Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Mab y Mans – Hunangofiant Arfon Haines Davies
Arfon Haines Davies
ISBN: 9781847711878 (1847711871)Dyddiad Cyhoeddi Tachwedd 2009
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Golygwyd gan Alun Gibbard Fformat: Clawr Meddal, 215x140 mm, 192 tudalen Iaith: Cymraeg Allan o Stoc - Archebir yn l y galw Ein Pris: £9.95 
Sgr y Cwsmeriaid ar gyfartaledd:
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
 
Darllen Adolygiadau...
Hunangofiant un o gyflwynwyr mwyaf poblogaidd Cymru, Arfon Haines Davies. Daeth Cymru i adnabod Arfon gyntaf yn 1975 pan gafodd swydd fel cyhoeddwr wedi iddo orffen ei gwrs yng ngholeg drama Central, Llundain. Bu'n darlledu am saith mlynedd cyn dyfodiad S4C, yn y Gymraeg ac yn y Saesneg, ac mae wedi parhau i ddarlledu yn y ddwy iaith ers hynny.

The autobiography of one of Wales's most popular presenters, Arfon Haines Davies. Wales first came across Arfon in 1975 after he finished his course at the Central School of Drama in London and became a TV announcer. For seven years before the arrival of S4C he was broadcasting in English and Welsh, and has continued to do so ever since.
Un or hunangofiannau a gyhoeddwyd ar gyfer y Nadolig oedd Mab y Mans, hunangofiant Arfon Haines Davies, wedii ysgrifennu gyda chymorth Alun Gibbard, sydd hefyd yn fab y mans ac a oedd yn deall y disgwyliadau oedd ar Arfon ar rhwystredigaeth o glywed pobl yn dweud a chithau yn fab i weinidog! Fel merch y mans fy hun, mi alla i ddweud Amen i hynny!

Mae Arfon, wrth gwrs, yn un o gyflwynwyr enwocaf a mwyaf poblogaidd Cymru, yn y Gymraeg ar Saesneg. Ond nid oedd yn disgleirio yn ystod ei amser yn yr ysgol. Digon cyffredin oedd ei berfformiad yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth ac yn Ysgol Ardwyn wedyn, ac roedd yn falch o adael y lle a symud i Ysgol Glan Clwyd am flwyddyn, gan ddweud wrth y prifathro, Desmond Healey, ei fod fel symud o Colditz i Butlins!

Wedi gadael Coleg y Drindod aeth yn athro i Brynford, sir y Fflint. Cafodd secondiad or ysgol i fynychur Central School of Speech and Drama ar yr amod y byddain dychwelyd i ddysgu wedyn. Ond ni ddychwelodd ir ysgol am iddo gael swydd fel cyhoeddwr gyda HTV yn lle hynny. Trwy ddilyn gyrfa Arfon rydym yn gweld y newidiadau sydd wedi digwydd yn HTV ac yn cael golwg ar y byd darlledu yng Nghymru, gydag Arfon yn feirniadol o gyflwynwyr syn methu ynganu enwau llefydd a phobl o Gymru.

Cawn glywed am ei hanes yn cyflwyno rhaglenni fel Seren Dau, Jam, Telethon, Pacio, Pen-blwydd Hapus, ei ymddangosiadau enwog ar Tiswas ac mae yna bennod gyfan am ei brofiad o ddysgu hedfan hofrennydd ar gyfer Y Briodas Fawr. Ond y rhannau mwyaf difyr i mi oedd cael gwybod am y pethau nad oeddwn in eu gwybod yn barod am Arfon. Difyr oedd cael gwybod ei fod yn chwaraewr tennis brwd, ac wedi bod yn taro pl dros y rhwyd gyda John Newcombe wrth gynhesu ar gyfer cystadleuaeth yn Holyake! Difyr hefyd oedd darllen am ei ddiddordeb mewn sr Hollywood, casglu llofnodion ac ysgrifennu llythyrau atynt - bun ysgrifennun gyson at James Stewart a Grace Kelly, a chafodd gyfle i gyfarfod llawer oi arwyr. Dim ond rhai elfennau difyr ywr rhain mewn cyfrol ddiddorol syn rhoi cip i ni ar fywyd un o gyflwynwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

Nest Gwilym

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Gwybodaeth Bellach:
Roedd Arfon Haines Davies yn rhan or broses gynnar o agor y byd pop Cymraeg i gynulleidfa ehangach trwy gyfresi fel Sr. Darlledodd yn fyw am saith awr ar hugain yn y Telethon gynta ar HTV yn 1988 ac yn fwy diweddar, rhannodd un oi ofnau mwyaf gyda Chymru gyfan wrth geisio concro ei ofn o hedfan a dysgu hedfan hofrennydd ar y Briodas Fawr. Ar hyn o bryd, er gwaetha newidiadau yn y diwydiant sydd wedi effeithio ar HTV yn fawr, maen dal i gyflwynor gyfres archif Never to Be Forgotten.

Bu hefyd yn astudio yng Ngholeg y Drindod yng nghyfnod Norah Issac, Islwyn Ffowc Elis a Carwyn James.

Ond cafodd hefyd gyfnodau anodd, yn ceisio dygymod disgwyliadau pobol eraill o gyfnodau ofnadwy yn ysgol Ardwyn, Aberystwyth, ir pwysau o fod yn Fab y Mans.

**************************************
Safonau darlledu o dan y lach

Mae un o gyflwynwyr mwyaf poblogaidd Cymru yn feirniadol o safonau darlledu presennol yn ei hunangofiant newydd, Mab y Mans, fydd yn cael ei lansio mewn derbyniad yn nhafarn Y Mochyn Du, Caerdydd ar ddydd Iau Tachwedd 19. Yn ei lyfr, a gyhoeddir gan Y Lolfa, mae Arfon Haines Davies yn sn am y gofal yr oedd cyflwynwyr yn arfer cymryd i ynganu geiriau ac enwaun gywir. Maer pwysigrwydd o ynganu cywir wedi aros gydag ef ar hyd ei yrfa ac maen cyfaddef bod cam-ynganu geiriau Cymraeg yn ei wylltio.

Dywedodd Arfon Haines Davies, Yn fy nyddiau cynnar gyda HTV mi fyddai ITN yn ffonion gyson i ofyn sut roedd ynganu rhyw air Cymraeg, ac yn mynd ir drafferth iw gael yn gywir. Mi fydda in gwingo wrth glywed yr ymdrechion i ddweud enw Bryn Terfel heddiw, er enghraifft. Yn fwy aml na pheidio, maen cael ei alwn Tyrffl. Pa mor anodd yw cymryd y terr o terrace ar vel o velcro au rhoi at ei gilydd?

Ymddangosodd Arfon ar y teledu yn 1975 ac yn y dyddiau cynnar hynny, cyn dyfodiad S4C, roedd yn darlledu yn Gymraeg ac yn Saesneg. Arfon oedd un or bobl wnaeth agor y byd pop Cymraeg i gynulleidfa ehangach, trwy gyfresi poblogaidd fel Sr. Maen parhau i ddarlledu hyd heddiw, gydai gyfres archif Never To Be Forgotten.

Dywedodd Arfon Haines Davies, Fy merch Catrin sydd nawr yn 16 mlwydd oed wnaeth fy ysgogi i ysgrifennu fy hunangofiant a dwin ddiolchgar iawn iddi, achos maer profiad wedi bod yn un ffantastig a therapiwtig tu hwnt. Roedd fy nhad yn ddylanwad mawr arna i ac un oi hoff ddywediadau - ac roedd ganddo lawer oedd Cofiwch bob amser ddweud diolch. Dwi wedi bod yn ffodus iawn yn fy ngyrfa - wedi bod yn y lle iawn ar yr amser iawn. Dwi wedi cael teithior byd a chyfarfod arwyr di-ri. Dwin gwerthfawrogi hynnyn fawr a dwi hefyd, trwy fy llyfr, eisiau diolch i bawb wnaeth fy helpu ar fy ffordd.

*********************************
Dwy iaith a dwywaith y llwyddiant i Arfon Haines Davies

Mae en un o nifer fechan o bobl. Mae mor adnabyddus ir Cymry di-Gymraeg ar Cymry Cymraeg. Bach iawn o gyflwynwyr sydd wedi llwyddo i serenu yn y ddwy iaith, ond yn sicr mae Arfon Haines Davies yn un ohonynt. Yn ei hunangofniant newydd, a elwir yn Mab y Mans, cawn gyfle i ddysgu mwy am hanes ei fagwraeth a dilynwn helyntion ei fywyd ai lwyddiant ar y sgrn fach. Cafodd ei ysgrifennu mewn cydweithrediad ag Alun Gibbard.

Yn ei lyfr mae Arfon Haines Davies yn sn am ei yrfa yn y byd darlledu ac am y gofal yr oedd cyflwynwyr yn cymryd i ynganu geiriau ac enwau Cymraeg yn gywir. Maer pwysigrwydd o ynganu cywir wedi aros gydag ef ar hyd ei yrfa ac maen cyfaddedd bod camynganu geiriau Cymraeg yn ei wylltio.

Dywedodd Arfon Haines Davies, Yn fy nyddiau cynnar gyda HTV mi fyddai ITN yn ffonion gyson i ofyn sut roedd ynganu rhyw air Cymraeg, ac yn mynd ir drafferth iw gael yn gywir. Mi fydda in gwingo wrth glywed yr ymdrechion i ddweud enw Bryn Terfel heddiw, er enghraifft. Yn fwy aml na pheidio, maen cael ei alwn Tyrffl. Pa mor anodd yw cymryd y terr o terrace ar vel o velcro au rhoi at ei gilydd?

Mae Cymru ar Gymraeg wedi bod yn bwysig i Arfon erioed. Ymddangosodd ar y rhaglen boblogaidd Saesneg i blant, Tiswas, a chyflwynor iaith i cynulleidfaoedd newydd. Maen cofio cyd-gyflwyno y parodi o raglen newyddion gyda Lenny Henry fel y cymeriad Syr Trevor McDoughnut. Darllennodd Henry frawddeg yn Saesneg, gydar fersiwn Gymraeg yn dilyn gan Arfon, a oedd wedi ei wisgo mewn union yr un dillad Henry. Maen cofio ei fraw ai syndod wrth i ddŵr gael ei daflu dros Henry a ni chafodd ei siomi wrth ir un ffawd ei ddisgwyl ef.

Ond nid oedd bywyd bob tro yn hawdd i Arfon. Profodd gyfnodau anodd yn ceisio dygymod disgwyliadau pobl eraill o gyfnodau annifyr yn Ysgol Ramadeg Ardwyn, Aberystwyth, ir pwysau o fod yn Fab y Mans. Roedd yn falch iawn pan symudodd y teulu i fyw i Dreffynnon yn Sir y Fflint ar ddiwedd ei flwyddyn yn y Chweched Isaf.
Dwin cofio i brifathro Ysgol Glan Clwyd yn y Rhyl ofyn sut roeddwn yn setlo i mewn a chael tipyn o sioc pan atebais Mae fel mynd o Colditz i Butlins, dywedodd Arfon. Dwi ddim yn credu wnaeth e werthfawrogir sylw, er roeddwn yn ei feddwl e yn y ffordd orau posib.

Mae gan Arfon gysylltiadau sawl rhan o Gymru. Fel Mab y Mans cafodd ei eni yng Nghaernarfon, ei fagu yn Aberystwyth a chafodd ei addysg yno ac yn Ysgol Glan Clwyd. Mae bellach yn byw yng Nghaerdydd, gydai wraig, Angela, au merch Catrin, 16. Tipyn o deithio o gwmpas felly. Ac mae teithio, neu trenaun benodol, yn rhan fawr oi fywyd hyd heddiw.

Trainspotter ywr label Saesneg ar un o ddiddordebau mwyaf Arfon ac maen trainspotter heb ei ail. Roedd yr ysgol gynradd a fynychodd Arfon sef Ysgol Gymraeg Aberystwyth drws nesaf ir orsaf drenau ac yno y byddain treulio hydoedd yn edrych ar fwg a phrysurdeb y Cambrian Coast Express.

Doedd Arfon ddim yn un am eisteddfota. Gan ei chwaer Catherine roedd y ddawn am adrodd ac felly roedd yn syndod mawr pan benderfynodd Arfon fynd i wiethio yn y cyfryngau. Yn wir, iw chwaer maer diolch fod Arfon yn y byd teledu o gwbwl, gan mai hi wnaeth ysgrifennu ei llythyr cais i HTV am ei swydd gyntaf fel cyhoeddwr.

Ymddangosodd Arfon ar y teledu yn 1975 ac yn y dyddiau cynnar hynny, cyn dyfodiad S4C, roedd yn darlledu yn Gymraeg ac yn Saesneg. Arfon oedd un or bobl wnaeth agor y byd pop Cymraeg i gynulleidfa ehangach, trwy gyfresi poblogaidd fel Sr. Maen parhau i ddarlledu hyd heddiw, newydd orffen cyfres ar y rheilffyrdd i raglen Wedi 3 ar S4C.

Dywedodd Arfon Haines Davies, Fy merch Catrin sydd nawr yn 16 mlwydd oed wnaeth fy ysgogi i ysgrifennu fy hunangofiant a dwin ddiolchgar iawn iddi, achos maer profiad wedi bod yn un ffantastig a therapiwtig tu hwnt. Roedd fy nhad yn ddylanwad mawr arna i ac un oi hoff ddywediadau - ac roedd ganddo lawer oedd Cofiwch bob amser ddweud diolch. Maen hollol addas felly i fi ddiolch i Alun Gibbard am roi trefnu ar fy hanesion a gwneud synnwyr o fy atgofion.
Roedd yn braf cael sgwrsio gydag Alun, gan fod gennym cymaint yn gyffredin. Mae e hefyd yn fab i weinidog a bun gweithio am flynyddoedd i HTV fel finnau. Roedd en deall ir dim y disgwyliadau o fod yn Fab y Mans ar gwingo anochel wrth glwyed y geiriau ...a chithau yn fab i weinidog - ran annatod o bob cerydd.
Wnes i ddim mwynhau fy amser yn Ysgol Ardwyn, rhaid cyfaddef. Roeddwn i ddim yn fachgen drwg fel y cyfryw ond efallai yn un ddigon direidus. Yn bendant rown i allan o fy nyfnder yn academaidd ac roedd gennyf wir ofn or athrawon. Dyw hynny ddim yn bleserus nac yn adeiladol.

Dwi wedi bod yn ffodus iawn yn fy ngyrfa - wedi bod yn y lle iawn ar yr amser iawn. Dwi wedi cael teithior byd a chyfarfod arwyr di-ri. Dwin gwerthfawrogi hynnyn fawr a dwi hefyd, trwy fy llyfr, eisiau diolch i bawb wnaeth fy helpu ar fy ffordd.

Ychwanegodd Lefi Gruffudd, golygydd cyffredinol, Y Lolfa, Mae Arfon Haines Davies yn un or bobl yna sydd wedi llwyddo mewn bywyd er gwaethaf profiadau anodd yn eu plentyndod. Mae ei hunangofiant yn sn am ei brofiadau bywyd mewn modd agored a gonest maen driw ir gŵr hynaws sydd mor gyfarwydd i ni ar y sgrn fach.
Rhoddodd Liz Davis (formerly Wilkinson) o Beverley i'r teitl yma ac ysgrifennodd:
"I bought this book with great interest, having known Arfon when he lived in Muswell Hill in 1974, but being a Yorkshire lass, I would appreciate an English-language version. So, please Arfon, have you an English version I would love to read about your glittering lifestyle."
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Inside out Series: Welsh ...
Steve Dubé
£4.99
 
Prynwch
Prynu Lein Ddillad – ...
Hafina Clwyd
£8.50
 
Prynwch
Half Time - My ...
Nigel Owens
£14.95
Llyfr y Mis
Cymraeg
Mam - Cerddi gan Famau, ...
 
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Talk Welsh
Heini Gruffudd
£6.95
 
Prynwch
Plant
Mis yr Ŷd
Manon Steffan Ros
£5.99
 
Prynwch