Eich basged
Mae eich Basged yn Wag
Ewch i...
Gwerthwyr Gorau
Dolenni
|
| Gwybodaeth Lyfryddol |
| Bydoedd - Cofiant CyfnodNed Thomas
Gweld rhagor o deitlau gan 'Ned Thomas' |
ISBN: 9781847712813 (1847712819)Dyddiad Cyhoeddi Hydref 2010
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bontFformat: Clawr Meddal, 215x140 mm, 192 tudalen
Iaith: Cymraeg
Ar gael Ein Pris:
£9.95
| |
| Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
|
|
|
Dyma hunangofiant academydd uchel ei barch, newyddiadurwr ac awdur. Ef oedd sylfaenydd papur newydd Y Byd - papur na ddaeth i fodolaeth - a cheir y stori honno'n llawn ganddo. Treuliodd rhan o'i blentyndod yn yr Almaen a bu'n gweithio ledled Ewrop cyn symud i Gymru. Mae'n gyfrol a fydd yn corddi'r dyfroedd ac yn codi cwestiynau gwleidyddol a diwylliannol pwysig.
The autobiography of a highly-respected academic, journalist and author. He was the founder of the daily newspaper which never appeared - Y Byd - and tells the story of that episode in full. Ned Thomas spent some years in Germany and worked throughout Europe before moving to Wales. This volume raises important political andcultural issues and is sure to stir a hornet's nest.
|
|
Fel y gwelir, nid cofiant yn yr ystyr arferol yw hwn ond cofiant cyfnod. A’r cyfnod? Ewrop wedi’r Ail Ryfel Byd. Mae’r blynyddoedd hyn yn cofleidio cyfnodau byrrach yn hanes yr awdur; ei fagwraeth yn yr Almaen, ei lencyndod yn Lloegr, ei yrfa academaidd gynnar yn Salamanca, blwyddyn ym Moscow a blwyddyn yn Llundain, cyn ymsefydlu yng Ngheredigion. Ar y bererindod hon meistrolodd yr ieithoedd Almaeneg, Sbaeneg a Rwsieg. Ni chawn fawr o wybodaeth am fywyd personol na theuluol yr awdur (er bod rhai lluniau yn y gyfrol) gan mai digwyddiadau’r cyfnod a’u harwyddocâd sydd yn mynd â’i fryd. Yn wir, bu’n chwilota yn bur drylwyr i’r pwrpas. Er y canfas Ewropeaidd, ei droedle yw Cymru a’i anadl einioes yw’r iaith Gymraeg (a ieithoedd lleiafrifol yn gyffredinol).
Cyhoeddodd Thomas gylchgrawn Saesneg, Planet, er mwyn cyflwyno llenyddiaeth Gymraeg a Chymreig i’w gyd-Gymry. Digwyddodd hyn yn sgil cyhoeddi ei glasur, The Welsh Extremist. Wedi llwyddiant Planet aeth i freuddwydio am gyhoeddi papur dyddiol Cymraeg, Y Byd, ac ymroi yn ddiflino i geisio daearu’r freuddwyd honno. Yn anffodus roedd y lli yn ei erbyn, gyda’r newyddiaduron Seisnig yn brwydro am eu heinioes yn wyneb ymosodiad ymerodrol y we.
Roedd dyfodiad Ned Thomas i Gymru yn 1969 fel huddygl i botes; credai golygydd Tafod y Ddraig mai ysbïwr ydoedd a oedd yn barod i brynu’r Cymro. Onid oedd wedi bod ym Moscow! Os bu ym Moscow, bu hefyd ym mhresenoldeb y Pab Pius X11. Yn ystod ei gyfnod yn Salamanca daeth i gysylltiad ag arweinyddion cenedlaetholgar y Basgiaid a’r Cataluniaid, gyda’u hiaith yn sylfaenol i’w gweledigaeth.
Cyflwynir y gyfrol i’r Mercatoriaid, sef cefnogwyr Rhwydwaith Mercator a sefydlwyd ganddo yn Aberystwyth yn 1988. Prif faes y sefydliad Ewropeaidd hwn yw brwydr yr ieithoedd lleiafrifol. Onid yw iaith yn agor drws i fydoedd newydd? Ymddengys fod y Gymraeg wedi agor drws i fyd newydd sbon i’r awdur. Onid yw’r meddylfryd rhyngwladol yn golygu cydnabod gwlad a chenedl ac iaith?
Llwyddodd Ned Thomas i bortreadu’r cyfnod wedi’r rhyfel yn Ewrop mewn dull byw a threiddgar, gan osod Cymru yn solat yn y cefndir hwnnw. Mae’n gyfrol hanfodol i unrhyw un sydd am geisio amgyffred ‘y cyfnod’. Rhydd gyfle i lawer ohonom ail-fyw y blynyddoedd hynny, ac ail-greu brwydr yr iaith. Gem i’w thrysori!
John Owen
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
|
Gwybodaeth Bellach: Taith i fydoedd Ned Thomas O fydoedd hen a newydd, i’r cythryblus a’r cyffrous, rhyfedd o fyd yw bydoedd Ned Thomas. Ac mae rhyw ryfeddod yn y ffaith bod un o’r rhai a gyfrannodd mewn ffordd mor gyhoeddus i’r ymgyrch i ennill Sianel Gymraeg yn cyhoeddi llyfr sy’n sôn am y weithred ar adeg pan mae dyfodol y sianel yn y fantol eto.
Yr wythnos y cyhoeddir Bydoedd yn Aberystwyth bydd rali fawr yng Nghaerdydd i brotestio yn erbyn y toriadau arfaethedig yn dilyn y cyhoeddiad mai’r BBC fydd yn ariannu S4C o 2013 ymlaen. Fel hyn y mae Ned Thomas yn dechrau croniclo’r hanes gwreiddiol yn ei lyfr, “Ni fydd sianel Gymraeg yn datrys holl broblemau'r iaith heb sôn am broblemau economi Cymru, ond mae teledu yn fater pwysig. Gwyddwn dipyn am y maes cymhleth hwn. Roedd consensws pobl Cymru ar y mater yn glir. Yn raddol sylweddolais y byddai cenedl a oedd yn bodloni ar y driniaeth a dderbyniodd ym mater y sianel yn fodlon derbyn popeth. I mi gweithred fach symbolaidd yn dangos ein bod yn gwrthod y fath driniaeth oedd gweithred Pencarreg.”
Yn ei gyfrol Bydoedd fe ddilynwn Ned Thomas ar sawl taith – o ymweld â'r Pab pan yn blentyn, i osgoi merched dengar y KGB ym Mosco, cwrdd ag aelodau ETA, cael ei amau o fod yn ysbïwr yng Nghymru, a diffodd mast Pencarreg yng nghwmni Merêd a Pennar.
Nid hunangofiant mohono, ond mae Ned Thomas, sydd wedi ymgartrefu ym mhentref Llwynpiod, rhwng Llangeitho a Thregaron, yn sgrifennu yn onest a chraff am fywyd anghyffredin. Mae’n adnabyddus fel awdur, darlithydd a sylfaenydd Canolfan Mercator yn Aberystwyth ac arweinydd yr ymdrech i sefydlu papur dyddiol Cymraeg, Y Byd ac mae’r llyfr yn llawn o atgofion difyr.
Dechrau’r wythnos roedd Ned Thomas yn dychwelyd o daith arall - y tro hwn o Ŵyl Lyfrau Istanbwl i gymryd rhan mewn trafodaeth gyhoeddus am lenyddiaeth a chyhoeddi mewn ieithoedd lleiafrifol. "Mae'r pwnc yn un dadleuol oherwydd sefyllfa'r Cwrdiaid," meddai Ned Thomas. "Maent ar drothwy cyfnod cyffrous yn hanes eu hiaith a'u diwylliant." Canmoliaeth i’r llyfr: “... hunangofiant unigryw, craff,” Gareth Miles, Taliesin
|
|
|
Before it was adjudged Welsh-language Book of the Year in 2011, this volume by one of Wales’s leading public intellectuals had already been reprinted and acclaimed by critics who saw it as redefining the genre of autobiography in Welsh.
Ned Thomas is not the object of this memoir but the eyes through which a large slice of recent European history is seen. The focus is on social and political life, but the author’s method is less that of the historian than of the novelist who renders the reality of individual lives and the atmosphere of particular times and places.
In 1947, a ten-year old in the ruins of the Ruhr, he plays with German children on the street while his father presides over a British denazification tribunal. At eighteen, the British Army trains him to interpreter level in Russian which he later uses as exchange professor at Moscow State University and as editor of the British Government’s cultural magazine in Russian. When the Franco regime is just beginning to open up Spain to the world, he teaches at the University of Salamanca and makes friends with Tierno Galvan who will later become the Socialist mayor of Madrid.
Returning to Wales Ned Thomas becomes an actor in the drama of his own nation. It is a turbulent time of campaigns for linguistic rights in Wales and more violent struggles in Ireland and in the Basque country, which he gets to know well, meeting early members of ETA. In his work for minorities the Welsh and European dimensions of his life become one.
Cyfnewidfa Lên Cymru/Wales Literature Exchange |
Diweddarwyd ar 19 Hydref 2011
|
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
|
|
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
|
|
|
|
Rhagor o Deitlau
|
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
|
Llyfr y Mis
|