Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Pantglas
Mihangel Morgan
ISBN: 9781847713186 (1847713181)Dyddiad Cyhoeddi Ionawr 2014
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 195x130 mm, 192 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £8.95 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Llyfr y Mis: Mawrth 2011
Mae trigolion pentre dychmygol Pantglas yn wynebu newid byd wrth i'r gwaith mawr ar yr argae ddigwydd o'u cwmpas. Symud fydd eu hynt, ond cyn hynny bydd llawer o ddŵr wedi mynd dan bont eu bywydau. Nofel egnïol sy'n defnyddio peth o hanes Llanwddyn a Llyn Efyrnwy fel man cychwyn i ddychymyg byrlymus Mihangel Morgan. Adargraffiad; cyhoeddwyd gyntaf yn 2011.

A new era is afoot for the inhabitants of imaginary village Pantglas as major work to the reservoir takes place around them. They will have to move, but a surge of water will have passed under the bridge before then. A lively novel which uses some of the history of Lake Vyrnwy and Llanwddyn as a starting point for Mihangel Morgan's riotous imagination. Reprint; published 2011.
Mae ardal Llanwddyn yn un o'r llefydd mwyaf cyfareddol yng Nghymru gyfan. Gan fod chwaer fy nhad a'i theulu yn byw yno fe ddeuthum yn gyfarwydd iawn 'r lle dros y blynyddoedd. Yn awr, mae Mihangel Morgan wedi defnyddio hanes boddi'r cwm ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg fel sail i'w wythfed nofel.

Nid fod y nofel wedi ei lleoli yn sir Drefaldwyn chwaith. Y Wenhwyseg yn hytrach na'r Bowyseg a siaredir gan y trigolion ac fe ellid dadlau fod y gymdeithas wedi ei thrawsblannu o gyffiniau'r Berwyn i gymoedd y de.

Un o gryfderau pennaf y nofel yw'r dafodiaith a geir ynddi. Mae'n gwbl ganolog i'w llwyddiant a'i phwrpas, a chredaf mai pleser pur fyddai gwrando ar rywun sy'n gyfarwydd 'r dafodiaith yn darllen y nofel yn uchel. Ychwaneger at hyn y cyfoeth o idiomau sy'n britho'r gyfrol. Gobeithio y bydd gennym gopi sain o'r gwaith yn fuan. Rhaid nodi nad nofelydd yn unig yw Mihangel Morgan. Mae hefyd yn awdur straeon byrion o'r radd flaenaf. Weithiau gellir dadlau mai plethwaith o storau unigol yw sylfaen y nofel hon.

Cryfder arall Pantglas yw ei chymeriadau. Mae yna lu ohonynt (bron na ellid awgrymu fod yna ormod efallai). Ond yn sicr, ni welwyd cymeriadau mor lliwgar r rhai hyn yn Llanwddyn nac yn unrhyw lan arall yng Nghymru erioed o'r blaen. Yr amlycaf, heb os, yw Cati'r Siop, John 'Pantglas' Jones, Pedws Ffowc y Wrach, Estons y Gof, Popi y Butain, Pitar Ŵad a Gwyneth Cefn Tylchau, yr hen wraig sy'n amharod i gefnu ar ei chynefin pan ddaw hi'n amser i bawb adael. Mae yna hefyd gi neu ddau sy'n haeddu sylw.

Gwneir defnydd helaeth o hen chwedlau a lln gwerin. Mae hynny yn ei dro yn pwysleisio'r cwlwm cyntefig sy'n bodoli rhwng y bobl hyn sy'n byw yng nghysgod yr argae a'r tir tan eu traed. Mae yna ganrifoedd o wareiddiad tan fygythiad yma.

Mae'r dyfyniadau ar ddechrau'r nofel gan awduron mor amrywiol Harri Webb, R. S. Thomas, John Evans, Watcyn L. Jones ac W. G. Sebald yn brawf o'r effaith gafodd boddi cymoedd ar ein meddylfryd ac fel y bu i hynny gael ei adlewyrchu yn ein llenyddiaeth. Llanwddyn oedd y cyntaf mewn cyfres o gymoedd Cymreig a gafodd eu boddi. Fe'i dilynwyd gan Gwm Elan, Tryweryn, Clywedog ac eraill. Ychydig o brotestio a fu ar y dechrau ond fe drodd y cyfan maes o law yn bwnc gwleidyddol llosg.

Mae'r cyd-destun gwleidyddol yn bwysig iawn i'r nofel hon. Mae hefyd yn stori sy'n mynd yn dywyllach ac yn dywyllach wrth fynd yn ei blaen, ac wrth i'r gymdeithas gael ei dinistrio a'i chwalu. Gellir synhwyro fod yna ddiawledigrwydd cyntefig ar waith.

Yr hyn ysgogodd Mihangel Morgan i ysgrifennu'r nofel, mae'n debyg, yw fod hen dad-cu a hen fam-gu iddo wedi byw yng nghysgod yr argae yn Llanwddyn a phriodi yn yr eglwys leol. Hyd y gwn i, dyma'r tro cyntaf erioed i hanes boddi'r cwm fod yn sail i nofel Gymraeg. Ond mae'r nofel yn fwy na hynny hefyd. Mae hi'n tystio'n groyw iawn i'r chwalu a'r ecsbloetio a fu ar gymunedau Cymru dros y ganrif a hanner ddiwethaf. Fe ddigwyddodd hynny nid yn unig yn Llanwddyn, Tryweryn a Chlywedog, ond yn Rhydcymerau a Mynydd Epynt, a'r holl gymunedau hynny trwy'r wlad a gafodd eu anrheithio gan ddiboblogi a drwg-effeithiau hynny.

Mae gennym ym Mihangel Morgan awdur dyfeisgar a bywiog sydd yn mynd o nerth i nerth. Fe ddylid ychwanegu fod y lluniau gan Ruth Jn hefyd yn cyfrannu'n helaeth at lwyddiant y nofel.

Dafydd Morgan Lewis

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Bywgraffiad Awdur:
Yn enedigol o Aberdr, mae Mihangel Morgan ar hyn o bryd yn byw yn Nhalybont, Ceredigion, ac yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Mae'n un o awduron mwyaf toreithiog, gwreiddiol a phoblogaidd Cymru. Dyma ei wythfed nofel a chyhoeddodd hefyd chwe chyfrol o straeon byrion a phedair cyfrol o gerddi. Enillodd Fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Llanelwedd yn 1993 am ei nofel, Dirgel Ddyn.
Gwybodaeth Bellach:
Mae'r nofel fyrlymus hon yn dod chast niferus yn fyw wrth i ni ddilyn helyntion Cati Siop, John Pantglas, Pitar Wad a Mair Ty Cornel. Yng nghanol yr hiwmor, mae yna sawl cyfrinach yn cael ei datgelu a chyn i'r dyffryn cael ei foddi daw sawl trasiedi i sgil y trigolion. Dyma nofel egnol sy'n nodweddiadol o ddychymyg y nofelydd byrlymus hwn. Mae'n cyfuno hanes a dychymyg i greu darlun cofiadwy o fywyd pentref Cymraeg ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Dechreuar stori cyn ir gwaith ar yr argae gychwyn a chyn iddo ddod i ben bydd cymeriadau lliwgar Pantglas wedi datgelu sawl cyfrinach a wynebu sawl trasiedi.
Diweddarwyd ar 23 Chwefror 2011
Cofnod difyr am hen aelodau oi deulu oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer nofel newydd Mihangel Morgan.

Mae Mihangel yn un o brif nofelwyr Cymru ac enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Llanelwedd yn 1993 am ei nofel, Dirgel Ddyn.

Cafodd ei ysgogi i sgrifennu Pantglas ar l darganfod bod ei hynafiaid yn byw yn Llanwddyn, un or pentrefi ym Mhowys a gafodd eu boddi ar ddiwedd yr 19eg ganrif i gyflewni dŵr i Lerpwl.

Dim ond yn ddiweddar y sylweddolais i bod fy hen ddat-cu yn llafurwr a ddaeth i Lanwddyn i weithio ar y gronfa ddŵr, meddai Mihangel syn byw yn Nhalybont ger Aberystwyth. Dyna sut oedd e wedi cyfarfod fy hen fam-gu ac fe gwmpon nhw mewn cariad a phriodi.

Maer nofel yn dilyn hynt a helynt trigolion pentre dychmygol Pantglas yn y de. Cyn symud mae llawer o ddŵr yn mynd dan bont eu bywydau, cyfrinachau yn cael eu datgelu a thrasiedau yn dod iw sgil.

Fel rhan oi ymchwil, sylwodd Mihangel ar hen lun o Lanwddyn yn llyfr Austerlitz gan W G Sebald a bun pori yn amgueddfa Cwm Elan ger Rhaeadr ym Mhowys. Defnyddiodd ambell enw go iawn iw bentre dychmygol gan gynnwys Cross Guns ar gyfer tafarn Pantglas.

Mae un llun yn dangos y siop ar llythyrdy gyferbyn thafarn y Cross Guns, meddai Mihangel Morgan. Mae yna fenyw y tu allan ac mae fy ewythr yn taeru mai hi oedd fy hen fam-gu.

Maer bardd R S Thomas yn dweud nad ywn lico cronfeydd dŵr ond dwi wastad wedi teimlo atynfa. Fedrai ddim meddwl am yr holl ddŵr yna heb feddwl am y pentrefi oddi tano a sut oedd pobl yn byw.

Mae pentref Pantglas yn llawn cymeriadau byw gan gynnwys John Pantglas Jones, y gweinidog, Pitar Ŵad, y meddwyn, a Cati, perchennog fusneslyd siop y pentre.

Mae Mihangel Morgan eisoes wedi dechrau ysgrifennu ei nawfed nofel am bentre arall hanes trychinebus, sef Aberfan yn Ne Cymru, ac wedi dod ar draws un cyd-ddigwyddiad rhyfedd. Enwr ysgol yn Aberfan oedd Pantglas, meddai. Don i ddim yn cofio hynny pan sgrifennais ir nofel hon ond maen rhaid ei fod wedi ei blannu yn ddwfn yn fy is-ymwybod.

Diwrnod y Llyfr

Bydd Pantglas yn cael ei lansio ar Fawrth y 3ydd ac yn rhan o ddathliadau Diwrnod y Llyfr. Wyn teimlo fel darlithydd bod myfyrwyr yn llai cyfarwydd darllen, meddai Mihangel Morgan syn ddarlithydd yn Adran Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth. Maen rhaid arfer darllen o oed ifanc. Y broblem gyda darllen yw maen gofyn am ddefnyddior dychymyg ac rydym ni bellach yn byw mewn byd gweledol a dydy pobl ddim yn arfer gwneud hynny. Bydd yn rhaid i nofelau Cymraeg fod ar gael iw darllen ar ffurf electroneg eLyfrau, meddai Mihangel. Mae gwasg y Lolfa ar y blaen yn Gymraeg ac mae sawl eLyfr yn bodoli gan gynnwys Y Llyfrgell gan Fflur Dafydd. Dynar ffordd y bydd pobl yn darllen yn y dyfodol, meddai Mihangel Morgan.
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Dictionary of Welsh and ...
Alun Rhys Cownie
£12.99
 
Prynwch
Ac Yna Clywodd Sŵn y Mr
Alun Jones
£9.99
 
Prynwch
Cerddi'r Cywilydd
Gerallt Lloyd Owen
£4.95
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Mudferwi
Rebecca Roberts
£7.99
 
Prynwch
Saesneg
Longest Farewell, The
Nula Suchet
£12.99
 
Prynwch
Plant
Rygbi
Sarah Larter
£9.99
 
Prynwch