Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Wyn Mel - Y Fi a Mr Urdd a'r Cwmni Da
Wynne Melville Jones
ISBN: 9781847712042 (1847712045)Dyddiad Cyhoeddi Mawrth 2010
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 214x139 mm, 176 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £9.95 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Wynne Melville Jones gafodd y syniad o greu Mr Urdd, ac mae'r gyfrol hunangofiannol hon yn dilyn hanes bywyd a gyrfa'r entrepreneur o ardal Tregaron. Mae cenedlaethau o blant wedi eu magu yng nghwmni Mr Urdd ac mae'n dal i fod yr un mor boblogaidd ag erioed. Cyhoeddir y gyfrol ar drothwy Eisteddfod yr Urdd Ceredigion, 2010.

Wynne Melville Jones was the inspiration behind Mr Urdd, and this autobiographical book follows the life story of the Tregaron-born entrepreneur. Generations of children have been raised in the company of Mr Urdd, and he's still as popular as ever. The volume is published to coincide with the Urdd National Eisteddfod 2010 in Ceredigion.
Does yna ddim drwg, medd yr hen wireb, heb i ryw ddaioni ddod yn ei sgil. A does dim byd yn profir wireb honnon well na llwyddiant Mistar Urdd. Gydar mudiad yn rhanedig wedi ymddangosiad y Tywysog Charles yn Eisteddfod yr Urdd yn Aber, yn 1969, roedd angen gwellar clwyfau. Daeth y feddyginiaeth o gyfeiriad annisgwyl iawn - pyped bach coch, gwyn a gwyrdd.

Fel pob darganfyddiad o bwys, dawr weledigaeth yn fwy fel sibrydiad yn hytrach na fel ergyd o wn. Dydw i ddim yn meddwl i Wyn Mel weiddi Eureka a neidio i fyny ac i lawr pan wnaeth e sylweddoli yn ei gartref un noson y gallai bathodyn trionglog yr Urdd droin byped a fyddain swyno rhai ac a fyddain straen ar amynedd eraill.

Ond does yna neb a all wadu dylanwad y dyn bach trilliw ar genedlaethau o blant ai ddylanwad wrth hybu delwedd mudiad cyfan. Mae ei grwr yn ei gymharu r Goli hwnnw a fun gydymaith i botiau jam a marmald Robertsons.

Mae hon yn gyfrol syn llawer mwy na hanes creu a marchnata tegan. Cawn yma hanes mudiad a rwygwyd (yn gwbl ddiangen, mi gredaf fi) ac, ar yr un pryd, cawn fewnwelediad i feddylfryd Wyn ei hun. Oi enedigaeth ai fagwraeth yn Nhregaron iw bererindod yrfaol a arweiniodd at sefydlu Strata, mae hin stori o lwyddiant. Ond fel yr hyn syn nodweddiadol or dyn, mae hin stori gynnes heb arlliw o frolio.

Fel un a oedd yn newyddiadura pan gafodd y pyped ei eni, cefais sawl achos droeon i ddamnio Wyn Mel am fy mhlagio hanesion am Mistar Urdd. Ond mae en gymeriad mor ffeind fel na all neb beidio i leicio. Gallwn ddweud yr un peth am Wyn Mel hefyd!

Lyn Ebenezer

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Bywgraffiad Awdur:
Brodor o Dregaron yw Wynne Melville Jones ac mae ei gysylltiad mudiad yr Urdd wedi bod yn gyson ar hyd y blynyddoedd, fel aelod pan yn blentyn ac wedyn am gyfnod o ddeng mlynedd ar staff y mudiad cyn ei ethol yn Gadeirydd Cyngor yr Urdd am gyfnod o saith mlynedd. Erbyn maen Llywydd Anrhydeddus ac yn un o arweinwyr dylanwadol y mudiad.

Yn 1979 sefydlodd gwmni cysylltiadau cyhoeddus dwyieithog cyntaf Cymru-StrataMatrix a dros y blynyddoedd esblygodd y cwmni i fod yn un o brif gwmniau cyfathrebu Cymru.

Mae hefyd yn un o sefydlwyr y cylchgrawn Golwg ac yn gyfarwyddwr ar Golwg Cyf a Golwg360. Yn ddiweddar ymunodd bwrdd cwmni cymunedol Vestri.
Gwybodaeth Bellach:
MISTAR URDD AR TYWYSOG CHARLES

Daeth y cymeriad bach bywiog gwyn, coch a gwyrdd Mistar Urdd a ddyfeisiwyd i boblogeiddio Urdd Gobaith Cymru, yn enwog dros nos a tyfodd yn ffefryn i ddegau o filoedd o blant a ieuenctid Cymru am dros 34 o flynyddoedd.

Ganwyd Mistar Urdd yn 1976 mewn ymateb i greisis yn hanes yr Urdd yn dilyn rhwyg chwerw ar fater Arwisgo Tywysog Charles yn Dywysog Cymru yng Ngorffennaf 1969.

Maer stori syn adrodd un or cyfnodau mwyaf cynhyrfus yn hanes diweddar Cymru, yn cael ei ddatgelu mewn llyfr newydd syn cael ei lawnsio heddiw. Yn Y Fi a Mistar Urdd ar Cwmni Da maer awdur Wynne Melville Jones, tad Mistar Urdd yn adrodd y stori o sut a pam yr aeth ati i greu a datblygur cymeriad.

Maen orhain ei ymwneud r Urdd adeg fel plentyn ysgol yn Nhregaron, yn cystadlu rhyw gymaint yn Eisteddfodaur Urdd yn ei arddegau ac yn cael blas ar greu ffrindiau newydd yng Ngwersylloedd yr Urdd.

Treuliodd ddegawd ar staff yr Urdd ac wedi cyfnod yn Drefnydd Sir yr Urdd cafodd ei apwyntio yn Swyddog Cyhoeddusrwydd y mudiad yn fuan ar l yr Arwisgo yng Nghastell Caernarfon. Sylweddolais yn gynnar yn y swydd bod y gwaith yn gofyn am fwy na threfnu cyhoeddusrwydd ir mudiad yn y wasg ac ar y cyfryngau a bod angen cymryd camau radical i newid delwedd a chodi ysbryd y mudiad a thanio brwdfrydedd newydd ymysg yr arweinyddion ar aelodau er mwyn ir Urdd oroesi hyd ddiwedd y ganrif.

Gyda nifer or arweinyddion ifainc wedi eu digalonni yn sgil y gwrthdaro adeg yr Arwisgo roedd diddordeb llawer ohonynt wedi pylu ac roedd moral y mudiad yn isel iawn, yn l Wynne.

Bur drafodaeth ynglŷn phriodoldeb ir Urdd dderbyn gwahoddiad i achlysur Arwisgo Tywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon yng Ngorffennaf 1969 yn un boeth a chwerw a rhwygwyd y mudiad yn ei hanner. Maer llyfr yn ymgais gyntaf i geisio dadansoddi pam mair Urdd, o bob mudiad Cymraeg, wnaeth ddioddef fwyaf yn sgil yr gwrthdaro ffyrnig a fu yng Nghymru ar y pwnc.

Roedd nifer o aelodau Pwyllgorau Canolog yr Urdd yn bryderus y byddai anwybyddu yr Arwisgo a pheidio a derbyn y gwahoddiad i fod yn rhan or dathlu yn adlewyrchu yn wael ar yr Urdd. Ofnent y gallai hyn effeithio ar gefnogaeth ariannol or pwrs cyhoeddus ac y byddai yn gwneud drwg i ddelwedd y mudiad ymhlith y Sefydliad Cymreig ac yn chwalu degawdau o waith called.

Teimlau eraill, ac yn arbennig y to iau, mai stynt wleidyddol oedd yr Arwisgo ai fod yn ddigwyddiad diystyr ac amherthnasol. Barn carfan arall oedd mai gwastraff arian oedd e ac roedd yna nifer yn dangos dim diddordeb o gwbwl yn yr achlysur. Roedd y mudiad yn gwbwl ranedig ar y mater a phenderfynodd Cyngor yr Urdd o fwyafrif bychan i dderbyn gwahoddiad ac anfon cynrychiolaeth fechan i Gastell Caernarfon. Wedi hynny, yn dilyn ymgyrchu gan aelodau ifanc yr Urdd fe ail-alwyd y Cyngor i drafod y mater eto gydar canlyniad ir penderfyniad gwreiddiol gael ei wyrdroi. Ymddiswyddodd rhai aelodau amlwg or Cyngor.

Cytunwyd ar gyfaddawd drwy wahodd y Tywysog, oedd ar y pryd yn fyfyriwr Astudiaethau Cymreig yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd y flwyddyn honno yn y dre i gyflwyno y Wobr Frenhinol ir Sir uchaf ei marciau yn yr Eisteddfod ai fod i wneud hynny yn Gymraeg. Pan safodd y Tywysog ar lwyfan yr Eisteddfod cododd rhai cannoedd o bobl ifainc yr Urdd yn y gynulleidfa mewn protest a gweiddi sloganau gwrth-Arwisgo wrth gerdded allan or babell.

Trefnwyd hefyd, ar gais y Tywysog, ei fod i ymweld Gwersyll Glan-Llyn ar lan Llyn Tegid drannoeth yr Arwisgo er mwyn treulior prynhawn yn ymlacio yng nghwmni pobl ifanc, cyn mynd ar ei daith o gwmpas Cymru.

Mae llawer o gwestiynnau wedi eu gofyn pam mair Urdd o bob mudiad Cymreig arall wnaeth ddioddef waethaf yn sgil yr Arwisgo? Ai cynllwyn cyfrwys a stynt wleidyddol oedd yr holl beth gan George Thomas ,Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, a oedd yn enwog am ei agwedd wrth-Gymraeg ac am ei obsesiwn ynglŷn thŵf cenedlaetholdeb Cymreig? Ai ymgais oedd e i ddrysu y garfan honno or boblogaeth na wyddent y gwahaniaeth rhwng yr Urdd, y Free Wales Army a Chymdeithas yr Iaith?

A oedd yr Urdd yn darged rhy hawdd ac a oedd yma fwriad i greu embaras i sylfaenydd y mudiad Syr Ifan ab Owen Edwards ar Cyfarwyddwr RE Griffith, y ddau yn ffigyrrau amlwg yng Nghymru ar ddau hefyd yn aelodau o bwyllgoraur Arwisgo?

Derbyniodd nifer o sefydliadau Cymreig eraill wahoddiad ir Arwisgo yng Nghaernarfon gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol a Gorsedd y Beirdd heb i hynny greu unrhyw broblem. Penderfynu gadael y mater yr Arwisgo ar y bwrdd wnaeth Plaid Cymru ond gwrthododd Llywydd y Blaid Gwynfor Evans a mynychur achlysur, a bu hynny yn un rheswm pam iddo golli sedd Caerfyrddin yn l rhai pobol. Eto fe lwyddodd y Blaid yn rhyfeddol yn Chwefror 1974 i ennill dwy sedd ychwanegol ac anfon Dafydd Wigley a Dafydd Elis-Thomas i San Steffan, ond roedd yr Urdd yn dal i ddioddef wyth mlynedd wedir Arwisgo.
Maen rhy hawdd i bwyntio bys ar ddigwyddiadau allannol er i rheiny yn ddios gyfrannu at y difrod a wnaed ir Urdd. Roedd yna hefyd densiynnau mewnol yn mud ferwi yn y mudiad ers rhai blynyddoedd am fod y to ifanc yn teimlon ddiymadferth ac yn ddi-rym pan oedd hin fater o ddylanwadu ar bolisi a chyfeiriad y mudiad. Bobol canol oed a hŷn oedd y rhan fwyaf o aelodaur Pwyllgorau Canolog, llawer ohonynt yn bobl uchel iawn eu parch oedd wedi gweithio yn egniol i gefnogi a datblygur diwylliant ar Iaith Gymraeg.

Roedd canfyddiad y to hyn o beth oedd ystyr Cymreictod i bobl ifainc y 60au ar 70au braidd allan o sinc ac yn wers i bob mudiad hyd yn oed heddiw. Rhaid i bob mudiad gydnabod dyheadau a gweledigaeth y bobol y mae yn bodoli iw gwasanaethu a rhaid sicrhau bod ganddynt lais a dylanwad yn y broses o wneud penderfyniadau.

Gadawodd yr ymgecru adeg yr Arwisgo flas cs a bun agos at ddegawd cyn i waith caled gan nifer o bobl ddwyn ffrwyth ond mae prif neges yr Arwisgo eto iw dysgu am fod cweryla ac ymgecru ymhlith ein gilydd yn niweidiol iawn i ddatblygiad y genedl Gymreig.

Yn y cyfnod hwn y cychwynnais i ar fy ngwaith fel dyn PR yr Urdd. Roedd angen mwy na chynllun ail-frandio ond cefais y cyfle i fod yn rhan o broses o ddatblygu syniadau newydd er mwyn ceisio apelio at genhedlaeth newydd o ieuenctid a bu Mistar Urdd yn un or ymgyrchoedd llwyddiannus. Fe dalodd yr ymgais i adfywior Urdd ar ei ganfed ac maer mudiad heddiw yn eithriadol o lwyddiannus gyda throsiant ariannol o tua 8M, 50,000 o aelodau a 200 o staff ac maer Urdd yn cael ei gydnabod fel un o fudiadau ieuectid goraur byd, yn l Wynne Melville jones.

MISTAR URDD Cerrig Milltir

Seiliwyd Mistar Urdd ar fathodyn trilliw a thrionglog yr Urdd a daeth yn boblogaidd dros nos fel cyfrwng i hyrwyddor mudiad. 34 mlynedd yn ddiweddarach maen dal yn ffefryn gan blant a phobl ifanc ym mhrif ddigwyddiadaur Urdd.

Yn sgil y galw mawr am nwyddau ar ffurf a delwedd Mistar Urdd datblygwyd adran fusnes o fewn y mudiad ac oherwydd y galw bun rhaid adleoli yr uned gynhyrchu o Swyddfar Urdd yn Abereystwyth i ffatri barod ar stad ddiwydiannol yn Llanbadarn Fawr ac fe agorwyd Siop Mistar Urdd a sefydlwyd gwasanaeth gwerthu trwyr post.

Roedd Pafilwn Gerddi Soffia yng Ngharedydd yn llawn iw hymylon i groesawu Mistar Urdd yn fyw ar y llwyfan yn Ionawr 1979 cyn iddo gychwyn ar daith 12 wythnos o gwmpoas Cymru i gyfarfod a ffrindiau Mistar Urdd ledled Cymru.

Mae Mistar Urdd wedi teithio ymhell. Bun gydymaith ir gofodwr Cymreig Dafydd Rhys Williams gan hedfan trwyr gofod ar 17eg Ebrill 1998 ar daith ir Orsaf Ofod Rhyngwladol. Yn ddiweddar gwnaeth yr Urdd ddatlu bod Gareth Lewis cyn yrrwr fan llyfrgell o Bow Street Ceredigion am iddo deithio cyfanswm o 384,000 milltir yn ei gar personol gyda Mistar Urdd yn gwmni ar bob un taith.

Recordiwyd nifer o ganeuon Mistar Urdd gan sr yn cynnwys Emyr Wyn, Mici Plwm a Ray Gravell ac fe gyfansoddwyd cn Trons Mistar Urdd gan y Super Furry Animals.

Bu ymgyrch Mistar Urdd yn un or mentrau marchnata mwyaf yn yr Iaith Gymraeg.



Cr ABC yn canu 'Cn Mr Urdd' yn ystod y lansiad
Diweddarwyd ar 29 Mawrth 2010
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Teach Yourself Welsh Grammar
Christine Jones
£10.99
Cerddi'r Cywilydd
Gerallt Lloyd Owen
£4.95
 
Prynwch
Cilmeri a Cherddi Eraill
Gerallt Lloyd Owen
£5.95
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Mam - Cerddi gan Famau, ...
 
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Talk Welsh
Heini Gruffudd
£6.95
 
Prynwch
Plant
Mis yr Ŷd
Manon Steffan Ros
£5.99
 
Prynwch