Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Elystan - Atgofion Oes
Elystan Morgan
ISBN: 9781847713278 (1847713270)Dyddiad Cyhoeddi Tachwedd 2012
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Golygwyd gan Huw L. Williams Fformat: Clawr Meddal, 215x140 mm, 288 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £12.95 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Cyfrol o atgofion gan y gwleidydd Elystan Morgan. Mae Elystan yn un o gymeriadau amlycaf Ceredigion, yn gyn-Aelod Seneddol ac bellach yn farnwr ac yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi. Bu'n ymgeisydd dros Blaid Cymru nifer o weithiau cyn cael ei ethol dros y Blaid Lafur yn 1966.

A volume of recollections by politician Elystan Morgan. Elystan is one of Ceredigion's best-known characters; a former MP, he is now a judge and a member of the House of Lords. He was a Plaid Cymru candidate during several elections before being elected for the Labour Party in 1966.
Cyfrol yw hon a ddeilliodd o gyfres o sgyrsiau golygedig rhwng yr Arglwydd Elystan Morgan a Dr Huw Williams, darlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd. Ynddi cawn hanes dyn sydd wedi chwarae rhan bwysig ym mywyd cyhoeddus Cymru ers dros hanner canrif, a hynny o fewn y byd gwleidyddol ar byd cyfreithiol.

Ond mae mwy ir gŵr hwn nar uchel swyddi parchus y mae wediu cyflawni dros y blynyddoedd. Cawn wybod am y bachgen ifanc direidus, llawn egni oedd yn brysur yn chwarae triciau ar ei gyfoedion yn ardal Dole, Rhydypennau a Bow Street yng ngogledd Ceredigion. Roedd yn un parod i herio awdurdod athrawon a phrifathrawon, ac fe sylweddolodd yn ifanc iawn fod ganddo ddawn dweud a fyddain ei alluogi i osgoi cosb lem y gansen ar sawl achlysur. Maen esbonio hefyd sut y gwnaeth osgoi llid Cadeirydd yr Ynadon ar Dirprwy Brif Gwnstabl yn Aberystwyth flynyddoedd wedyn, pan aeth dros ben llestri wrth chwarae tric ar ffrind. Unwaith eto fe sicrhaodd ei ddawn perswd na fyddair mater ym mynd ymhellach, ac na fyddai ei yrfa gyfreithiol ar ben cyn iddi ddechraun iawn.

Does dim dwywaith nad oedd penderfyniad Elystan Morgan i adael Plaid Cymru ac ymuno r Blaid Lafur yn un wnaeth siglor mudiad cenedlaethol yn y chwedegau, ac yn un oedd wedi achosi siom enfawr iw gyfaill Gwynfor Evans. Roedd sosialaeth a chenedlaetholdeb yn themu oedd yn mynd law yn llaw ym meddylfryd Elystan Morgan, ac maen esbonio mai ei rwystredigaeth o fewn Plaid Cymru oedd un rheswm dros ei benderfyniad i newid plaid. Daeth cyfleoedd iddo yn fuan wedyn. Llwyddodd i ennill sedd sir Aberteifi i Lafur yn 1966, ac mae ei gariad at ei fro enedigol yn amlwg yn y modd y bun dadlau achos yr ardal mor egnol yn San Steffan.

Cafodd ei ailethol, ond colli fu ei hanes yn 1974 ac fe ddychwelodd i fyd y gyfraith. Cawn hanesion difyr wrth iddo ddisgrifio rhai or achosion syn aros yn ei gof oi gyfnod fel bargyfreithiwr a barnwr. Maen amlwg iddo wneud defnydd oi brofiad helaeth yn y gyfraith wrth ei waith yn Nhŷr Arglwyddi, yn plethu ynghyd ei brofiad helaeth yn y ddau faes wrth drafod a chraffu deddfwriaeth yn yr ail siambr yn San Steffan.

Er holl lwyddiannau Elystan Morgan fel gwleidydd ac yn ei yrfa gyfreithiol, maen dweud na chyrhaeddodd unrhyw uchelfannau arbennig. Fel Aelod Seneddol, bargyfreithiwr, Aelod o Dŷr Arglwyddi ac fel barnwr maer gyfrol yn profin wahanol, ac yn tystio i fywyd cyflawn gŵr gweithgar, gwylaidd a gostyngedig.

Gwyddno Dafydd

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Gwybodaeth Bellach:
Ceir amryw o hanesion yn y gyfrol, oi blentyndod yng ngogledd Ceredigion, straeon am Blaid Cymru ar Blaid Lafur, ir sefyllfa presennol yn Nhyr Arglwyddi.

Ceir penodau manwl ar ei gyfnod ym Mhlaid Cymru ai benderfyniad i adael y blaid yn y 60au un or pynciau mawr wnaeth gorddi gwleidyddiaeth Cymru yn y cyfnod. Maen cyfiawnhau ei benderfyniad ac yn olrhain ei waith ai rwstredigaethau o fewn y Blaid Lafur ac fel Aelod Seneddol yng Ngheredigion hyd at 1974, ac yna ei waith yn Nhyr Arglwyddi.

***************************************

Elystan yn agor ei galon am Gwynfor, y Gyfraith a Datganoli

Ac yntau ar drothwy ei ben blwydd yn 80 oed mae Elystan Morgan yn cyhoeddi ei hunangofiant, Atgofion Oes. Yn y gyfrol maen edrych yn l ar fywyd gwleidyddol a chyfreithiol diddorol a dadleuol ac maen agor ei galon ynghylch amryw bynciau, yn cynnwys y rhesymau y penderfynodd adael Plaid Cymru yn 1965. Maen cyfleur cecru milain oedd yn rhwygor blaid ar y pryd. Meddai Elystan: Fe ddaeth y penderfyniad i adael Plaid Cymru yn sgil blynyddoedd rhwystredig, di-dwf a dilewyrch. Yn y cyfnod alaethus ac anadeiladol hwnnw bu Gwynfor o dan warchae gan ei wrthwynebwyr, phob cyfarfod or Pwyllgor Gwaith yn fwy chwerw nar un cynt. Fe gafodd y cweryla di-baid, y mewn-ymladd cynyddol rhwng Emrys Roberts ai glic, a Gwynfor ar lleill ohonom, ar blynyddoedd o gynnen filain a sur effaith gronnol ar ddyn, gan ferwino a llethur ysbryd Gofynnodd llawer un iddoi hunan, Beth mae dyn yn ei wneud yn gwastraffu ei amser ymysg y bedlam yma? A oes yna unrhyw beth arall ar wyneb daear y gall ei wneud er lles Cymru y tu allan i rengoedd y Blaid?

Bu penderfyniad Elystan Morgan i ymuno ar Blaid Lafur yn ergyd drom i Blaid Cymru ar canlyniad oedd i Elystan gynrychioli Ceredigion ir Blaid Lafur tan 1974. Ym marn y sylwebydd gwleidyddol Vaughan Roderick: Mae hunangofiant Elystan yn ddifyr, yn ddarllenadwy ac yn ddoeth ac fe ddylair gyfrol hon olygu bod hanes yn fwy caredig iddo nac y bu rhai oi gyfoedion gwleidyddol.

Yn y gyfrol mae Elystan yn cyfiawnhau pam yr ymunodd r Blaid Lafur, gan ddweud fod y penderfyniad i gael Ysgrifennydd Gwladol i Gymru yn 1964 wedi ei argyhoeddi fod modd gweithredu trwyr blaid honno, ac i hynny agor cil y drws a arweiniodd at y datganoli syn bodoli ar hyn o bryd. Mae hefyd yn rhoi ei farn yn ddi-flewyn-ar-dafod am ddiffygion y sefyllfa bresennol yn ein Cynulliad. Yn y gyfrol maen argymell y dylair Cynulliad gael mwy o aelodau. Meddai Elystan: Os ydym am fagur meddylfryd ar ddisgyblaeth syn deilwng o senedd ddeddfwriaethol, rhaid cynyddur gweithlu, nid yn unig o ran nifer yr aelodau ond hefyd o ran gweision sifil o alluoedd uchel. Credaf - er nad ywn beth poblogaidd iw ddweud - y dylai fod cant o aelodau yn y Cynulliad. Credaf hefyd y dylai trigain ohonynt fod wediu hethol yn uniongyrchol ar gweddill trwy bleidlais gyfrannol.

Cyhoeddir y gyfrol o fewn wythnosau i ben blwydd Elystan yn 80 oed ac maer gyfrol, fel y dywed ei hun, yn llawn atgofion gŵr yn llawnder ei ddyddiau fel petain eistedd yn l yn ei gadair ac yn bodio trwy swrn o hen atgofion a myfyrdodau a ffrydia ir meddwl.

Ymhlith yr atgofion maer cefndir teuluol diwylliedig yng ngogledd Ceredigion, dylanwad enfawr ei dad, y bardd Dewi Morgan ar ardal y maen ei disgrifio fel cymdeithas gynnes a rhadlon ag iddi draddodiadau a safonau ardderchog. Maen frith o straeon byrlymus am ardal Pen-y-garn a Bow Street ai gyfnod fel bachgen hynod o ddireidus yn Ysgol Ardwyn.
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Sam Tn: Tn ar y Mynydd ...
 
£5.99
 
Prynwch
Gramadeg y Gymraeg
Peter Wynn Thomas
£19.99
 
Prynwch
Llwch yn yr Haul
Marlyn Samuel
£8.95
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Apostol
Dyfed Edwards
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Bee Book, The
Jo Byrne
£9.99
 
Prynwch
Plant
Dathlu gyda Sali Mali
Ifana Savill
£6.99
 
Prynwch