Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Cyfres yr Hebog: Huw Puw a'r Tadau Hud
Annie Dalton
ISBN: 9781848510739 (184851073X)Dyddiad Cyhoeddi Medi 2009
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, Llandysul
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Meleri Wyn James.Addas i oed 9-11 neu Cyfnod Allweddol 2 Fformat: Clawr Meddal, 195x129 mm, 72 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £4.99 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Roedd Huw Puw yn teimlo bod yn rhaid iddo ffeindio'r tad perffaith, er mwyn codi calon ei fam. Felly, mae e'n penderfynu chwilio am dad newydd ar wefan y Tadau Hud. Mae pob un mae ef yn ei ddewis yn rhyfedd iawn, ac mae pethau'n mynd o ddrwg i waeth! Addasiad Cymraeg o Zack Black and the Magic Dads.

Huw Puw's mum feels like a failure because Huw doesn't have a dad. So Huw and a teenage wizard download a series of 'perfect' dads from the Magic Dads website ... with hilarious results. A Welsh adaptation of Zack Black and the Magic Dads.
Huw Puw dyma drysor o fab os bu un erioed! Ac yntaun aelod o deulu un rhiant, mae ganddo berthynas wych efoi fam ac yn gwerthfawrogi ei holl ymdrechion. Maen awyddus iw phlesio a phan wl ei fam yn ddigalon oherwydd nad oes ganddir tad perffaith i Huw, maen mynd ati oi ben ai bastwn ei hun (gyda thipyn o help Myrddin y Mawreddog) i ddod o hyd ir tad delfrydol. Maer fam eisiaur gorau iw phlentyn ac maen rhestru rhinweddau tad o'r ath. Tybed a fydd yr ateb gan Myrddin a gwefan y Tadau Hud?

Cawn ein cyflwyno i dri thad hollol wahanol iw gilydd Gareth, y tad corfforol: Haia boi ... diwds ... cŵl; Raj, y tad sensitif: fangel ...; a Rhisiart, Arglwydd Pigfran sych, diflas a lloerig! Tri chynnig a gaiff gan Myrddin, ond beth os nad ydynt yn mister perffaith ... ond Mis-tec? Druan o Huw. Ai ofer ei ymdrechion? A pham yr holl dasgau efo Sian Morgan?

Llwyddar awdur i bortreadu Huw fel cymeriad crwn, sensitif ac aeddfed, ac mae sawl neges bwysig yn y gyfrol ar gyfer bywyd teuluol cyfoes. Ceir yma wyth o benodau gafaelgar, darllenadwy, ac addasiad hyfryd gan Meleri Wyn James o stori real ag elfen gref o gred mewn tynged a ffawd. Mae'r clawr yn un atyniadol iawn, ac mae'r lluniau du a gwyn effeithiol syn torri ar y sgwennu yn addas ar gyfer darllenwyr anfoddog.

Perl o nofel ar clon fendigedig gydar ateb fod angen math arbennig o hud ar deuluoedd i fywn hapus. Beth ywr hud? Sut wyt tin gwybod? ... Achos mae en teimlo fel cyrraedd adre ... Digon gwir!

Andrea Parry

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
What's the Word ...
 
£6.99
 
Prynwch
Ar Noson Calan Gaeaf Oer
Morgan Tomos
£2.95
 
Prynwch
Nadolig Plentyn yng Nghymru
Dylan Thomas
£2.00
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Apostol
Dyfed Edwards
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Bee Book, The
Jo Byrne
£9.99
 
Prynwch
Plant
Dathlu gyda Sali Mali
Ifana Savill
£6.99
 
Prynwch