Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Dyfroedd Dyfnion - Hunangofiant John Elfed
John Elfed Jones, Gwyn Griffiths
ISBN: 9781847716750 (184771675X)Dyddiad Cyhoeddi Mehefin 2013
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 215x140 mm, 224 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £9.95 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Ac yntau'n un o bersonoliaethau mwyaf dadleuol a diflewyn-ar-dafod Cymru, mae John Elfed Jones wedi hen arfer â chreu penawdau cenedlaethol. Beth felly yw gwir gymhellion y gŵr adnabyddus hwn sydd wedi arwain rhai o gyrff a mudiadau mwyaf pwerus y wlad? Cawn ddarganfod mwy am gyn-gadeirydd Dŵr Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn yr hunangofiant hwn.

John Elfed Jones is one of Wales' most controversial and straight-talking personalities. The man who has made countless national headlines and led some of Wales' most powerful organisations shares his true motives in this book, his autobiography.
Honnir bod hwn yn ‘hunangofiant diflewyn-ar-dafod’. Dyn pobol yw John Elfed. Gan iddo fod yn aelod neu’n Gadeirydd neu’n Brif Weithredwr ar gymaint o sefydliadau, y perygl oedd y byddai’r gyfrol yn portreadu dyn y sefydliad. Roedd y dull o weithredu'n ychwanegu at y perygl hwnnw, sef adrodd eich stori wrth berson arall sy’n cofnodi’n gronolegol ac yn rhoi trefn ar y cyfan.

O’i blentyndod cafodd John Elfed fywyd llawn anturiaethau a’r rhan fwyaf ohonynt yn brofiadau difyr a gwahanol i’r cyffredin. Gyda chymaint i’w ddweud, y demtasiwn yw cofnodi popeth gan symud, fel iâr fach yr haf, o flodyn i flodyn, heb aros i fynd i ddyfnder ar unrhyw destun penodol.

Felly, mae’n dda bod John Elfed, mewn brawddeg brin, wedi datgan ei farn yn groyw yma a thraw ar rai pynciau ac wrth rai pobl. Nid gwleidyddion yw ei hoff ddosbarth o bobl am eu bod nhw'n ‘tynnu sylw atyn nhw eu hunain’. Cadwodd y ddysgl yn wastad rhwng y pleidiau. ‘Llwyddais yn ystod fy mywyd, weithiau’n fwriadol, dro arall yn anfwriadol, i roi cic i sawl nyth cacwn.’ Cafodd yntau ei bigo’n filain yn ei dro, gan rai oedd yn llechu’n ddienw, gwaetha’r modd.

Nid yw’n un i'w frolio’i hun ond fe gafodd ddylanwad ar wleidyddion drwy ei syniadau am degwch i’r gweithwyr ac am flaenoriaethau rhyngwladol, boed yn y Bwrdd Trydan, Alwminiwm Môn, y Swyddfa Gymreig, Awdurdod Dŵr Cymru, Bwrdd yr Iaith Gymraeg – ac fe ddeil mai llwyddo i gael ‘hanner torth’ o ddeddf iaith oedd y cam pwysicaf ar y pryd – Cyngor Darlledu’r BBC, Awdurdod HTV, Grŵp Ymgynghorol y Cynulliad a Phrifysgol Cymru.

Daw i’r amlwg fod ganddo o leiaf ddau gariad. Urdd Gobaith Cymru yw’r naill a Sheila, ei wraig, yw’r llall. Yn sail i’w ddewis clyfar o deitl, Dyfroedd Dyfnion, mae un o’r ddau gariad arall – ei hoffter o bysgota.

Cyfrol ddifyr, onest a dadlennol.

R. Alun Evans

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Gwybodaeth Bellach:
John Elfed yn ddiflewyn-ar-dafod am ddŵr, yr iaith a’r mewnlifiad

Ac yntau’n un o bersonoliaethau mwyaf dadleuol a diflewyn-ar-dafod Cymru, mae John Elfed Jones wedi hen arfer â chreu penawdau cenedlaethol. Beth felly yw gwir gymhellion y gŵr adnabyddus hwn sydd wedi arwain rhai o gyrff a mudiadau mwyaf pwerus y wlad?

Fe gawn ddarganfod mwy am gyn-gadeirydd Dŵr Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg wrth iddo gyhoeddi ei hunangofiant, Dyfroedd Dyfnion.

Mae CV John Elfed, sy’n enedigol o Faentwrog ond bellach yn byw yn y Coety ger Pen-y-bont ar Ogwr, yn rhyfeddol a dweud y lleiaf. Ymhlith ei restr faith o gyn-swyddi mae Dirprwy Gyfarwyddwr Rheoli Alwminiwm Môn, Is-Ysgrifennydd yn y Swyddfa Gymreig, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Cadeirydd HTV Cymru a Chadeirydd Dŵr Cymru.

Gyda dros ugain mlynedd o swyddi uchel eu proffil o dan ei felt, mae’n saff dweud nad yw’r gŵr hwn erioed wedi bod ofn dweud ei ddweud. Tra oedd yn Gadeirydd Bwrdd yr Iaith adeg y paratoi ar gyfer Deddf Iaith 1993, câi alwadau ffôn bygythiol i’w gartref gyda’r nos. Cafodd gryn sylw yn dilyn erthygl yng nghylchgrawn Barn unwaith, wedi iddo gymharu effaith y llif o fewnddyfodiaid di-Gymraeg ag effaith clwy’r traed a’r genau, oedd yn anrheithio’r Gymru wledig ar y pryd.

Dywed John: “Honnwyd fod fy sylwadau yn hiliol a’m bod yn galw’r Saeson yn glwy’r traed a’r genau ond yr hyn a ‘sgrifennais i, mewn gwirionedd, oedd bod dylanwad y mewnddyfodiaid yn newid natur cefn gwlad Cymru yn union fel roedd clwy’r traed a’r genau’n debygol o’i wneud.

“Rwy'n dal i sefyll wrth fy sylwadau ac rwyf yn credu bod yr un peth yn dal yn wir heddiw.”

Mae’r nodweddion yma’n parhau’n glir yn ei hunangofiant wrth iddo fynd ati i adrodd ei hanes yn ddidwyll.

Yn ystod ei gyfnod o 11 mlynedd fel Cadeirydd Dŵr Cymru bu'n goruchwylio'r broses o breifateiddio'r cwmni, gan ennill clod fel y dyn a drodd y busnes yn broffidiol ar ôl colledion mawr. Y llynedd creodd sylwadau’r cyn-bennaeth benawdau cenedlaethol unwaith eto pan ddywedodd y dylai Lloegr orfod talu am ddefnyddio dŵr o Gymru.

“Mae’n gywilyddus bod 30% o ddŵr Cymru yn mynd i Loegr. Mae’n adnodd pwysig a gwerthfawr i ni a dyle ni fod yn ei drin fel mae’r Albanwyr yn trin olew,” meddai John.

“Rydw i wastad wedi bod yn berson sydd ddim ofn dweud ei ddweud ac anaml fydda i’n difaru. Os ydw i wedi dweud rhywbeth sydd wedi brifo rhywun yn bersonol, yna rwy’n difaru, ond byth am fy sylwadau am gyrff neu fudiadau.”

Cawn glywed hefyd am ei falchder am ei gyfnod fel Cadeirydd cyntaf Bwrdd yr Iaith: “Rwy'n hynod falch o fy ngwaith gyda’r Bwrdd, roedd hi’n fraint ac anrhydedd i mi gael bod yn rhan o’r Ddeddf Iaith gyntaf. Er y balchder, roedd yn gyfnod anodd tu hwnt a derbyniais fygythiadau difrifol, gan gynnwys rhai i losgi fy nhŷ,” meddai John.

“Ar yr un llaw roedd y Bwrdd a’r Cymry Cymraeg yn cwffio am ddeddf sylfaenol a swmpus, ac ar y llaw arall roedd y Llywodraeth yn gyndyn o basio’r ddeddf ac yn ceisio ei chyfyngu hi o hyd. Ar y diwedd ro’n i’n teimlo fy mod wedi bod trwy 10 rownd gyda Cassius Clay!”

Ychwanega John: “Beth bynnag, mi gafwyd Deddf Iaith wedi llawer o drafod â swyddogion y Swyddfa Gymreig a thipyn o gyfaddawdu ar y ddwy ochr. Gwell tri chwarter torth na dim bara o gwbl i’r sawl sy’n newynu – roedd hi’n sylfaen hynod bwysig.”
Diweddarwyd ar 26 Mehefin 2013
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Golau ar y Gair (CD-ROM)
 
£19.99
 
Prynwch
Gwent County History, ...
 
£30.00
 
Prynwch
Blaid Ffasgaidd yng ...
Richard Wyn Jones
£9.99
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Dan Bwysau
John Alwyn Griffiths
£8.50
 
Prynwch
Saesneg
Head in the Clouds - ...
Boyd Clack
£10.00
 
Prynwch
Plant
Caffi Merelli
G. R. Gemin
£7.99
 
Prynwch