Eich basged
Mae eich Basged yn Wag
Ewch i...
Gwerthwyr Gorau
Dolenni
|
| Gwybodaeth Lyfryddol |
| Teulu Lòrd BachGeraint V. Jones
Gweld rhagor o deitlau gan 'Geraint V. Jones' |
ISBN: 9781848510173 (1848510179)Dyddiad Cyhoeddi Tachwedd 2008
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, LlandysulFformat: Clawr Meddal, 195x128 mm, 656 tudalen
Iaith: Cymraeg
Ar gael Ein Pris:
£9.99
| |
Sgôr y Cwsmeriaid ar gyfartaledd:   
|
|
|
Nofel uchelgeisiol yn cwmpasu pedair cenhedlaeth a phedwar rhyfel yn ystod yr ugeinfed ganrif. Wrth i feibion Blaendyffryn wynebu eu ffawd, boed honno yn y chwarel, yn y fyddin, yn y lofa neu yn y llu awyr, rhaid iddynt fod yn ddewr, bob un yn ei ffordd ei hun. Ond meistres greulon yw ffawd, fel y gŵyr teulu Lòrd Bach yn dda.
An ambitious novel encompassing four generations and four wars in the 20th century. While the sons of Blaendyffryn have to face their fate, whether they're at the quarry, in the army, down the coal-mine or in the air force, they must be brave, each one of them in their own way. But fate is such a brutal force, as the Lòrd Bach family already know.
|
|
Mae nofel ddiweddaraf Geraint V. Jones yn nofel a hanner. Yn bedair nofelig mewn un, bron, wrth i’r awdur adrodd hanes pedair cenhedlaeth o fewn yr un teulu, gan rychwantu’r ugeinfed ganrif. Yn ogystal â bod yn hanes ‘Teulu Lòrd Bach’, mae hi hefyd yn hanes cymuned a rhyfel a dirywiad crefydd, iaith a diwylliant.
Nid ei bod yn nofel sy’n sentimentaleiddio am y gorffennol. I’r gwrthwyneb, ceir yma ddarlun realistig o galedi teuluoedd yn nhref chwarelyddol Blaendyffryn, sy’n seiliedig ar Flaenau Ffestiniog (pam trafferthu newid yr enw, dwn i ddim). Mae’r rhan gyntaf yn bennaf o safbwynt y fam, Alis Lòrd Bach, ac yn cyfleu cymuned glòs, dlawd ond ddiwylliedig, yn gyforiog o iaith lafar a thermau Cymraeg dilychwin. Y mae hefyd yn delio ag effeithiau erchyll y Rhyfel Byd Cyntaf.
Shellshock ei frawd Rhys, a chanlyniadau trychinebus hynny, sy’n peri i Ifan Lòrd Bach ddewis bod yn wrthwynebwr cydwybodol yn yr Ail Ryfel Byd, gan orfod dioddef sen a gwawd llawer am fod yn ‘conshi’, er bod rhai yn ei barchu am ei safiad.
Cyferbynnir hanes brwydr fewnol Ifan a’i ddaliadau yn gelfydd â brwydrau real ei frawd, Huw, sy’n ymuno â’r Llu Awyr ac yn rhan o’r cyrch sy’n bomio Dresden, gan droi ei fywyd yntau ben i waered. Yn wir, mae yna rywbeth Hardy-aidd, bron, yn y modd y mae’r awdur yn pentyrru ergydion hegar bywyd ar ei gymeriadau. Mae ffawd Huw, yr arwr rhyfel dadrithiedig, yn arbennig o ofer a gwaedlyd, ond eto’n gwbwl gredadwy.
Trist o realistig hefyd ydi’r dirywiad cymdeithasol cyffredinol a ddarlunnir, er i agwedd yr awdur tuag at un cymeriad beri anesmwythyd i mi. Hwyrach mai homoffobia Ifan (ŵyr yr Ifan cyntaf) sy’n gresynu at yr ‘elfen ferchetaidd atgas’ yng nghymeriad ei fab, Arnold, ond teimlais mai cam gwag a diangen ar ran yr awdur oedd cynnwys y cyhuddiad sinistr a wneir yn erbyn y bachgen, heb ychwanegu dim at y stori ond creu hyd yn oed mwy o boen a gofid i deulu Lòrd Bach!
At ei gilydd, fodd bynnag, mae hon yn nofel ddarllenadwy, hyderus ac epig ei rhychwant, wedi’i hymchwilio’n fanwl. Ac os oes tueddiad ynddi i fod braidd yn brudd (nad yw’n fawr o syndod, o bosib, â hithau’n rhychwantu’r ganrif fwyaf treisgar erioed), o leia mae yna lygedyn o obaith ar ei diwedd!
Elin Llwyd Morgan
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
|
Gwybodaeth Bellach: CANRIF, CYMUNED A CHWE CHENHEDLAETH
Un teulu, eu helyntion, ac effaith y byd mawr tu allan arnyn nhw a’u cymuned glos yw calon nofel newydd yr awdur amryddawn Geraint V. Jones. Hon ei ddegfed nofel i oedolion, yn cynnwys tair a gipiodd Wobr Goffa Daniel Owen, Teulu Lord Bach, o bosib, yw’r mwyaf uchelgeisiol ohonynt.
Gan ganolbwyntio ar bedwar unigolyn o blith cenedlaethau’r teulu Huws, mae’r nofel yn ein tywys drwy ganrif yn eu hanes; drwy’r caledi, dau Ryfel Byd, dirywiad crefydd, Thatcheriaeth a Llafur Newydd, a’r cyfan o stryd fechan Lord Bach, yn nhref Blaendyffryn, yng nghanol chwareli Gogledd Cymru.
Dechreuwn â chymeriad Alis Lord Bach grefyddol, ei hymgais i wneud synnwyr o gyfrinachau cymhleth ei gorffennol, ac ymdopi ag iechyd meddwl ei mab wedi iddo ddychwelyd o’r ffosydd yn Ffrainc. Symudwn wedyn at ei mab ieuengaf, Ifan, sy’n gorfod cwestiynu’i foesoldeb a’i egwyddorion wrth wynebu gorfodaeth i fynd yn sowldiwr, fel ei frawd mawr, ond i’r Ail Ryfel Byd y tro hwn. Wrth i’w grefydd ei ymatal rhag lladd ei gyd-ddyn, gwêl ei gymdeithas ei hun yn troi cefn arno.
Meddai Bethan Mair golygydd y gyfrol, “Mae’r profiade’n rhai gerwin dros ben.... mae’r creulondeb mae Ifan yn ’i wynebu fel gwrthwynebydd cydwybodol y peth mwyaf erchyll yn y nofel.”
Symudwn wedyn at Huw, nai Ifan, a benderfynodd fynd i’r awyrlu, yn groes i ddymuniad ei ewythr, a chael ei anafu’n ddifrifol a’i gymryd yn garcharor. Yn ei stori o, gwelwn ganlyniadau hynny; y sgileffeithiau ar ei iechyd, yn gorfforol ac yn feddyliol, ac un fu unwaith mor siriol bellach yn sur. Gorffennwn â’i nai yntau, Arthur, mab Ifan, sydd wedi penderfynu gadael Blaendyffryn a magu ei deulu ym Mangor. Wrth i newidiadau mawr ddigwydd mewn cymdeithas, felly hefyd ar deulu Lord Bach, eu plant, a phlant eu plant. Gyda phob cenhedlaeth o’r Huwsus mae penderfyniadau gwleidyddol bydeang yn effeithio’n uniongyrchol arnyn nhw, ar eu daliadau a’u dewisiadau.... yn union fel y gwnaeth ar ein teuluoedd ni ein hunain, bob un.
“Stori teulu Lord Bach yw stori Blaendyffryn, a stori Blaendyffryn yw stori Cymru,” ychwanega Bethan Mair.
Meddai Geraint V. Jones, “Mi fues i’n chwara’ â’r syniad o sgwennu nofel efo’r Rhyfel Byd Cynta’n gefndir iddi, ond dyma fi’n meddwl wedyn ‘be am gael nofel sy’n rhychwantu cyfnod, sydd gobeithio yn dangos fel mae petha’ wedi newid, fel mae agwedda’ pobol wedi newid, fel mae bywyda’ pobol wedi newid.”
Yn wir, bu’r nofel a’i chymeriadau yn ymhél yn ei ben am fisoedd lawer cyn iddo fod yn barod i’w hysgrifennu, nes yn y diwedd teimlo bod rhaid cychwyn arni o ddifri: “Os nad ydi stori’n gadael llonydd i rywun, yna mae’n rhaid i rywun ffeindio ffor’ i’w rhoi hi ar bapur,” esboniai’r awdur.
Wedi derbyn grant ‘Cymru Greadigol’ gan Gyngor y Celfyddydau, am ‘Waith Creadigol Uchelgeisiol’, galluogwyd yr awdur i fynd ati â’r dasg o ymafael yn yr holl waith ymchwil a aiff i mewn i nofel hanesyddol fel hon: “Ffrwyth y gwaith hwnnw yw’r nofel,” atega Bethan Mair. “Ma’ lot fawr o waith ymchwil wedi mynd i gael cefndir y Rhyfel Byd Cynta’ a’r Ail Ryfel Byd yn iawn gan Geraint ac, er ’i fod e’n un sy’n dod o Flaenau Ffestiniog, ma’ gwaith ymchwil ynglŷn â Blaena wedi mynd i mewn iddi hefyd. Ond y petha mwya’ uchelgeisiol, wrth gwrs, yw’r sgôp a’r hyd, gyda’r nofel yn ymestyn dros 650 o dudalennau.”
Er mai tref ddychmygol yw Blaendyffryn, lleoliad y nofel, mae’r awdur ei hun yn cyfaddef ei bod yn bur amlwg ar ble y mae’r dref honno wedi’i selio: “Dychymyg llwyr ydi’r nofel, ond does ’na ’m llawar o amheuaeth lle ydi Blaendyffryn,” meddai Geraint V. Jones. “Mae Blaenau Ffestiniog yn gymaint rhan ohona i, ac mae ei hysbryd ynghlwm â’r straeon a’r cymeriadau fel ei gilydd. Ond rhaid pwysleisio mai cip fechan yn unig sydd yma o’r gymdeithas dwi’n ei chofio ac fel dwi’n ’i dychmygu hi yng nghyfnod fy nheidia a’m neinia,” meddai Geraint.
Ychwanega Bethan Mair, “Mae Blaendyffryn bron a bod yn gymeriad mor gryf ag aelodau unigol o’r teulu. Ac yn yr un modd ag y mae’r teulu’n dirywio, mae’r gymuned yn newid hefyd... ac yn chwalu.”
Mae yma nofel fawr, ag ynddi gyfoeth o hanes a phrofiadau cenedl o genedlaethau, dros ganrif a welodd gyni mawr a cholled enbyd. Ond, ar ben popeth, mae’n peri i ni sylweddoli pa mor agos yw’n perthynas ni, o hyd, ag aelodau a welodd fywyd tebyg iawn i Deulu Lord Bach. |
|
|
|
Diweddarwyd ar 15 Mehefin 2009
|
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
|
|
"Ers darllen Semtecs, rwy'n ffan mawr o waith Geraint V. Jones. Ni chefais fy siomi gyda'r nofel ddiweddaraf. Nofel sy'n anodd ei rhoi i lawr, ac yn sicr fe'i darllenaf eto. Gallai fod yn llyfr gosod mewn ysgol neu goleg oherwydd yr ysgrifennu gafaelgar sy'n gosod dyn yn y fan a'r lle. Gwych! Dim amheuaeth 5 seren. Edrych ymlaen at y nofel nesaf. Tybed a yw Semtecs yn dal yn fyw?"
"Cefais sioc o weld pa mor drwchus oedd y nofel hon! Ond ar ôl i mi ddechrau ei darllen, doedd hi ddim yn hawdd ei rhoi i lawr. Nofel wych, afaelgar, realistig. Dwi wedi dysgu llawer wrth ddarllen y nofel ac fe wnaeth hi hefyd ddwyn llawer o atgofion yn ôl i mi gan fy mod i'n un o blant y Blaenau. Diolch am yr holl waith ymchwil yn seiliedig ar y gwahanol gyfnodau ac am ddod â'r dref yn fyw i mi yng nghyfnod fy rhieni a'u rhieni hwy. Gobeithio bydd y nofel ar restr Llyfr y Flwyddyn. Llongyfarchiadau!"
|
|
|
|
Rhagor o Deitlau
|
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
|
Llyfr y Mis
|