Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Glaw a Hindda (Print Bras)
Jenny Ogwen
ISBN: 9781848510630 (1848510632)Dyddiad Cyhoeddi Ebrill 2009
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, Llandysul
Fformat: Clawr Meddal, 230x150 mm, 184 tudalen Iaith: Cymraeg Allan o Stoc - Archebir yn ôl y galw Ein Pris: £12.99 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Fersiwn print bras o Glaw a Hindda. Stori liwgar ac afieithus y gyflwynwraig adnabyddus, Jenny Ogwen. Yn cynnwys hanesion difyr am ei gyrfa ym myd y cyfryngau - fel cyflwynwraig ar 'Siôn a Siân', fel actores ar raglenni i blant ac i ddysgwyr, a'i phrofiadau wrth gyflwyno'r tywydd. Mae'r hunangofiant yn frith o dafodiaith hyfryd ac unigryw Sir Benfro.

A large print version of Glaw a Hindda. The autobiography of the former S4C weather presenter, Jenny Ogwen. Includes interesting anecdotes of her experiences with the media.
Fe fyddwn fel arfer yn meddwl am Jenny Ogwen fel un o gyflwynwyr tywydd mwyaf enwog a phoblogaidd S4C, yn cyfleu rhagolygon hinsoddol i’w chynulleidfa yn ei thafodiaith fwyn, hyfryd, gan siarad yn naturiol fel petai eich hoff gymdoges wedi galw mewn i roi’r rhagolygon. Dyma’r arddull sy’n nodweddu ei hunangofiant, Glaw a Hindda, hefyd. Nid yn unig mae’r hanesion yn llifo fel sgwrs dros baned ond fel mae Jenny ei hun yn dweud: ‘Mae’r llyfr wedi’i sgrifennu fel wdw i’n siarad’ gan ‘iwso geire’ fel ‘gili’ (gilydd) a ‘getre’ (gartref) a byth yn treiglo ‘yn Crymych’.

Efallai y bydd rhai yn disgwyl i’r gyfrol hon ganolbwyntio ar fywyd yn y cyfryngau a bod yn seleb mewn partis yn y brifddinas, ond mae ei gwreiddiau yn y Gorllewin yn bwysig i Jenny ac mae bron hanner y llyfr yn trafod ei chefndir yn Sir Benfro cyn i ni gyrraedd Caerdydd a dyddiau arloesol teledu Cymraeg yn stiwdios TWW ym Mhontcanna.

Nid yw’n syndod i’r ferch benfelen o Grymych feithrin yr asbri i ganu ac actio yn y West End tra oedd yn yr ysgol. Nid syndod ychwaith, o weld y lluniau niferus o albwm Jenny, iddi ennill teitl Miss Pembrokeshire 1961 a Miss Norvic yn Llundain – pan aeth llond bws o Grymych lan i’r brifddinas i ddangos eu cefnogaeth.

Daeth cyfnod Siôn a Siân â Jenny i’r rheng flaen ymysg gwylwyr teledu Cymru ac mae yma hanesion difyr am wneud un o’r sioeau mwyaf poblogaidd a fu ar deledu. Yn seiliedig ar fformiwla o Ganada, cynhyrchwyd dwy gyfres yn Gymraeg cyn bod Mr and Mrs wedi cychwyn yn Saesneg.

Mae teulu yn bwysig iawn i Jen a cheir atgofion lu am berthnasau a dylanwadau cynnar yng Nghrymych. Mae’n amlwg i’r darllenydd mai yn ardal y Preselau y mae ei chalon hyd heddiw, ac mae’r llyfr hwn yn llawn cymaint o deyrnged i’r fro y mae wedi bod yn llysgennad iddi drwy ei gyrfa ag yw o hanes seren y cyfryngau.

Emyr Williams

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Gwybodaeth Bellach:
Jenny Ogwen – Glaw a Hindda

Mae Jenny Ogwen, un o bersonoliaethau mwyaf poblogaidd teledu Cymru dros y blynyddoedd, wedi mynd ati i groniclo'i hanesion difyr a phrif ysbrydoliaeth ei bywyd yn ei hunangofiant, Glaw a Hindda. Mae’r teitl yn dwyn i gof ei chyfnod fel cyflwynydd tywydd enwog S4C; hollol addas felly yw mai o bencadlys y sianel ar 21ain o Dachwedd y caiff y llyfr ei lansio, gydag ail ddigwyddiad ar y 24ain o Dachwedd yn un o hoff leoliadau Jenny, Clwb Golff Trefdraeth, Sir Benfro.

Cawn gipolwg yn y llyfr ar ddatblygiad y diwydiant teledu yn y Deyrnas Unedig. Gyda S4C yn dathlu chwarter canrif o’i fodolaeth ac ITV yn dathlu hanner can mlynedd o fodolaeth, cawn ddilyn Jenny ar ei thaith drwy hanes darlledu. Daeth Jenny’n enw cyfarwydd wedi iddi gyd-gyflwyno’r rhaglen Siôn a Siân gyda Dai Jones Llanilar. Ar un cyfnod bu’n gweithio i HTV, BBC, S4C a Thames TV yn Llundain. Er iddi gyfaddef ei bod yn dipyn o gamp jyglo’r cyfan, fel cyflwynwraig lawrydd, teimlai fod yn rhaid iddi gymryd y gwaith i gyd rhag ofn iddo ddod i ben.

Mae Jenny wedi byw ei bywyd yng ngolwg y cyhoedd; fe gafodd ei blas cyntaf o fyd yr enwogion pan gyfarfu â Gregory Peck tra bod y seren hwnnw'n ffilmio Moby Dick yn Abergwaun. Cyfaddefa Jenny iddi fod yn ffan mawr o ffilmiau fyth ers hynny. “Fel merch ifanc dwi’n cofio cael fy nghyfareddu gan wychder y diwydiant ffilm. Fy mreuddwyd wedd i allu nofio fel Esther Williams ac i edrych fel Debbie Reynolds,” dywedai dan chwerthin.

Mae hi hefyd yn datgelu ei bod yn dal i edmygu selebs yr “A-list”. Un o’i hoff bynciau i ddechrau sgwrs yw llun ohoni hi a Syr Tom Jones, a gafodd ei argraffu ar fag Anya Hindmarch fel anrheg gan ei phlant – ei mab Rhodri Ogwen Williams, y cyflwynydd teledu adnabyddus, a’i merch Sara a ddaeth i amlygrwydd ar droad y mileniwm wrth fodelu’r ffrog enwog wedi ei gwneud o faner y ddraig goch.

Yn ei harddegau cafodd Jenny ei blas cyntaf o serennu pan gafodd ei choroni’n Miss Norvic Teenager of the Year mewn digwyddiad mawreddog yng Ngwesty’r Mayfair yn Llundain. Yn ogystal â chael ei llun wedi ei gymryd yn broffesiynol a chwrs modelu yn Asiantaeth Modelu Lucie Clayton, fe enillodd freuddwyd miloedd o ferched – sef 21 pâr o esgidiau Norvic! Adrodda Jenny’r hanes yn y llyfr yn ei dull diymhongar wrth iddi gofio eistedd mewn cerbyd crisial hudol a theimlo fel Sinderela.

“Wedd yr achlysur yn ffantastig”, meddai. “Fe wnes i roi i mewn am y gystadleueth heb lawer o feddwl a bod yn onest. Felly wedd hi’n sioc i gael heibio’r rowndiau cynnar yng Nghaerdydd a Bryste a wên i’n wir methu credu’r peth pan wnes i ennill. Wedd hi’n sioc, ond nid hanner cymaint o sioc â gweld cyment o wynebe cyfarwydd ac annwyl o Grymych yn y gynulleidfa. Wedd hi’n hyfryd eu cael nhw yno yn Llunden yn fy nghefnogi.”

Mae gwreiddiau Jenny yn Sir Benfro wedi chwarae rhan allweddol yn ei bywyd. Mae’n gosod gwerth enfawr ar ei pherthynas gyda’i rhieni ac yn teimlo bod ei magwraeth hapus wedi chwarae rhan flaenllaw yn ei bywyd. Gellir clywed seiniau ac acenion sir enedigol Jenny yn ei llais melfedaidd – ac yn wir mae’r llyfr wedi ei ysgrifennu yn y dafodiaith hon.

“Dyna pwy wdw ’i”, esbonia Jenny. “Ma’r llyfr hwn wedi'i sgrifennu fel wdw i’n siarad, yng Nghymrag Sir Benfro. Mae’n dafodieth gyfoethog ac yn ddigon hawdd i’w ddeall. Mae geirie fel ‘wedd’ am ‘oedd’ neu ‘roedd’, ‘wên i’ am ‘roeddwn i’ neu ‘wer’ am ‘oer’ yn frith drwy’r llyfr. Os chi’n stryglan, gwedwch be chi’n weld a falle daw e’n gliriach bryd ‘ny. Gobitho ta beth!”
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth edrych ar y teitl hwn hefyd edrych ar y canlynol:
Cyfres Syniad Da: ...
 
£5.00
 
Prynwch
Cestyll yn y Cymylau
Mihangel Morgan
£6.95
 
Prynwch
Llyfr Gweithgaredd Stori ...
Bethan James
£3.99
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Esgyrn
Heiddwen Tomos
£8.99
 
Prynwch
Saesneg
Red Hearts and Roses? - ...
Rhiannon Ifans
£10.99
 
Prynwch
Plant
Natur Ych a Fi
Carol Barratt
£7.99
 
Prynwch