Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Adenydd Glöyn Byw - Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2010Grace Roberts Gweld rhagor o deitlau gan 'Grace Roberts'
ISBN: 9781848512900 (1848512902)Dyddiad Cyhoeddi Awst 2010
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, Llandysul
Fformat: Clawr Meddal, 197x128 mm, 352 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £8.99 
Adenydd Glöyn Byw - Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2010
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Mae nain, mam a merch yn byw o dan yr unto. Wrth ddilyn eu helyntion dros flwyddyn, cyflwynir golwg gadarnhaol ar bosibiliadau bywyd - cyhyd â bod y glöyn byw hwnnw'n ofalus. Nofel arobryn Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent, 2010.

A grandmother, mother and daughter all live under the same roof. In this novel, we follow the lives of all three throughout the year. This novel was awarded the Daniel Owen Memorial Prize at the 2010 National Eisteddfod.
Gall un peth bach – glöyn byw yn curo ei adenydd – arwain at drychinebau mawr. Gall un camgymeriad neu gamddealltwriaeth olygu newid bywyd a mynd â rhywun ar drywydd gwahanol iawn i’r un a fwriadwyd. Dyna’r hyn y mae Megan, un o dair prif gymeriad y nofel hon, yn ei gasglu wrth edrych yn ôl ar ei bywyd. Hanes Megan, ei merch Rhiannon a’i hwyres Eira Mai, y tair yn byw gyda’i gilydd mewn tŷ fferm yng ngogledd Cymru, dros gyfnod o flwyddyn yw’r gyfrol. Cawn weld sut mae’r tair yn cyd-fyw a sut mae cariad yn dod i’w bywydau. Stori Eira Mai sy’n cael y prif sylw, wrth iddi hi syrthio mewn cariad â’i hathro drama sy’n ddyn ifanc yn ei ugeiniau cynnar. Er bod sefyllfa o’r fath yn un o tabŵs mawr ein cyfnod ni, does dim moeswers na neges benodol ynghlwm wrth y stori. A hithau’n brif ferch yr ysgol, gwelwn Eira Mai yn ceisio ymdopi â chyfrifoldeb ar ôl bod yn ddigon anystywallt, yn ôl pob sôn, yn ystod y blynyddoedd cyn hynny.

Cryfder y gyfrol yw’r ffordd mae Grace Roberts yn ysgrifennu deialog. Mae’r cymeriadau’n dod yn fyw wrth lefaru ac mae’n llwyddo i ddal llais y tair cenhedlaeth yn effeithiol tu hwnt gyda’r troeon ymadrodd a’r eirfa sy’n perthyn i’w hoes, heb ofni defnyddio bratiaith os oes galw am hynny. Fedrwch chi agor y gyfrol a darllen pwt o’r sgwrs, a byddwch chi’n gwybod yn syth pwy sy’n siarad – ac mae’r un mor gartrefol gyda thafodiaith ddeheuol Llion, yr athro drama, â thafodiaith ogleddol gweddill y cymeriadau. Does fawr o ryfedd wir, gan i Grace Roberts dreulio deng mlynedd yn sgriptio i Pobol y Cwm. Mae clust i’r iaith lafar yn beth llawer prinnach nag y byddai rhywun yn ei feddwl, ac mae tics llafar cymeriadau yn aml yn dweud mwy amdanynt nag unrhyw ddisgrifiad.

Gallech chi ddadlau, yn wir, fod y nofel yn debyg i ddrama sebon. Ceir cymeriadau heb lawer o ddyfnder iddynt a digwyddiadau a allai fod yn gyffrous neu a allai arwain at drychineb, ond mae popeth yn iawn yn y diwedd. Fel mewn drama sebon, perthynas y cymeriadau â’i gilydd yw sail y nofel, a’r cyswllt dyddiol rhyngddynt. I unrhyw un sy’n mwynhau dramâu o’r fath, fe fydd hon yn nofel ddifyr iawn. Mae’n cymryd ei lle yn ddigon parchus ar y silff fel nofel eithaf ‘chick-litaidd’, rhywbeth i’w ddarllen ar wyliau neu i ymlacio ar ôl diwrnod caled o waith.

Catrin Beard

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
C'mon Midffild 2 (DVD004)
 
£13.26
 
Prynwch
Dawn Dweud: Lewis Edwards
D. Densil Morgan
£18.99
 
Prynwch
Os Hoffech Wybod ... a ...
Dic Jones
£9.95
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Alarch Du, Yr
Rhiannon Wyn
£5.95
 
Prynwch
Saesneg
Owain Glyn Dŵr - The ...
Peter Gordon Williams
£7.95
 
Prynwch