|
Drama drawiadol ac ymfflamychol am Iesu - pwy oedd hi?! Mae'r ddrama heriol hon yn dad-grefyddu Iesu o Nasareth a'i thynnu o'r byd ysgyfala ymneilltuol Cymraeg, i ganol y byd modern - byd Herod a Pheilat, Caiaffas a Jiwdas. Drama gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caerdydd 2008.
A Welsh-language controversial play about Jesus. Commissioned for the National Eisteddfod of Wales, Cardiff 2008.
|
|
Go brin fod unrhyw ddrama Gymraeg wedi denu cymaint o sylw a heip yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Hyd yn oed cyn iddi weld golau dydd, defnyddiwyd geiriau ysgubol fel ‘cableddus’ a ‘phechadurus’ i’w disgrifio, a bu sôn am brotestiadau wrth iddi gael ei llwyfannu am y tro cyntaf fel rhan o weithgareddau’r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd eleni. Haerwn fod yr holl heip yn dweud mwy amdanom ni fel cenedl; mae niferoedd o’n capeli’n cau a chrefydd ar fin marw’n gelain, ac eto mae nifer sylweddol ohonom yn mwynhau ymdrybaeddu’n gyfoglyd ar Dechrau Canu Dechrau Canmol. Yn eironig ddigon, dyma thema ganolog y ddrama, sef rhagrith a hunangyfiawnder nawddoglyd unigolion.
Wedi blynyddoedd o greu dramâu haniaethol eu testun Cnawd ac Y Wal i enwi ond dwy bu i Aled Jones Williams fabwysiadu arddull naturiolaidd y tro hwn, a dadleuwn mai dyma ei ddrama fwya’ gonfensiynol hyd yn hyn, ac yn y bôn, er gwaetha’r holl rincian dannedd a fu, does dim yn ‘gontrofersial’ chwedl Ifas y Tryc, nac yn newydd yn y ddrama hon. Tydi portreadu Iesu fel merch, na chwestiynu’r atgyfodiad ddim yn torri tir newydd, ond oherwydd bod testun craidd y ddrama’n un sydd wedi’i wreiddio’n ddwfn yng ngwead y gymdeithas Gymraeg, llwydda i daro deuddeg.
Er hynny, os nad yw’r deunydd yn newydd, mae’n sicr yn apelgar i’r glust. Dywedodd y Prifardd a’r dramodydd T. James Jones unwaith mai bardd diog yw dramodydd, ond wrth lwc, eithriad i’r rheol honno yw Aled Jones Williams. Nodweddir gweithiau cynnar y dramodydd gan regfeydd amrwd, niferus, ond erbyn hyn mae wedi llwyddo i ddisgyblu’i hun i’w defnyddio’n bwrpasol ac effeithiol, a phrif gryfder y ddrama hon yw’r cyfuniad o gomedi a thrasiedi sydd wedi’u gweu’n ddeheuig o fewn deialog sy’n llifo’n llyfn a thelynegol.
Yn ddi-os mae’n ddrama dda a chrefftus, ac mewn mannau mae’r ’sgwennu’n wirioneddol grefftus a hudolus, ac yn dilyn dehongliad y Theatr Genedlaethol ohoni’n ddiweddar, buan iawn trodd y gwgu a’r brygowthan yn orfoledd a chanmoliaeth. Wedi dweud hynny, does ond gobeithio nad yw’r ddrama hon yn dynodi newid yng ngweledigaeth a ffyrnigrwydd Aled Jones Williams, oherwydd mae ar ei gryfa’ pan mae’n flin. Mae pob cenedl angen dramodydd blin, pe bai ond er mwyn amlygu’r rhagrith a’r unigolion hunangyfiawn nawddoglyd nodweddion sydd mor amlwg yn y Gymru gyfoes ffug-grefyddol sydd ohoni heddiw.
Dafydd Llewelyn Jones
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
|
Gwybodaeth Bellach: Er gwaetha'r teitl, nid drama grefyddol yw Iesu! Anghofiwch bopeth a glywsoch chi, a wyddoch chi, a welsoch chi am Iesu o Nasareth – yn enwedig am Iesu Grist: ac y mae yna wahaniaeth rhwng y ddau! Darllenwch y ddrama hon a phenderfynwch chi sut gymeriad yw’r wraig a elwir Iesu.
Wedi 9/11 mae crefydd ffwndamentalaidd – Cristnogol, Islamaidd ac Iddewig – yn berygl bywyd i'r ddynoliaeth gyfan. Mae'n arf wleidyddol, yn bropaganda ac yn gyfiawnhad.
Rydyn ni'n meddwl ein bod ni'n gwybod pwy ydy Iesu – ond a ydyn ni'n gwybod mewn gwirionedd? Bydd y ddrama heriol hon yn dad-grefyddu Iesu o Nasareth a'i thynnu o'r byd ysgyfala ymneilltiol Cymraeg, y llyfr hymns a'r beiblau duon.
Byddwch yn barod i feddwl…ac i ddadlau.
Mae'r Prifardd Aled Jones Williams yn llenor aroloesol a digyfaddawd a dyma esiampl newydd o'i ddawn ffrwydrol.
Iesu! yw drama gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2008, a berfformir gyntaf yn yr eisteddfod honno gan Theatr Genedlaethol Cymru.
|