Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Tyner Yw'r Lleuad Heno
Meic Povey
ISBN: 9781848511491 (1848511493)Dyddiad Cyhoeddi Hydref 2009
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, Llandysul
Fformat: Clawr Meddal, 216x142 mm, 96 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Pris Llawn: £6.99 
Ein Pris: £2.00 
Rydych yn Arbed: £4.99 (71.4%) 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Drama newydd gan Meic Povey i gyd-fynd â thaith gan Theatr Genedlaethol Cymru yn ystod Hydref a Thachwedd 2009. Does dim fel cyfrinach i gadw teulu'n un - yn deyrngar, yn ofnus, yn euog ac yn bwysicach fyth, yn fud. Ym mhellafoedd cefn gwlad, mae'r gyfrinach yn cael llonydd. Ond yna daw ymwelydd o'r ddinas bell - un sy'n chwilfrydig, yn chwareus ac yn malio dim am ganlyniadau.

A long-awaited new play by Meic Povey. Dafydd is a student in Cardiff; living life to the full as a young North Walian in the capital. He's far, far away from the birthplace he's so fond of romanticising about, whilst raising his glass in the city's trendy bars and pubs. He returns to his familial home one fateful Sunday, to celebrate his much-loved grandfather's birthday.
Bywgraffiad Awdur:
Fel dramodydd, sgriptiwr, cyfarwyddwr ac actor mae Meic Povey wedi cael gyrfa hir a llwyddiannus. Yn llanc 18 oed gadawodd ei gynefin yn Eifionydd i gychwyn gwaith gyda Chwmni Theatr Cymru yn 1968 ac am fwy na 30 mlynedd mae'n awdur llawrydd sydd wedi ysgrifennu ar gyfer y theatr, teledu a ffilm.

Yn 1974 gyda'r diweddar Gwenlyn Parry, roedd yn gyfrifol am sefydlu Pobol y Cwm a bu'n actio yn y gyfres. Ymhlith ei ddramu y mae Y Cadfridog, Cofiant y Cymro Olaf, Wyneb yn Wyneb, Tair, Sul y Blodau, Nel, Perthyn, Talcen Caled, Bob a'i Fam a'i ddrama lwyfan Saesneg gyntaf, Indian Country. Ei ddrama Yn Debyg Iawn I Ti a Fi oedd perfformiad cyntaf cwmni Theatr Genedlaethol Cymru. Mae wedi ymddangos mewn cyfresi teledu a ffilmiau, gan gynnwys Y Dyn Nath Ddwyn y Dolig, Minder, Rhandir Mwyn, Gwen Tomos, Yr Heliwr, a Teulu'r Mans.
Gwybodaeth Bellach:
Gwyn fyd Dafydd: yn ugain oed, yn fyfyriwr yng Nghaerdydd, canolbwynt emosiynol y Cymry ifanc sydd ohoni, ac ymhell o'r filltir sgwr ormesol ar lethrau Eryri mae o mor hoff o ramantu yn ei chylch pan fon codi bys bach ym mariau a thafarndair brifddinas.

Dychwela Dafydd i fwrw Sul tyngedfennol yng nghwmni ei deulu i ddathlu pen-blwydd Prysor, y taid mae'n ei garu gymaint. Teulu cls; pawb yn byw yng nghegau a phocedi ei gilydd, ac yn rhannu a gwarchod cyfrinach dywyll a wthiwyd i ben pellaf eu hymwybyddiaeth cyfrinach a gadwyd rhag Dafydd ar hyd y blynyddoedd.

Mared dieithryn a ddaw i'w ganlyn, a dylanwad dinistriol os gwelwyd un erioed sy'n gyfrifol am ysgwyd Dafydd o'i gwsg hir, gan ddinoethi'r gwirionedd erchyll amdano yn y broses.
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Amser Dyn
Gwyn Thomas
£5.00
 
Prynwch
Cyfres y Cewri: 6. Neb
R.S Thomas
£4.25
 
Prynwch
Dymestl, Y
William Shakespeare
£5.75
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Dan Bwysau
John Alwyn Griffiths
£8.50
 
Prynwch
Saesneg
Head in the Clouds - ...
Boyd Clack
£10.00
 
Prynwch
Plant
Caffi Merelli
G. R. Gemin
£7.99
 
Prynwch