Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Cymru ar hyd ei Glannau
Dei Tomos, Jeremy Moore
ISBN: 9781848512436 (1848512430)Dyddiad Cyhoeddi Gorffennaf 2012
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, Llandysul
Fformat: Clawr Caled, 245x285 mm, 160 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £19.99 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Dathliad mewn gair a llun o arfordir trawiadol Cymru. Cyhoeddir i gyd-fynd ag agoriad swyddogol Llwybr Arfordir Cymru yn 2012.

A celebration of Wales's coastline in all its glory, published to coincide with the opening of the Wales Coast Path in 2012.
Dyma lyfr diddorol a deniadol syn mynd ni am dro ar hyd arfordir Cymru o Bont Hafren i bont sir y Fflint. Maer daith o 870 milltir wedi ei rhannun ddeg adran, gyda phennod i bob un. Cyfuniad sydd yma o sylwebaeth Dei Tomos a lluniau Jeremy Moore, y ffotograffydd. Ar ddiwedd y llyfr ceir map yn amlinellur daith o bennod i bennod.

Maer awdur yn amlwg wedi mwynhau crwydror glannau ac maen llwyddo in diddori ninnau wrth sylwi ar yr hyn a wl, sgwrsio r trigolion a hel atgofion am enwogion a hynodrwydd y gwahanol ardaloedd. Maer tudalennaun frith o sylwadau am gartrefi enwogion, cestyll, goleudai, ogofu, diwydiant a diwylliant. Mae Dei Tomos yn hen gyfarwydd r pethe, ac maer gyfrol yn frith o ddyfyniadau o gerddi hen a diweddar.

Wrth ddilyn arfordir Mynwy a Morgannwg cawn gyfarfod David Davies a gododd y dociau yn y Barri, yn ogystal chlywed am Edgar Evans o Rosili, ac am ei daith drychinebus i Begwn y De efo Scott. Ar draethau sir Gaerfyrddin y glaniodd Amelia Earhart ar l hedfan dros Fr Iwerydd yn 1928, ac ar dywod eang Pentywyn y bur ymryson am gyflymder uchaf ar y tir rhwng Malcolm Campbell ar Cymro, Parry-Thomas, yn ei fodur Babs. Awn heibio i gynefin Dylan Thomas ac ymlaen i sir Benfro, ac yn Ninbych-y-pysgod cofiwn am Robert Recorde, mathemategydd, ac un o blant y dref a ddyfeisiodd yr arwydd hafal (=). Ac felly ymlaen o sir i sir, o glogwyn i glogwyn ac o draeth i draeth. Galw heibio i rai or ynysoedd i fwynhaur adar ar blodau, rhyfeddu at y diwydiant yn Aberdaugleddau, cofio am gampau llenyddol teulur Cilie, a sefyllian peth uwchben Pwllderi. Canmol trefi Aberystwyth a Llandudno, ac wfftio Fairbourne yn ddidrugaredd heb son am erchylltrar carafannau ir dwyrain o Fae Colwyn!

Ymhlyg yn hyn i gyd y mae lluniau crefftus Jeremy Moore tirluniau godidog o arfordir Ceredigion ac Ynys Mn, portreadau manwl or frn goesgoch ar titw barfog, pobl wrth eu gwaith ac yn hamddena, am ffefryn i llun godidog or bonion coed ar y traeth yn Ynys-las.

Mae gennym ddau ddarlun yma un mewn geiriau ar llall drwy lygad y camera, dau ddarlun syn plethun hyfryd i greu cyfrol ddeniadol i bori drwyddi ac syn agor cil y drws ar ambell gilfan newydd or hen wlad.

Goronwy Wynne

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Bywgraffiad Awdur:
Bu Dei Tomos yn ddarlledwr a newyddiadurwr am dros ddeng mlynedd ar hugain, maen llais cyfarwydd ar BBC Radio Cymru a bu unwaith yn wyneb cyfarwydd ar S4C. Mae diddordeb byw Dei yng nghefn gwlad Cymru a materion gwledig yn amlwg i bawb, bun aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Chyngor Cefn Gwlad Cymru ac yn gadeirydd Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig. Amaethyddiaeth a chadwraeth y tirlun ynghyd hanes a threftadaeth yw ei ddiddordeb mawr. Doedd neb gwell i gerdded llwybr yr arfordir nac yntau ac i roi llais ir profiad unigryw hwnnw. Dymai gyfrol gyntaf.


Un o ffotograffwyr mwyaf blaenllaw Cymru yw Jeremy Moore. Ymhlith ei lyfrau mae Wales: The Lie of the Land (ar y cyd Nigel Jenkins), Heart of the Country (gyda William Condry), Blaenau Ffestiniog (gyda Gwyn Thomas) a Pembrokeshire: Journeys and Stories (gyda Trevor Fishlock). Mae ganddo lyfrgell ffotograffau helaeth o ddelweddau
o Gymru. Am fwy o wybodaeth, ewch i www.wild-wales.com
Gwybodaeth Bellach:
Dathlu agor Llwybr Arfordir Cymru yn gyflawn oi ddechrau hyd ei ddiwedd y mae Cymru ar Hyd ei Glannau. Maen gyfrol syn dilyn yr 870 milltir o daith o gwmpas yr arfordir, or de ir gogledd.

Newid cyson yw natur pob arfordir ac mewn cyfres o ffotograffau trawiadol fe ddaliodd Jeremy Moore ysbryd yr arfordir cyfnewidiol hwnnw a rhannur hyn a welodd ni. Rhannu ei ymateb personol yntau ir man cyfarfod rhwng daear a dwr y mae Dei Tomos hefyd, ac wrth wneud hynnyn nodi grym gafael yr arfordir arnom. Golwg anarferol sydd yma ar ddiwydiant a diwylliant ac ar bentrefi a threfi a thrigolion ar hyd yr hen lannau hyn.

Maer geiriau ar lluniaun dystion huawdl i amrywiaeth liwgar
y daith o gwmpas ein gwlad o ogofu cudd i eangderau aberoedd ac o glogwynir canrifoedd syn herior elfennau i dwyni meddal cynnes dyma Gymru ar hyd ei glannau.
Diweddarwyd ar 20 Gorffennaf 2012
Mae Cymrun fwy na pharod am y cynnydd sylweddol a ddisgwylir mewn pobl yn dewis mynd ar eu gwyliaun lleol. Fis Mai eleni gwelwyd agoriad swyddogol Llwybr Arfordir Cymru, y llwybr hiraf di-dor oi fath ar cyntaf o amgylch gwlad gyfan.


Maer awdur Dei Tomos ar ffotograffydd Jeremy Moore wedi creu llyfr unigryw syn cofnodir golygfeydd godidog ar hanes rhyfeddol sydd iw gael ar hyd y llwybr hwn syn 870 milltir o hyd, llwybr a gafodd ei ddisgrifio fel cyrchfan goraur byd yn 2012 gan lyfryn Lonely Planet.


Mae Cymru ar Hyd ei Glannau (Gomer) yn tywys darllenwyr ar daith anhygoel o gwmpas arfordir Cymru, gyda llawer or llwybr yn mynd trwy ardaloedd syn bwysig ac yn adnabyddus y tu allan i Gymru oherwydd y golygfeydd rhagorol, y bywyd gwyllt ac olion hanesyddol pwysig.


Ar hyd y daith mae un Geopark (GeoMn), 1 Gwarchodfa Natur Forol (Sgomer), 2 Barc Cenedlaethol (Eryri a Phenfro), 3 Ardal o Harddwch Eithriadol (Mn, Llŷn a Gŵyr), 11 Gwarchodfa Natur Genedlaethol, 14 Arfordir Treftadaeth a 23 o safleoedd sydd ar Restr Tirluniau Hanesyddol!

Maer llyfr wedii rannu yn 10 pennod fesul ardal, ac maen arddangos y llefydd ar golygfeydd hardd y mae modd eu gweld wrth droedio Llwybr Arfordir Cymru. O geg Afon Dyfrdwy ar hyd glannau gogledd Cymru gydai threfi glan y mr, dros y Fenai i Ynys Mn, o Benrhyn Llŷn lawr i ehangder mawreddog Bae Ceredigion, drwy unig Barc Cenedlaethol arfordirol Prydain yn Sir Benfro, ar hyd milltiroedd o dywod melyn, heibio Gŵyr ai olygfeydd godidog, ar hyd glannau Bae Caerdydd a Chaerdydd, prifddinas Cymru, i dref farchnad Cas-gwent ar y ffin Lloegr.

Dywedodd Dei Tomos, Fe ges i lawr o bleser personol ar y daith o greur llyfr yma. Fy ngobaith i yw, wrth ddarllen y llyfr, y bydd llawer mwy o bobl yn dod i werthfawrogir ffaith bod ardaloedd arfordirol sydd heb eu datblygu yn adnoddau gwerthfawr, a dylid eu gwarchod, eu trysori, au cadw nhw mor naturiol ag syn bosib.


Ers cyhoeddi y byddai llwybr y glannau yn agor yn 2012 bu llawer o edrych ymlaen does ond gobeithio y dawr fenter ardderchog hon phleser i laweroedd ynghyd budd economaidd, oherwydd mae Cymrun gyfan yma.


Ychwanegodd Jeremy Moore, Profodd y ddwy flynedd y bm yn gweithio ar y ffotograffau yn fordaith o ddarganfyddiad gwirioneddol. Mae arfordir Cymru tua 1,700 milltir o hyd, o gyfrif yr ynysoedd hefyd, ac felly ni allai fod yn ddim llai na hynny. Ond lawn mor gynhyrfus weithiau oedd sylweddoli fy mod wedi tynnu llun lleoliad cyfarwydd mewn ffordd anghyfarwydd.


Yn ystod fy ngwaith ar y llyfr, deuthum yn ymwybodol or term seicoddaearyddiaeth, ac fel un sydd gradd mewn seicoleg ganddo a diddordeb ym mhob peth syn ymwneud daearyddiaeth, cefais fy nghyfareddu. Ymddengys bod ir gair gynifer o ystyron ag sydd yna o rain defnyddior term, gan gynnwys penseiri, anarchwyr, athronwyr ac awduron yn enwedig. Ond nid ffotograffwyr.


Mae un diffiniad o seicoddaearyddiaeth yn awgrymu ei fod yn astudiaeth o gyfarfyddiad pobl a lle, y modd y mae ein hamgylchfyd yn dylanwadu arnom ni a ninnau ar ein hamgylchfyd. Pwy well i ymgymryd hyn na ffotograffydd? Er hynny, hyd y gwn i, ni chafodd y term ei ddefnyddio felly erioed.

Cynhelir arddangosfa o bum deg o luniau yn seiliedig ar y ffotograffau sydd yn y llyfr yn Llyfrgell Canolfan Celfyddydau'r Rhyl ar hyn o bryd tan 28ain o Orffennaf.
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Ac Yna Clywodd Sŵn y Mr
Alun Jones
£9.99
 
Prynwch
Cyfres Cae Berllan: Dilyn ...
Phil Roxbee Cox
£5.99
Gwres y Gegin
Heulwen Gruffydd
£19.95
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Dan Bwysau
John Alwyn Griffiths
£8.50
 
Prynwch
Saesneg
Head in the Clouds - ...
Boyd Clack
£10.00
 
Prynwch
Plant
Caffi Merelli
G. R. Gemin
£7.99
 
Prynwch