Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Cyfres Siriol Swyn: Penbleth Mewn Parti
Emma Thomson
ISBN: 9781848511316 (1848511310)Dyddiad Cyhoeddi Ebrill 2010
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, Llandysul
Addas i oed 7-9 neu Cyfnod Allweddol 2 Fformat: Clawr Meddal Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £3.99 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Mae Siriol Swyn yn cynnal parti gwisg ffansi i'w ffrindiau yn Ysgol y Naw Dymuniad. Mae pawb yn cael trafferth i benderfynu beth i'w wisgo gan fod Siriol wedi dewis thema sydd bach yn unigryw. Tybed beth fydd gwisg Siriol? Addasiad Cymraeg o Party Pickle.

Siriol Swyn's fancy dress party is the talk of the School of Nine Wishes. But the theme is a little unusual and no one can decide what to wear ... A Welsh adaptation of Party Pickle (Felicity Wishes series).
Un o gyfres Siriol Swyn yw Penbleth mewn Parti. Ceir tair stori fer yn llifon rhwydd o un digwyddiad ir llall. Dyma stori fach syn addas i blant cynradd isaf.

Maer pedair tylwythen deg, sef Siriol, Moli, Poli a Mali, wedi cael blas ar berfformio yn sioe flynyddol Ysgol y Naw Dymuniad. Maent yn mynd i weld eisiau gwisgo mewn ffrogiau gyda thlysau a secwins. Ond mae Siriol yn cael syniad gwych! Beth am gael parti gwisg ffansi?

Yn y siop gleiniau, maer ffrindiau yn cwrdd thylwythen deg urddasol. Yn anffodus, mae hi a Siriol yn dewis yr union saffirau glas, a does dim rhagor ar gael yn y siop am bythefnos! O weld yr olwg drist ar wyneb y dylwythen deg urddasol, mae Siriol yn dweud y caiff hi nhw. Er ei bod yn siomedig dros hi ei hun, roedd Siriol yn teimlon hapus wrth weld hapusrwydd y dylwythen deg urddasol.

Daw diwrnod y parti ac mae pawb yn edrych yn ffantastig. Rhaid i Siriol benderfynu pwy syn mynd i ennill y wobr o gacen siocled. Tylwythen deg sy wedi gwisgo fel paun ywr enillydd, ond maen gwrthod y wobr. Mae hi wedi dod ir parti er mwyn rhoi gwahoddiad i Siriol ar ran Tylwythen Cerrig Pluog - gwahoddiad i ddod iw dawns mygydau. Roedd Siriol wedi rhoir saffirau glas yn y siop iddi hi. Dyma stori fach gyda neges syml a chyfle arall i Siriol ddangos ei charedigrwydd yn y ddawns.

Rosemary Thomas

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Gwybodaeth Bellach:
Or diwedd, mae diwrnod y parti wedi cyrraedd. Gan fod gwisgoedd y tylwyth teg mor wych, nid oes neb yn adnabod ei gilydd, gan gynnwys y gwestai cudd!

Pan fo Siriol yn cael gwahoddiad i ddawns arbennig, maen ei chael hin anodd i guddio ei chynnwrf. Tybed beth yw barn ei ffrindiau gorau?
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Cyfres Siriol Swyn: ...
Emma Thomson
£3.99
 
Prynwch
Cyfres Siriol Swyn: ...
Emma Thomson
£3.99
 
Prynwch
Cyfres Siriol Swyn: Hwyl Hud
Emma Thomson
£3.99
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Apostol
Dyfed Edwards
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Bee Book, The
Jo Byrne
£9.99
 
Prynwch
Plant
Dathlu gyda Sali Mali
Ifana Savill
£6.99
 
Prynwch