Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Tŷ Ger y Traeth, Y
Gareth F. Williams
ISBN: 9781847714350 (1847714358)Dyddiad Cyhoeddi Mawrth 2012
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 195x130 mm, 320 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £8.95 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Llyfr y Mis: Mawrth 2012
Nofel grefftus am wrthdaro a'r bwlch rhwng y cenedlaethau. Mae gan Sara broblemau emosiynol ac mae'n dianc o gartref ei rhieni yng Nghaerdydd at ei thaid - hen hipi sy'n byw ger y traeth ym Morfa Bychan. Nofel gyfoes gan awdur poblogaidd a thoreithiog.

This is a novel that bridges the generations and gets under the skin of its enigmatic characters, by gripping the reader from the shocking beginning to the end as the secrets of a 17-year-old girl, her parents and her grandfather are revealed little by little.
Fel mewn drama, gwrthdaro yw hanfod pob nofel, ac yn Y Tŷ ger y Traeth ceir dwy elfen ir gwrthdaro hwn cymeriadau yn erbyn ei gilydd, a chymeriadau yn erbyn eu hamgylchiadau, ac y maer ddwy elfen yn cydgordeddu ar naill yn effeithio ar y llall.

Y maer sialens o gymysgur ddwy elfen hon yn ormod i rai nofelwyr. Rhaid wrth law gadarn iw rheoli au cydbwyso a dyna un o gryfderau Gareth F Williams. Fe welir yn ei holl waith l cynllunio manwl wrth gydbwysor elfennau, gan lwyddo i droedio, yn amlach na pheidio, y llwybr cul rhwng creu pypedau ar linyn a chymeriadau syn ymddwyn a gweithredu ac ymateb oherwydd y cymeriadau ydynt.

Gwrthdaro teuluol yw craidd y nofel, er bod cymeriadau oddi allan yn rhan ohoni hefyd. Mae Sara, Mared a Harri ynghyd u cyfoedion yn cynrychioli tair cenhedlaeth, ond lle y gellid yn rhesymol ddisgwyl i ddirywiad os dynar gair - y cenedlaethau gael ei ddarlunio or genhedlaeth gyntaf ir drydedd, maer awdur yn troir cyfan ar ei ben, ac un o'r wyresau, er gwaethai phroblemau seicolegol dwys, syn gweld ei dyletswydd, a'r taid ywr hipi! Ac yn y canol y maer fam ai gŵr yn cynrychiolir ail genhedlaeth, cenhedlaeth na ŵyr yn aml sut i ddelio phroblemau henaint y genhedlaeth gyntaf; a hwy hefyd sydd heb benrhyddid ac annibyniaeth y drydedd.

Y mae i nofel syn hawlior label 'llenyddiaeth' amryw haenau, ond onid ywn ddarllen difyr nid ywn ddim. Nofel felly yw hon, wedi ei hysgrifennu mewn iaith ac arddull gymwys. Clod ir awdur am lwyddo i wahaniaethu lle mae cymaint o awduron yn methu heddiw, rhwng haniaeth a diriaeth, i nodi un enghraifft: mae arna i ofn nid mae gen i ofn geir ganddon ddi-feth, a chlod hefyd am ddefnydd cywir ysgrythurol or gair pechu pechu yn erbyn nid yr erchyll dy bechu di. Dichon fod yna orddefnydd o gromfachau ym mrawddegau hirion y traethu yn hytrach na chreu brawddegau newydd, ond nid ywn wendid mawr mewn nofel hynod o ddarllenadwy.

Elfyn Pritchard

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Dictionary of Welsh and ...
Alun Rhys Cownie
£12.99
 
Prynwch
Ddraig Goch, Y
Emlyn Roberts
£6.95
 
Prynwch
Min y Môr
Mared Lewis
£8.95
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Apostol
Dyfed Edwards
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Bee Book, The
Jo Byrne
£9.99
 
Prynwch
Plant
Dathlu gyda Sali Mali
Ifana Savill
£6.99
 
Prynwch