Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Cyffesion Geordie Oddi CartrefTony Bianchi Gweld rhagor o deitlau gan 'Tony Bianchi'
ISBN: 9781848512085 (1848512082)Dyddiad Cyhoeddi Mehefin 2010
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, Llandysul
Fformat: Clawr Meddal, 196x128 mm, 224 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £7.99 
Cyffesion Geordie Oddi Cartref
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Dyma gasgliad o straeon byrion gyda thinc hunangofiannol gan gyn-enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen. Gyda digon o hiwmor yn gymysg ag arswyd, mae'r awdur yn ein cyflwyno i'w deulu a'i ffrindiau, ond hefyd i'r hyn sy'n celu yn ei isymwybod ac yn peri gofid iddo.

A collection of semi-autobiographical short stories by prize-winning author Tony Bianchi.
Casgliad o straeon hunangofiannol yw cyfrol ddiweddaraf Tony Bianchi. Fel mae’r teitl yn awgrymu, o North Shields, Northumberland y daw Tony’n wreiddiol ond mae’n byw yng Nghaerdydd ers blynyddoedd lawer. Er hynny, nid cyfrol hunangofiannol draddodiadol mo hon. Mae’r straeon yn gymysgedd o ffaith a ffuglen, o ddigwyddiadau go iawn a myfyrdodau, ac yn cynnwys elfennau digon rhyfedd a thywyll ar brydiau.

Mae’r straeon wedi’u lleoli mewn llefydd a chyfnodau amrywiol yn ei fywyd, a chawn ein cyflwyno i gymeriadau gwahanol hefyd – ei fam a’i dad, ei dad-cu, ei Wncwl Len a’i Anti Mollie, Arkan, un o ddihiriod mwyaf rhyfeloedd y Balcan, Huw Weston, Miskin Meg a’i ffrindiau yn y New Conway. A’r straeon am y cymeriadau hyn yw’r rhai mwyaf llwyddiannus yn fy marn i: y portread annwyl o’i dad-cu a fu’n organydd yn eglwys St Cuthbert am 60 mlynedd, a’r amser a dreuliodd yn cadw cwmni i'w Wncwl Len a’i Anti Mollie.

Ond nid atgofion melys a geir pob tro. Mae’r stori ‘Eric ’n’ Ernie’ yn disgrifio artaith yr awdur adref ar ei ben ei hun efo’i dad wrth i’w fam fynd i'w chyfarfod misol â'i ffrind, unwaith y mis. Wrth i’w dad fynd yn sâl ar ôl bwyta ei swper, gan riddfan a disgyn mewn poen ni symudodd Tony, ac ni wnaeth ddim i helpu'i dad am fod ei ofn arno.

Mae hyn yn nodweddiadol o’r straeon yn y gyfrol. Mae yma ysgrifennu gonest iawn a chignoeth ar brydiau, ysgrifennu mentrus sydd yn rhoi sioc i chi ac yn eich ysgwyd, am fod yr awdur yn fodlon datgan ei deimladau’n hollol onest, meddyliau a theimladau y byddai llawer ohonom ni hefyd wedi’u cael yn yr un sefyllfaoedd ond na fyddem yn hoffi cyfaddef hynny. Cawn ddarlun, felly, o gymhlethdod y natur ddynol trwy’r straeon hyn.

Mae’r ysgrifennu’n dda ond mae yna duedd i grwydro gormod mewn ambell stori. Gogoniant cyfrol o straeon wrth gwrs yw nad oes rhaid ei darllen i gyd ar un tro. Gallwch ddarllen un neu ddwy ohonynt, rhoi'r gyfrol o’r neilltu wedyn, a dychwelyd ati rywbryd eto i fwynhau rhagor o’r straeon difyr hyn.

Nest Gwilym

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Bywgraffiad Awdur:
Cyhoeddodd Tony Bianchi dair nofel Gymraeg: Esgyrn Bach (2006), Pryfeta, a enillodd Wobr Goffa Daniel Owen 2007, a Chwilio am Sebastian Pierce (2009).
Gwybodaeth Bellach:
Dyma gasgliad o storïau 'hunangofiannol' sy'n troedio'r ffiniau aneglur rhwng ffaith a ffuglen, rhwng atgofion a hunllefau. Gyda phinsiaid o hiwmor a sachaid o arswyd, mae'r awdur yn ein cyflwyno i'w deulu, i'w ffrindiau ac, yn bennaf oll, i'w hen gythreuliaid. Awn yn ôl i'r ysgol Gatholig ar Tyneside lle dysgodd sut i ladd octopws. Ymwelwn â Miskin Meg, i gael siarad â'i dad yn Uffern. Ym Mogotá, cawn wers hynod am bwysigrwydd yr englyn ar gyfer amddiffyn cyfraith a threfn. Ac yn ôl yng Nghaerdydd, treuliwn hanner awr annisgwyl yng nghwmni un o ddihirod gwaethaf rhyfeloedd y Balcan. Trwy'r cyfan, gwelwn y plentyn sy’n dal i grynu y tu mewn i bob un ohomom ‒ a chwerthin am ben ei ymdrechion pitw i gadw'r bwgan draw.

'Cawn ein tywys, gam wrth gam sicr, ar daith hynod o blentyndod yn North Shields i brifddinas Cymru – ac yn ôl. Mae’r storïau'n cyfleu dwyster a digrifwch bywyd gyda threiddgarwch anghyffredin. Cyfrol ragorol.'
Angharad Price

“Mae Tony Bianchi’n gwthio'r ffiniau yn fwy na neb arall ers amser.”
Wiliam Owen Roberts
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Ffair Gaeaf a ...
Kate Roberts
£5.00
 
Prynwch
Prynu Dol a Storïau ...
Kate Roberts
£5.00
 
Prynwch
Annwyl Kate, Annwyl ...
Saunders Lewis
£5.00
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Alarch Du, Yr
Rhiannon Wyn
£5.95
 
Prynwch
Saesneg
Owain Glyn Dŵr - The ...
Peter Gordon Williams
£7.95
 
Prynwch