Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Cyfres Mellt: Llwyth
Bethan Gwanas
ISBN: 9781847716491 (1847716490)Dyddiad Cyhoeddi Mawrth 2013
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Addas i oed 12+ neu Cyfnod Allweddol 3 Fformat: Clawr Meddal, 195x130 mm, 128 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £4.95 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Nofel gyffrous, anturus am lwythau gwahanol yn ymladd am eu hunaniaeth - y Bleiddiaid, y Brain, yr Eirth a'r Dreigiau. Wrth i'r gelyn fygwth eu trechu rhaid i'r llwythau ddod ynghyd a chydweithio er mwyn ennill y dydd.

An adventure novel about four different tribes fighting for their identity - the Wolves, the Crows, the Bears and the Dragons. As the enemy threatens, the tribes must unite to win the battle.
Brwydrau brawychus, pwerau arbennig, gelynion dieithr, llwyth yn erbyn llwyth. Nage, nid gm gyfrifiadurol mo hon, ond stori epig i blant hŷn sy'n eu hudo ir oes a fu, i oes o gwffio gwaedlyd dros diroedd ac eiddo ac i oes sydd yn adlewyrchu hanes Cymru. Ond nid hefru trwy hen hanesion sydd yma, ond nofel bwerus hollol newydd, hollol Geltaidd y dylai pob plentyn ei darllen. Mae Bethan Gwanas wedi creu campwaith yma.

Maer Bleiddiaid yn gweithio gydai gilydd yn gyfrwys ac yn gyflym. Maer Brain yn ddoeth ac yn ddringwyr o fri. Maer Eirth yn hoffus iawn ac yn hen lawiau ar daflu arfau. Maer Dreigiau yn gweithion unigol a gyda doniau arbennig iawn maen nhwn gallu gweld ir dyfodol. Maer nofel hon yn seiliedig ar lwythau ar hyd a lled Cymru rhai syn helan wyllt, ond yn amddiffyn eu pobl eu hunain, rhai syn hedfan ar gefn dreigiau ond hefyd yn fodlon aberthu eu bywydau dros eu tir.

Y cymeriadau hyn sydd yn gwneud y stori mor bwerus, yn atseinio chwedlau ein cenedl, ac eton apelio at blant heddiw gan eu bod hefyd yn adlewyrchu arwyr goruwchnaturiol gemau cyfrifiadurol rhywbeth sydd wastad yn plesio! Ond maen nhw hefyd o gig a gwaed, yn teimlo ir byw, yn bradychu, yn hoffi a ddim yn hoffi ei gilydd ac yn coelio mewn credoau ac yn meddu ar ddaliadau gwahanol iawn iw gilydd. Maer llyfr hwn hefyd yn frith o dafodieithoedd gwahanol ac yn adlewyrchu lleoliadau gwahanol yng Nghymru hyn ynddoi hun yn beth prin hefyd. Yn glyfar iawn, fe fydd y nofel hon yn denu diddordeb brwd mewn hanes ac yn ennyn diddordeb yn yr arwyr go iawn sydd wedi troedio Cymru.

Maer darllenydd ifanc yn siŵr o orffen hon gyda dychymyg byw am oes y Celtiaid, ynghyd deigryn yn ei lygaid, lwmp yn ei wddf ond yn caru Cymru yn fwy nag erioed.

Llinos Griffin

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Iesu Tirion
Lleucu Roberts
£6.95
 
Prynwch
Cyfres Pen Dafad: Pen Dafad
Bethan Gwanas
£2.95
 
Prynwch
Troi Clust Fyddar
Lleucu Roberts
£6.95
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Mam - Cerddi gan Famau, ...
 
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Talk Welsh
Heini Gruffudd
£6.95
 
Prynwch
Plant
Mis yr Ŷd
Manon Steffan Ros
£5.99
 
Prynwch