Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Gwyn y Mans - Hunangofiant Gwyn Elfyn
Gwyn Elfyn
ISBN: 9781847715128 (1847715125)Dyddiad Cyhoeddi Hydref 2012
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 215x140 mm, 176 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £9.95 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Fel Denzil ar Pobol y Cwm y mae Gwyn Elfyn fwyaf adnabyddus, ac yntau wedi chwarae rhan y cymeriad hwnnw am bron i 30 mlynedd cyn cael ei orfodi i adael yn 2011. Ond ceir yma hefyd hanes Gwyn yn ei filltir sgwâr yng Nghwm Gwendraeth, yn hyfforddwr rygbi, dyn teulu a Christion ­ a chyn brif leisydd y grŵp Chwarter i Un!

Gwyn Elfyn is famous for playing the part of Denzil in the long-running soap opera Pobol y Cwm for nearly 30 years before being forced to leave in 2011. But this autobiography is also an account of Gwyn's life in Cwm Gwendraeth, as a rugby coach, family man and Christian - and former lead singer for the group Chwarter i Un!
Mae Gwyn Elfyn Denzil i chi a fi yn cychwyn ei hunangofiant drwy ddatgelu sut y cafodd wybod fod ei oes yng Nghwmderi yn prysur ddirwyn i ben wedi 28 mlynedd. Roedd y penaethiaid angen stori i ddwyn sylw at y ffaith y byddair opera sebon yn symud oi chartref yn Llandaf i stiwdio newydd yn y Bae.

Dyma foment Grace Archer Pobol y Cwm. Ir sawl nad ywn ddigon hen i gofio, gan gynnwys Gwyn nad oedd wedi ei eni bryd hynny, bu farw Grace Archer mewn tn y noson lawnsiwyd ITV ym Medi 1955. Roedd y papurau a gyhoeddwyd trannoeth yn llawn o drasiedir Archers a dim son am gychwyn y sianel newydd.

Mae rhai triciaun dal i weithio o hyd, er nad felly mae Gwyn Elfyn yn gweld pethau, ac ni ellir ond cydymdeimlo ag e. Ac yntau'n un o ffefrynnau'r gwylwyr, nid ef ywr cyntaf nar olaf o eilunod y sgrin fach i ddarganfod y gall oes o wasanaeth ddod i ben gyda diolch yn fawr digon swta. Dyw mymryn o barch a gwerthfawrogiad yn costio dim, ac mae'r hunangofiant yn cychwyn gyda bonclust go hegr i Ynyr Williams, ac mae ambell un arall yn derbyn cerydd haeddiannol, hefyd, am wn i.

Dyna Phylip Hughes (Stan Bevan) a daerodd, ar l gadael Pobol y Cwm, fod actorion y gyfres yn cael eu talu'n rhy hael o lawer. Dywed Gwyn ac fe ddylai wybod gan mai ef oedd cynrychiolydd Equity, undeb yr actorion mai Phylip oedd yr uchaf ei gloch yn galw am godiadau cyflog a mwy o gostau.

Heblaw am y diweddar T. Arwyn Watkins a rhai darlithwyr eraill yn Aberystwyth syn cael cernod am ddarlithoedd anniddorol, ac ambell gocyn hitio gwleidyddol fel y Dr Alan Williams, George Thomas a Neil Kinnock, maen gyfrol gynnes, gartrefol a difyr.

Diddorol darllen am y straen o bortreadu cymeriad ar adeg pan fo'r storin ddirdynnol o emosiynol, fel yr adeg pan fu farw un o efeilliaid Denzil ac Eileen. Roedd yn bwysig portreadur dioddefaint yn gywir gan fod rhywrai o blith y gwylwyr yn siŵr o fod wedi gorfod ymdopi 'r profiad hwnnw, yn l Gwyn.

Mae yna lawer syn afaelgar iawn yn y gyfrol megis hanes ei deulu a'i fagwrfa ddiwylliannol gyfoethog ar aelwyd y mans, Capel Seion, Dre-fach. Hoffais ei ymrwymiad at Gwm Gwendraeth, lle treuliodd y rhan fwyaf oi blentyndod a lle y dewisodd ymgartrefu, gan gyfrannun sylweddol i fywyd y gymdeithas trwy gydol ei gyfnod fel aelod o Pobol y Cwm.

Daliodd at ei wreiddiau, a chan mai Cwm Gwendraeth yn anad un yw bro Pobol y Cwm, mae hynnyn briodol a chanmoladwy.

Gwyn Griffiths

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Gwybodaeth Bellach:
I rai ohonom fe fyddair syniad o hel atgofion ar gyfer hunangofiant yn peri cryn broblem o ran procior meddwl. Ond ir actor Gwyn Elfyn, fun cadw dyddiaduron yn ystod yr 80au ar 90au, bur broses o ysgrifennu Gwyn y Mans yn un cathartig ar un llaw ond eto yn ddigon braf ar y llaw arall.

Bu ei ymadawiad o Pobol y Cwm yn gynharach eleni yn gyfnod anodd, ac yn ei hunangofiant maen cael cyfle i fwrwi fol am yr hyn ddigwyddodd i Denzil, ar siom a gafodd ar y pryd.

Ac yntau bellach wedi cyrraedd ei hanner cant, mae Gwyn yn teimlo bod ganddo rywbeth iw ddweud wrth iddo roi ar bapur ffeithiau a gwybodaeth sydd heb eu datgelun gyhoeddus or blaen.

Cynhelir lansiad Gwyn y Mans: Hunangofiant Gwyn Elfyn yng Ngwesty Parc y Strade, Llanelli, Nos Iau, 25 Hydref am 7 or gloch, yng nghwmni Bois y Castell, Hywel Emrys ac Elen Mair Davies. Fe fydd Gwyn hefyd yn cynnal sesiwn holi & ateb (a sesiwn arwyddo copau) gyda Mici Plwm ar nos Sadwrn yr 17eg o Dachwedd am 7 or gloch yn nhafarn y Pengwern, Llan Ffestiniog.

Yn ei ugeiniau cynnar oedd Gwyn Elfyn pan ymunodd chriw Pobol y Cwm fel Denzil Rees am y tro cyntaf ym 1984. Daeth y daith i ben yn ddisymwth 28 mlynedd yn ddiweddarach, ond erbyn hyn mae Gwyn ar fin cychwyn ar ei rl newydd fel arweinydd Eglwys Seion Drefach.

Rhaid dweud fy mod yn fwy anfodlon ynglŷn r hyn oedd yn digwydd ir cymeriad nar hyn fyddain digwydd i fin bersonol. Does gen i ddim cywilydd dweud na allaf gofio cael ffrae ag unrhyw un yn y Cwm a bun bleser cydweithio 99% ohonyn nhw! Ychydig iawn o bobl yn Nghymru sydd yn fodlon dweud eu barn ond dwi wedi trio bod mor onest ag y gallai wrth osod ffeithiau, meddai Gwyn.

Nid yw Gwyn yn osgoi enwi enwau yn yr hunangofiant ac un peth sydd yn amlwg yw ei gariad angerddol at Gymru, ei hiaith, rygbi a phl-droed, ceir, gwyliau, Eisteddfodau, Cristnogaeth, ei deulu - ei wraig Caroline ar meibion Rhodri a Rhys - a chefnogi cymunedau gwledig Cymru.

Ganed Gwyn Elfyn Lloyd Jones yn Ysbyty Dewi Sant ym Mangor ar y flwyddyn naid, 29 Chwefror 1960. Deiniolen oedd ei gartref cyntaf ar lle roedd ei dad yn weinidog a chawn hanes y teulu wrth iddynt symud o gapel i gapel ac o gymuned i gymuned gan gynnwys Blaenau Ffestiniog, Carno a Phorthmadog. Yn Hydref 1968 symudodd y teulu ir Mans yn Nhrefach ger Caerfyrddin a Gwyn y Mans fu ei enw yng Nghwm Gwendraeth byth ers hynny.

Er i ni glywed am helyntion magwraeth Gwyn yn y gyfrol, mae pwysigrwydd ei deulu oll au dylanwad cryf ar ddatblygiad ei gymeriad ai gredo yn amlwg iawn. Gydar Ysgol Sul yn sylfaen gadarn iw yrfa, mae crefydd a chwaraeon wedi chwarae rl enfawr yn ei fywyd ac yn parhau i wneud hynny hyd heddiw.

Ychwanega Gwyn, Mae cyfraniad capeli Cymru tuag at ddiogelur iaith wedi bod yn amhrisiadwy ond maen cael ei anghofion gyfleus mewn rhai dadleuon ieithyddol. Fel yr Eisteddfod, syn ŵyl uniaith Gymraeg, dyma sefydliad uniaith Gymraeg arall sydd werth ei drysori.

Fe ddysgodd ein hysgol Sul ni flynyddoedd yn l nad oedd modd ennill y frwydr rhwng yr Ysgol Sul ar cae rygbi, ond bod modd addasu fel bod y plant yn cael y gorau or ddau fyd.

Mae nifer o aelodau capeli wedi bod ar fai ar hyd y blynyddoedd am ystyfnigo yn hytrach na chyfaddawdu gydar byd sydd on gwmpas er mwyn sicrhau bod y Cristion yn cael lle teilwng mewn cymdeithas.

Mae gwleidyddiaeth wedi bod yn rhan oi fywyd ers yn ifanc iawn. Mae yn genedlaetholwr brwd ac yn cofio bod lawr yng Nghaerfyrddin i glywed canlyniad yr etholiad ym 1974 a chael ei siomi yn aruthrol wrth i Gwynfor Evans, ei arwr mawr, gollir sedd o dair pleidlais yn unig. Ffaith ddiddorol oedd iddo gollir sedd i Gwynoro Jones, oedd yn gefnder llawn ir un fyddain dod yn wraig iddo lai na deng mlynedd wedir canlyniad hwn.

Ar l astudio drama ym Mhrifysgol Aberystwyth daeth swydd actio gyntaf Gwyn gyda Chwmni Theatr Crwban. Daeth cynhyrchydd Pobol y Cwm, y diweddar Myrfyn Owen, iw weld yn perfformio gydar cwmni ac fe gynigwyd rhan yn yr opera sebon iddo.

Yn eironig iawn, er bod y penderfyniad i symud set eiconig Cwmderi o Landaf ir Bae ar angen am stori fawr i ddenu cynulleidfa wedi arwain at ddiwedd y daith i Denzil, dyma oedd dechrau pennod newydd ym mywyd Gwyn Elfyn.
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Sam Tn: Tn ar y Mynydd ...
 
£5.99
 
Prynwch
Junior Scrabble yn Gymraeg
 
£19.99
 
Prynwch
Raplyfr Coll (DVD122)
 
£5.99
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Dan Bwysau
John Alwyn Griffiths
£8.50
 
Prynwch
Saesneg
Head in the Clouds - ...
Boyd Clack
£10.00
 
Prynwch
Plant
Caffi Merelli
G. R. Gemin
£7.99
 
Prynwch