Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Hwn Ydwyf, Yr - Hunangofiant John Meredith
John Meredith
ISBN: 9781847712790 (1847712797)Dyddiad Cyhoeddi Medi 2010
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 215x140 mm, 144 tudalen Iaith: Cymraeg Archebir yn l y galw Ein Pris: £7.95   
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Ac yntau newydd ymddeol, mae John Meredith yn edrych yn ôl ar ei yrfa fel darlledwr ac yn neilltuo pennod gyfan i noson y refferendwm ar ddatganoli yn 1997, pan gyflwynodd wybodaeth dyngedfennol i'r genedl gyda'r gair Ydwyf. Cawn hefyd hanes ei fagwraeth, ei waith arloesol fel gwyddonydd, ei ddiddordeb m ewn chwaraeon a'i yrfa gyda'r BBC.

Recently retired John Meredith looks back on his career as a broadcaster and dedicates a complete chapter to the night of the 1997 devolution referendum, when he revealed the final result to the nation. We also learn about rural life, his pioneering scientific work, his interest in sport and his BBC career.
Mas o lyfyr ma fe wedi cal popeth am gyffele... oedd y sylw craff y digwyddais ei glywed mewn sioe amaethyddol, a hynny am berson amlwg ym myd y cobiau. Nid un sydd wedi dysgu newyddiadura yn l y llyfr yw John Meredith. Mae ei stori yn llawer mwy difyr na hynny.

Ei fagwraeth ym mhentref Pontrhydfendigaid oedd ei ysgol ai goleg, yn gynnyrch y baby boom neur bylj wedir rhyfel. Yn y gymdeithas wledig gls a busneslyd honno y datblygodd John ei ddiddordeb mewn hela clecs a magu blas am stori. Pa le gwell na phentref Bont i osod stamp ar berson ac i feithrin y ddawn o ddarllen a deall pobol?

Maer stori yn gofnod darllenadwy a gwerthfawr o gymdeithas Gymraeg, bentrefol a hunangynhaliol yn y cyfnod wedi'r rhyfel hyd at y 1960au, cyfnod pan oedd gweithgareddaur capel, yr ysgol Sul, y clwb pl-droed, y ffair ar dafarn yn un coctl melys, cyn i gymdeithas golli diddordeb yn y pethau hyn.

Maer cysylltiad cls rhwng cefn gwlad Ceredigion a gwerthu llaeth yn Llundain yn elfen bwysig or stori, ac ymddengys bywyd Cymryr metropolis hwnnw bron mor wledig bywyd Pontrhydfendigaid.

Nid pentref cyffredin mo Pontrhydfendigaid i gymeriadau lliwgar ai hiwmor unigryw. A oedd diben, dywedwch, i rienir Bont roi enwau bedydd iw plant, gan fod y gymdeithas yn eu hailfedyddio gyda ffugenwau digon od ond poblogaidd - Pecs, Dias, Doc, Bigs, Gau, Nor, Gac a Bwtsh? Fel Zac roeddwn i a phawb arall yn adnabod John yn Ysgol Uwchradd Tregaron.

Mae sawl person wedi rhoi Pontrhydfendigaid ar y map ac mae John Meredith yn sicr yn un ohonynt. Bun llais hynod gyfarwydd a phoblogaidd ar BBC Cymru, ac un o uchafbwyntiau ei yrfa oedd datgelu cyfrinach fwyaf Cymru mewn cyfweliad ar S4C yn 1999. Darllenwch yr hanes!

Wynne Melville Jones

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Gwybodaeth Bellach:
Ail-fyw noson bwysicaf yn hanes diweddar y genedl

Union 13 mlynedd ers refferendwm datganoli 1997, maer darlledwr John Meredith, oedd yn cyflwynon fyw o Gaerfyrddin ar y pryd, yn ail-fywr noson fythgofiadwy honno. Maen gwneud hynny yn ei hunangofiant sydd r teitl addas Yr Hwn Ydwyf Ydwyf oedd y geiriau ddefnyddiodd John i gyflwynor newyddion fod nifer y pleidleisiau Ie yn Sir Gaerfyrddin yn ymddangos yn ddigonol i ennill y refferendwm.

Meddai John: Credaf fod noson y cyfri ar hyn ddigwyddodd yn un or pwysicaf yn hanes diweddar y genedl ac maen debyg bod o leiaf un on haneswyr blaenllaw wedi datgan y farn honno hefyd fwy nag unwaith. Newidiodd y canlyniad gwrs hanes Cymru yn fwy nar un digwyddiad arall yn ystod ein hanes diweddar.

Braint arall ddaeth i ran John Meredith oedd cael y cyfle i holi Gwynfor Evans ar y diwrnod canlynol. Meddai John: Roedd cael y cyfle i holi Gwynfor Evans ar forer canlyniad yn goron ar noson fythgofiadwy i fi a hynny am amryw o resymau.

Yr hyn a roddodd y pleser ar boddhad mwya i fi efallai oedd clywed Gwynfor yn datgan ei bleser ai falchder bod y cyfryngau Cymraeg eu cyfrwng wedi achub y blaen ar y gwasanaeth Saesneg, a hynny oherwydd ein gwaith ni ychydig oriau ynghynt.

Ceir dyfyniadau or cyfweliad hwnnw ar storin llawn, yn cynnwys y modd y daeth i wybod y mwyafrif a sut y torrodd reolaur BBC wrth wneud y cyhoeddiad yn Yr Hwn Ydwyf. Ond ceir hefyd ddarlun hyfryd yma o fywyd pentrefol Cymraeg Pontrhydfendigaid yng Ngheredigion cyn y newid aruthrol ym mywyd cefn gwlad. Ceir hefyd ddarlun o fywyd Cymry Llundain yn gwerthu llaeth ar l y rhyfel; heb sn am straeon di-ri am fyd y bl gron yng Ngheredigion a thu hwnt.

Bu John hefyd yn wyddonydd, gan wneud gwaith pwysig yn datblygu celloedd bonyn cyn iddo droi at yrfa ym myd darlledu. Gyrfa a ddaeth i ben yn 2010 wedi degawdau o grwydro Cymru yn cyflwyno straeon bach a mawr ir genedl, ond gyrfa a gaiff ei gofio hyd byth am y wn foddhaus a roddodd wybod yr enillwyd y Cynulliad.
Diweddarwyd ar 09 Mawrth 2011
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Barddoniaeth Boced-Din: ...
Dewi Prysor
£4.00
 
Prynwch
Nesa Peth i Ddim
Meic Povey
£7.50
 
Prynwch
Lladd Duw
Dewi Prysor
£9.95
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Apostol
Dyfed Edwards
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Bee Book, The
Jo Byrne
£9.99
 
Prynwch
Plant
Dathlu gyda Sali Mali
Ifana Savill
£6.99
 
Prynwch