Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Cyfres yr Hebog: Gwystl
Malorie Blackman
ISBN: 9781848510012 (1848510012)Dyddiad Cyhoeddi Mehefin 2009
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, Llandysul
Darluniwyd gan Derek BrazellAddaswyd/Cyfieithwyd gan Meleri Wyn James.Addas i oed 9-11 neu Cyfnod Allweddol 2 Fformat: Clawr Meddal, 197x128 mm, 72 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £4.99 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
'Gwna di hynna unwaith eto, ac fe wna i'n siŵr na fydd dy dad yn dy weld di byth eto!' Yn unig. Sgarff am eich llygaid. Dim syniad lle rydych chi na beth fydd yn digwydd nesa. Yr unig beth rydych chi'n ei wybod yw eich bod wedi cael eich herwgipio. Ac mae'n rhaid i chi ddianc. Ydych chi'n ddigon dewr? Addasiad Cymraeg o Hostage.

A Welsh adaptation of Hostage (Barrington Stoke). Suitable for reluctant readers age 8-12. Can you imagine how frightened you would be if you were kidnapped? Angharad is held to ransom and needs all her skill and bravery to survive.
Wel, os ydych yn mwynhau antur dyma, heb os, y llyfr i chi. Stori sydd yma am Angharad Huws. Dyw bywyd ddim yn hawdd i Angharad druan mae ei mam newydd adael y cartre ac mae hi newydd gael ffrae da'i thad ac, o ganlyniad, mae hin weddol unig ac yn teimlo nad oes neb ei heisiau. I ychwanegu at ei gofidiau, caiff ei herwgipio, a hynny am fod yr herwgipwyr am i dad Angharad roi gmau drudfawr iddynt. Mae hanes ei herwgipio yn codi arswyd go iawn ac mae clyfrwch Angharad fach i ddatrys y sefyllfa yn anhygoel ac yn llawn cyffro. Y cwestiwn mawr yw be syn digwydd ar y diwedd, a beth yw teimladau tad Angharad tuag ati? Wel, maer atebion yn y llyfr llyfr, gyda llaw, nad yw'n bosib ei roi i lawr unwaith yr ydych wedi dechrau ei ddarllen.

Dyma lyfr gwerth ei ddarllen mi all hefyd godi calon plentyn sydd, efallai, yn teimlo'n unig, neu syn teimlo weithiau nad oes neb ei eisiau. Addasiad ywr llyfr ond nid ydych yn ymwybodol o hynny o gwbl wrth bori drwyr tudalennau. Pob clod i Meleri Wyn James am hynny.

Sarah Down

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Gwybodaeth Bellach:
'Gwna di hynna unwaith eto, ac fe wna i'n siwr na fydd dy dad yn dy weld di byth eto!' Yn unig. Sgarff am eich llygaid. Dim syniad lle rydych chi na beth fydd yn digwydd nesa. Yr unig beth rydych chi'n ei wybod yw eich bod wedi cael eich herwgipio. Ac mae'n rhaid i chi ddianc. Ydych chi'n ddigon dewr?
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Crys Rhif Saith, Y
Alan Gibbons
£5.99
 
Prynwch
Rhywun yn Rhywle - Cerddi ...
Tudur Dylan Jones
£4.99
 
Prynwch
Stori Jigi Ap Sgiw: Y ...
Michael Lawrence
£5.99
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Mam - Cerddi gan Famau, ...
 
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Talk Welsh
Heini Gruffudd
£6.95
 
Prynwch
Plant
Mis yr Ŷd
Manon Steffan Ros
£5.99
 
Prynwch