiwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg.
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Daeth y Dyn - Teyrnged i ...
 
£16.33
 
Prynwch
Caneuon Llafar Gwlad / ...
 
£6.65
 
Prynwch
Caneuon Enwog Cymru / ...
 
£6.95
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Apostol
Dyfed Edwards
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Bee Book, The
Jo Byrne
£9.99
 
Prynwch
Plant
Dathlu gyda Sali Mali
Ifana Savill
£6.99
 
Prynwch