Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Stori Sydyn: Yr Elyrch - Dathlu'r 100
Geraint H. Jenkins
ISBN: 9781847714084 (1847714080)Dyddiad Cyhoeddi Ionawr 2012
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 197x130 mm, 96 tudalen Iaith: Cymraeg Allan o Stoc Ein Pris: £1.99   
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Teitl yn y gyfres o gyfrolau byr a chyflym Stori Sydyn. Cyfrol sy'n adrodd hanes rhyfeddol clwb pêl-droed Abertawe, a'i daith anhygoel i'r Uwch Gynghrair. Mae'r llyfr yn canolbwyntio'n bennaf ar dymor llwyddiannus 2010-11. Bu'r awdur yn gefnogwr triw i'r clwb dros nifer o flynyddoedd.

A title in the short and fast-paced series Quick Reads. This is the story of Swansea City's extraordinarily successful 2010-11 season. In the year of its centenary, the team is also celebrating its first season in the English Premier League. This books gives a history of the club from the beginning in 1912, when Swansea Town was established.
Mae dathlu canmlwyddiant yn ennyn ar lawenydd. Bydd y gorfoledd yn fwy os bydd Abertawe yn dal yn Uwchgynghrair Lloegr pan ddawr achlysur hwnnw yn ystod haf eleni. Croeso cynnes, felly, ir llyfr hwn yn y gyfres Stori Sydyn ar drothwyr garreg filltir yn hanes y clwb pl-droed a ymgartrefodd erbyn hyn yn Stadiwm y Liberty.

Dyma lyfr ddylai hawlio sylw dilynwyr y bl gron ar hyd a lled y wlad oherwydd cofnodir y gwych ar gwachul yn hynod o ddifyr. Maer bennod syn sn am oes aur Toshack yn sicr o ddenu chwilfrydedd darllenwyr o bob oed. Bydd y manylion am Ivor Allchurch ai gyfoedion yn llonni calonnau y rhai a gafodd y fraint o weld yr arwyr yn arddangos eu doniau.
Mae breuddwydion yn ran annatod o fywyd cefnogwyr pl-droed. Cofnodir nifer a wireddwyd yn y llyfr ond hefyd, yn bwysicach, rhoddir sylw ir hunllefau ar y maes a thu hwnt. Dysgwyd rhai gwersi ond bu esgeulustod ariannol yn bwnc cyson i ddilynwyr nifer o glybiau. Llwyddodd y llyfr i ddarlunio rhai cymeriadau diddorol or newydd. Diolch hefyd am y cyfle i ddwyn i gof chwaraewyr fel Herbie Williams a oedd yn llechu yn niwloedd pell plentyndod.

Mae rheolwyr clybiau pl-droed yn griw amrywiol a lliwgar ar adegau. Gwenu a gwgu fydd tynged y darllenydd wrth feddwl am rai a gafodd y barchus arswydus swydd ar y Vetch ac yn ddiweddarach ar y Liberty. Bathwyd nifer o enwau er mwyn disgrifio'r gŵr sydd wrth y llyw gan glybiau bach a mawr. Gall fod yn brif hyfforddwr neun gyfarwyddwr pl-droed ond waeth beth fo'r enw ennill ywr disgwyliad mawr.
Cofnodir hynt a helynt yr Elyrch yn ystod misoedd cynnar y tymor cyntaf yn yr Uwchgynghrair. Gobeithio y daw cyfle i ddarllen atodiad yn manylu ar y tymor hanesyddol maes o law.

Trefor Jones

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council
Gwybodaeth Bellach:
Darllenwch gylchgrawn dwyieithog Stori Sydyn/Quick Reads:
http://www.cllc.org.uk/3140.file.dld
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Vicar Joe's Religious ...
Kevin Johns
£4.95
 
Prynwch
Stori Sydyn: Jamie – ...
Jamie Roberts
£1.99
 
Prynwch
Stori Sydyn: Hartson
John Hartson
£1.99
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Apostol
Dyfed Edwards
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Bee Book, The
Jo Byrne
£9.99
 
Prynwch
Plant
Dathlu gyda Sali Mali
Ifana Savill
£6.99
 
Prynwch