Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Cyfres Maw: Maw!
Richard Llwyd Edwards
ISBN: 9781847712219 (1847712215)Dyddiad Cyhoeddi Mawrth 2010
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Darluniwyd gan Richard Llwyd EdwardsAddas i oed 0-7 neu Cyfnod Allweddol 1 Fformat: Clawr Meddal, 225x232 mm, 24 tudalen Iaith: Dwyieithog (Cymraeg a Saesneg) Ar gael Ein Pris: £2.95 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Llyfr bach lliwgar am gath fach sinsir o'r enw Maw. Mae'n gath annwyl ond swnllyd iawn, ac mae hi eisiau sylw o hyd. Ceir brawddegau byr ar bob tudalen, yn cyflwyno patrymau iaith syml i blant sy'n dechrau darllen yn annibynnol. Mae testun Saesneg ar waelod pob tudalen ar gyfer rhieni di-Gymraeg. Wedi'i hysgrifennu gan awdur y gyfres boblogaidd Twm Twrch.

A small, colourful book about a ginger cat called Maw. She's a lovely cat, but very noisy, always seeking attention. A book for young children, with English text at the bottom of each page so non-Welsh-speaking parents can read along too.
English review follows

Cath fach gringoch yw Maw, syn dweud Maw! ar bob tudalen or llyfr difyr hwn. Maer stori ar testun yn syml tu hwnt, ac ar ffurf rhestr or holl sefyllfaoedd y mae Maw yn dweud Maw! ynddynt. Maer rhestrin arbennig o effeithiol, a bydd plant yn mwynhaur ailadrodd, ar rhai lleiaf yn ehangu eu geirfa (Mae Maw yn dweud . . . Mae Maw yn galw . . . Maen gweiddi . . . Mae Maw yn sgrechian . . .). Dilynwn Maw i bob math o achlysur a sefyllfa, gan gynnwys Noson Calan Gaeaf, parti pen blwydd, pwll o ddŵr, a lluwch o eira, nes iddo gwympo i gysgu mewn basged o ddillad ar ben y peiriant golchi. Bydd y storin apelio at y plant lleiaf, a bydd yr hiwmor yn apelio at ddarllenwyr newydd, boed y rheinyn blant neun oedolion syn dysgu Cymraeg (a cheir cyfieithiad Saesneg ar waelod pob tudalen, sydd wedii anelu at y rhain).

Heather Williams

******************************************

Maw is a ginger cat and utters the word 'Maw!' on every single page of this entertaining book. The story and text are simple and list effectively the situations in which Maw says 'Maw'. No doubt, children will enjoy the repetition in this book and the text will improve the vocabulary of younger kids. The book gives us a chance to follow Maw through all sorts of trials and tribulations - we have a chance to meet Maw at Halloween, in a birthday party, in a pool of water and in a snow storm. The stories and humour will appeal to smaller children and new readers. At the bottom of each page there is a translation suitable for Welsh learners.

Heather Williams

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Bywgraffiad Awdur:
Mae Richard yn byw yng Nghorris Uchaf gyda chwech o gathod. Maen bennaeth Adran Gelf Ysgol Penglais, Aberystwyth ac ef yw crwr y cymeriad Twm Twrch.
Gwybodaeth Bellach:
Maw Y Gath o Gorris Uchaf sydd ai Fryd ar Goncror Byd

Yr wythnos hon cyhoeddir llyfr llun a stori i blant bach am Maw, cath fach gringoch o Gorris Uchaf. Gobaith y cyhoeddwyr ar awdur yw mai Maw fydd cath enwocaf Cymru cyn hir. Hon ywr gyfrol gyntaf mewn cyfres oi anturiaethau ac wrth ddarllen y llyfr maer plant yn cael cyfle i ddod i adnabod y gath hoffus.

Richard Llwyd Edwards yw awdur a darlunydd y gyfrol. Wrth ddisgrifio Maw dywedodd, Hoff bethau Maw yw dringo, dweud ei enw, chwarae, bwyta a chysgu a chysgu a chysgu Maen cefnogi Celtic ai hoff liwiau yw gwyrdd, gwyn ac wrth gwrs oren fel ei wallt!

Ychwanegodd Meinir Edwards ar ran Y Lolfa, cyhoeddwyr y gyfrol, Dwin siŵr y bydd Maw yn taro deuddeg gyda phlant bach. Maen amhosib peidio ei hoffi. Gobeithio ymhen amser y bydd Maw yn datblygu i fod yn enw mor adnabyddus ag Alun yr Arth, Bili Boncyrs a chymeriadau Gwlad y Rwla ymhlith plant Cymru.
Diweddarwyd ar 13 Ebrill 2010
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Peppa Pinc: Pyllau Mwdlyd ...
 
£5.99
 
Prynwch
Oli dan y Don: Hen Long, ...
 
£5.99
 
Prynwch
Tŷ Cyw (DVD110)
 
£5.99
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Mam - Cerddi gan Famau, ...
 
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Talk Welsh
Heini Gruffudd
£6.95
 
Prynwch
Plant
Mis yr Ŷd
Manon Steffan Ros
£5.99
 
Prynwch