Eich basged
£16.98
Ewch i...
Gwerthwyr Gorau
Dolenni
|
Gwybodaeth Lyfryddol |
Cyfres Cawdel: Dirgelwch Gwersyll Glan-Llyn Gareth Lloyd James
|
ISBN: 9781848510333 (1848510330)Dyddiad Cyhoeddi Mawrth 2009
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, LlandysulAddas i oed 9-11+ neu Cyfnod Allweddol 2/3
Fformat: Clawr Meddal, 197x130 mm, 160 tudalen
Iaith: Cymraeg
Ar gael Ein Pris:
£4.99
|
|
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
|
|
Helyntion criw o ffrindiau yng ngwersyll yr Urdd, Glan-llyn. Mae'r prif gymeriad, Glyn, a'i ffrindiau pennaf, Jac, Deian a Rhodri, y n fechgyn drygionus a direidus. Maent yn aml yn mynd o dan groen e u hathro, Mr Llwyd, sy'n ei chael yn anodd iawn i reoli'i ddisgyblion.
A story about a group of friends at the Urdd campsite, Glan-llyn. The main character, Glyn, and his best mates, Jac, Deian and Rhodri, are mischievous lads. They often get on Mr Llwyd's nerves, and he doesn't manage to control his pupils very well.
|
Dyma lyfr bendigedig – un o’r llyfrau y mae bechgyn ifanc Cymru wedi bod yn aros amdano ers tro. Ond, heb os, fe fydd yn apelio hefyd at ferched a rhieni a fydd, efallai, yn anfon eu plant yno, neu sydd eisoes wedi bod yn gwersylla yno eu hunain ar ryw adeg. Dyma lyfr realistig sy'n cynnwys cymeriadau bywiog iawn – gall pawb uniaethu â chriw mor ddireidus â Glyn, Deian, Rhodri, Jac a’u cyfeillion.
Mae profiadau megis bowlio deg a bwyta'r nifer mwyaf o wyau siocled yn dwyn llawer o atgofion yn ôl i nifer o blant a swogs, mae’n siŵr – ond mae ’na ddirgelwch hefyd yn y nofel hon wrth i Glyn weld ysbryd ar y llyn. Darllenwch y llyfr er mwyn gweld sut mae pawb yn ymdopi â Colin – cymeriad lled fygythiol.
Dyma lyfr i’w fwynhau mas draw ac edrychaf ymlaen at ddarllen nofelau eraill yn y gyfres.
Tegwen Morris
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council
|
Bywgraffiad Awdur: Mae Gareth Lloyd James yn wreiddiol o Gwmann, Llanbed ac yn ddirprwy-brifathro Ysgol Gymraeg Aberystwyth. Gwybodaeth Bellach: Gwersyll yr Urdd, Glan-llyn yn Serennu Mae mis Ebrill yn fis pwysig iawn i ddirprwy-brifathro Ysgol Gymraeg Aberystwyth eleni. Fe fydd Gareth Lloyd James, sy’n wreiddiol o Gwmann, Llanbed yn priodi, ac yn ogystal â hynny, fe fydd yn cynnal ei sesiynau llofnodi cyntaf fel awdur. Mae Dirgelwch Gwersyll Glan-llyn, y teitl cyntaf yng nghyfres Cawdel, a llyfr cyntaf Gareth ei hun, yn stori ddirgelwch sy’n dilyn criw o blant ar daith breswyl i Wersyll yr Urdd, Glan-llyn. Lleolir tair nofel arall y gyfres yng ngwersylloedd Llangrannog, Caerdydd a Phentre Ifan. Gyda miloedd o blant Cymru yn gyfarwydd â’r lleoliadau a’r gweithgareddau a gynigir yn y gwersylloedd, fe fyddan nhw’n siwr o uniaethu â rhai o brofiadau’r plant yn y nofelau.
Mae’r Urdd yn chwarae rhan bwysig ym mywyd nifer o blant ysgol yng Nghymru ac mae’n agos iawn at galon yr awdur ifanc hwn hefyd. Gareth Lloyd James yw is-gadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Ceredigion 2010 a bu’n llywydd y mudiad rhwng 2007-2008. Mae’n gwybod yn union beth sydd at ddant plant 9 -12 oed, yn enwedig y bechgyn, ac fe gafodd ei ddosbarth yn yr ysgol flas ar gynnwys y llyfr cyn ei gyhoeddi.
Fel mae’r teitl yn awgrymu, nofel ddirgelwch yw hon sy’n dilyn anturiaethau criw o blant ar daith breswyl i Wersyll yr Urdd, Glan-llyn. Mae’r prif gymeriad, sef Glyn, a’i ffrindiau pennaf Jac, Deian a Rhodri, yn fechgyn drygionus a direidus dros ben, ac mae trwbwl yn eu dilyn nhw i bobman. Ar y llaw arall, mae’r merched yn ymddangos fel angylion. Maen nhw’n dda am wneud popeth, ond maen nhw hefyd yn mynd dan groen y bechgyn gyda’u triciau twyllodrus! Wrth i’r plant fwynhau tridiau yn y gwersyll, fe sylweddolwn nad ymweliad cyffredin â’r gwersyll yw hwn. O ddarllen y nofel, cewch weld pam! |
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
|
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
|
|
|
|
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
|
| Sgìl! |
Meinir Ebbsworth |
£6.00 |
|
| |
Llyfr y Mis
|