Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Un Ddinas, Dau FydLlwyd Owen Gweld rhagor o deitlau gan 'Llwyd Owen'
ISBN: 9781847713223 (184771322X)Dyddiad Cyhoeddi Mawrth 2011
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 195x129 mm, 352 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £8.95 
Un Ddinas, Dau Fyd
Sgôr y Cwsmeriaid ar gyfartaledd:
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
 
Darllen Adolygiadau...
Nofel y Mis: Mehefin 2011
Dilyniant carlamus i nofel gyntaf enwog Llwyd Owen, Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau. Pumed nofel Llwyd Owen, enillydd Llyfr y Flwyddyn 2007 gyda'i nofel Ffydd, Gobaith, Cariad. Nofel storïol, lawn cyffro a ddylai apelio'n eang.

A racy sequel to Llwyd Owen's first novel, Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau. This is Llwyd Owen's fifth novel; his Ffydd, Gobaith, Cariad won the Book of the Year award in 2007. This novel is in the pulp-fiction tradition, with a strong, exciting storyline, which should have wide appeal.
Mae yna hysbyseb teledu sy’n hyrwyddo rhyw gynnyrch neu’i gilydd drwy frolio ei fod e’n gwneud yr union beth sy’n cael ei addo ar y tun. Yn hynny o beth mae teitl nofel Llwyd Owen, Un Ddinas Dau Fyd yn gwireddu’r union addewid a wneir ar y clawr. Yr hyn a gawn ganddo yw dwy ochr un ddinas, a’r ddwy, yn eu gwahanol ffyrdd, yn afiach.

Mae Llwyd Owen yn un o’r awduron cyffrous hynny sydd, gyda Dewi Prysor ac un neu ddau arall, yn perthyn i’r garfan honno yng Nghymru heddiw sy'n llunio llenyddiaeth real, lle mae’r sefyllfaoedd yn gignoeth, yr arddull yn braff a’r iaith a ddefnyddir ymhell o fod yn Gymraeg safonol. Fel un sy’n blismon iaith, gallasech feddwl y byddwn i’n gwgu ar y fath arddull fwngrelaidd, ond yn rhyfedd iawn mae’r troi yn achlysurol at ddeialog Saesneg, neu iaith gangsteraidd yn taro deuddeg yn y gweithiau hyn. Yn wir, prin sylwi wnes i ar y newid iaith yma ac acw yn y nofel hon gan fod yr awdur yn gwneud hyn i bwrpas.

Mae Llwyd Owen ei hun wedi disgrifio’i arddull fel un sy’n adlewyrchu’r iaith y bydd yn ei chlywed a’i siarad bob dydd. Teimla fod yr iaith draddodiadol lenyddol yn tueddu i ddieithrio darllenwyr oddi wrth lyfrau Cymraeg.

Prif gymeriad y nofel i mi yw Caerdydd. Ond fel y dywed y teitl, mae yma ddwy Gaerdydd yn bodoli ochr yn ochr, neu’n hytrach un ar ben y llall. Islaw’r byd dosbarth canol sidêt llygredig mae yna is-fyd, byd o anobaith ac un sy’n anodd iawn dod allan ohono.

Dilyniant yw’r nofel i’w gyfrol flaenorol, Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau. Ac yn dal i gynrychioli’r byd cyfryngol mae Emlyn-Eilfyw Jones, sydd â’i fywyd personol yn llanast. Mewn cyferbyniaeth lwyr cawn Rod, sy’n brwydro’i ffordd allan o anobaith stad tai cyngor yn Nhrelái gan ddianc drwy ffenest fach ei gamera fideo. Ei freuddwyd yw troi ei gefn ar y trais a’r troseddu, yr gwerthwyr cyffuriau a’r gangiau. Rhywfodd mae llwybrau’r ddau gymeriad yn croesi gyda chanlyniadau erchyll.

Mae’r plot yn syml. Stori yw hon am afael y gorffennol ar ein presennol. Does dim dianc. Mae hi’n nofel am wallgofrwydd. Ac mae yna fwy nag un math o wallgofrwydd. Y gwahaniaeth mawr rhwng Emlyn a Rod yw bod gan y naill uchelgais a'r llall freuddwyd. Ond mae uchelgais Emlyn yn troi’n hunllef.

Mae hon yn nofel hawdd iawn i’w llyncu, ond un gwbl anghyffyrddus i’w threulio. Mae Un Ddinas Dau Fyd yn llond ceg o realaeth go iawn.

Lyn Ebenezer

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Bywgraffiad Awdur:
Mae’r awdur hefyd yn adnabyddus fel bardd a ffotograffydd a chyflwynydd dogfen deledu am Gaerdydd ar S4C. Cyhoeddwyd Faith, Hope and Love, addasiad Saesneg yr awdur o’i nofel Gymraeg, yn 2010.
Lansiadau yng Nghaerdydd a Chaernarfon ym mis Mawrth 2011 a sylw yn Y Wasg trwy Gymru yn ystod mis Mawrth ac Ebrill.
Gwybodaeth Bellach:
Ar drywydd y Diafol ym myd y cyfryngau Cymraeg

Mae awdur o Gaerdydd wedi mynd ar drywydd y diafol ym myd teledu Cymraeg, gan amlygu’r rhagrith a’r twyll sy’n gymaint ran ohono. Ac mae’n gwneud hynny am yr ail waith yn ei yrfa.

Union bum mlynedd yn ôl mi greodd Llwyd Owen ‘ddaeargryn’ yn y byd cyhoeddi Cymraeg wrth ryddhau ei nofel gyntaf, Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau am gymeriadau’n gweithio mewn cwmni teledu gyda boy-band didalent yn chwarae rhan allweddol. Disgrifiwyd y nofel fel un ‘athrylithgar’, ‘arloesol’ ond llawn bratiaith a budreddi, ac ni enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol am nad oedd safon yr iaith yn plesio’r beirniaid.

Bum mlynedd yn ddiweddarach ac mae Llwyd wedi ennill Llyfr y Flwyddyn, wedi cyhoeddi pum nofel ac yn dad i ddau o blant, ond mae hefyd wedi penderfynu ysgrifennu dilyniant i’w nofel gyntaf sy’n olrhain hanes diweddaraf Emlyn Eilfyw-Jones a’i ymdrechion aflwyddiannus i greu ffilm gyffrous gyda’i gwmni teledu Akuma, a hynny ddeng mlynedd ers i Luc Swan ladd y boy-band Fflach! ar ddiwedd y nofel ddiwethaf.

Ceir yr un elfennau diawledig yma ag oedd yn ei nofel gyntaf a cheir stori gofiadwy am ragrith a thwyll mewn cwmni teledu annibynnol – sy’n cael ei ymgorffori ym mywyd Emlyn Eilfyw-Jones. Ond mae llawer mwy i’r nofel na hynny. Meddai Llwyd Owen: “Roedd Emlyn Eilfyw-Jones yn gymeriad rhy ddiddorol a diawledig i beidio a dychwelyd ato rhywbryd, ond mae ei stori ef yn datblygu ochr yn ochr yn y nofel hon â hanes Rodney Joyce, dyn ifanc o Drelái sydd yn brwydro i oroesi bywyd ac yn ysu am gyfle i lwyddo ym myd y cyfryngau. Wrth reswm, mae llwybrau’r ddau gymeriad ar fin gwrthdaro a nid yw bywyd yr un ohonynt yn mynd i fod yr un peth ar ddiwedd y stori hon...”

Ceir sawl cyfeiriad at argyfwng presennol S4C yn y nofel ac mae hefyd yn cyffwrdd a’r holl ansicrwydd sy’n rhan o’r byd teledu ar hyn o bryd.

Disgrifiodd yr awdur Dewi Prysor y nofel fel “nofel feistrolgar ac ysgytwol. Aiff Un Ddinas Dau Fyd â chi ar daith droellog trwy emosiynau, breuddwydion a chwantau mwyaf greddfol y ddynolryw – lle mae’r annisgwyl yn aros ar ddiwedd pob stryd a rhywbeth erchyll yn llechu rownd bob cornel.”
Rhoddodd @Grwndi o Abertawe i'r teitl yma ac ysgrifennodd:
"Nofel a hanner! Cymeriadu gwych a llinynnau storïol hynod afaelgar. Yn sicr, dyma nofel sy'n werth ei darllen. "
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Deep Country - Five Years ...
Neil Ansell
£16.99
 
Prynwch
Cerddi'r Cywilydd
Gerallt Lloyd Owen
£4.95
 
Prynwch
Ar Drywydd y Duwiau
Emlyn Gomer Roberts
£9.95
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Alarch Du, Yr
Rhiannon Wyn
£5.95
 
Prynwch
Saesneg
Owain Glyn Dŵr - The ...
Peter Gordon Williams
£7.95
 
Prynwch