Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Cyfres ar Ben Ffordd - Pecyn
ISBN: 9781847716774 (1847716776)Dyddiad Cyhoeddi Chwefror 2013
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Golygwyd gan Meleri Wyn James Fformat: Clawr Meddal Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £19.95 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Casgliad cyflawn o'r holl lyfrau yng nghyfres Ar Ben Ffordd, sy'n ddeunydd darllen amrywiol i ddysgwyr Cymraeg. Am y tro cyntaf, dyma gyfres sy'n arwain y darllenydd ymlaen fesul cam o lefel Mynediad i Sylfaen a Chanolradd. Ymgynghorydd Ieithyddol: Elwyn Hughes o Brifysgol Bangor.

The complete collection of the Ar Ben Ffordd series - enjoyable reading material for Welsh learners. For the first time, this series takes the reader step by step from entrance level to foundation and onwards to intermediate ability. Language Consultant: Elwyn Hughes from the University of Bangor.
Tabl Cynnwys:
Lefel 1 (Mynediad): Camu Ymlaen & Ling-di-long
Lefel 2 (Sylfaen): Mynd Amdani & Nerth dy Draed
Lefel 3 (Canolradd): Ar Garlam & Cath i Gythraul
Gwybodaeth Bellach:
Maen Hawdd Dysgu Cymraeg!

Mae'r casgliad o 6 llyfr darllen i ddysgwyr yng nghyfres Ar Ben Ffordd bellach yn gyflawn. Maer gyfres yn arwain dysgwyr ymlaen or amser maen nhwn dechrau darllen (Lefel 1: Mynediad) at Lefel 2 (Sylfaen), i rai syn dysgu Cymraeg ers blwyddyn neu ddwy, a Lefel 3 (Canolradd), i rai syn fwy profiadol. Gobaith cyhoeddwyr y gyfres yw y bydd yn gymorth i baratoi dysgwyr Cymraeg ar gyfer darllen llyfrau Cymraeg i oedolion yn annibynnol.

Casgliad o ddarnau darllen difyr ac amrywiol gyda geirfa ar bob tudalen yw cynnwys y cyfrolau, ac maer arlwy yn amrywio o straeon byrion i erthyglau, cyfweliadau, jcs a phosau. Maer testunau wediu hysgrifennu gan arbenigwyr yn y maes dysgu Cymraeg, megis Heini Gruffudd ac Elwyn Hughes, ac awduron adnabyddus fel Bethan Gwanas, Lleucu Roberts a Geraint V Jones.

Pwrpas y llyfrau yw meithrin a datblygu sgiliau darllen dysgwyr ynghyd gwella sgiliau ieithyddol mewn modd hwyliog a diddorol, a darparu deunydd darllen difyr ac addas fydd yn eu harwain ymlaen o un cam ir nesaf, meddai Meleri Wyn James, golygydd y gyfres.

Cyhoeddir y gyfres gan y Lolfa fel rhan o brosiect Llyfrau Darllen Cymraeg i Oedolion AdAS ac mewn ymateb ir angen am gyfres o lyfrau darllenadwy i roi hyder i ddysgwyr. Mae cyfres Ar Ben Ffordd wedii ffurfio or llyfrau canlynol: Lefel 1 (Mynediad): Camu Ymlaen a Ling-di-long; Lefel 2 (Sylfaen): Mynd Amdani a Nerth dy Draed; Lefel 3 (Canolradd): Ar Garlam a Cath i Gythraul.
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Gŵr o Phoenix, Y
Bob Eynon
£3.25
 
Prynwch
Bedd y Dyn Gwyn
Bob Eynon
£3.25
 
Prynwch
Cenedliadur, Y/Gender Mender
 
£2.99
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Dan Bwysau
John Alwyn Griffiths
£8.50
 
Prynwch
Saesneg
Head in the Clouds - ...
Boyd Clack
£10.00
 
Prynwch
Plant
Caffi Merelli
G. R. Gemin
£7.99
 
Prynwch