Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Ody'r Teid yn Mynd Mas?
Mair Garnon James, Jon Meirion Jones
ISBN: 9781848513617 (1848513615)Dyddiad Cyhoeddi Mai 2013
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, Llandysul
Fformat: Clawr Meddal, 216x140 mm, 128 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £8.99 
Sgr y Cwsmeriaid ar gyfartaledd:
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
 
Darllen Adolygiadau...
Atgofion Mair Garnon o Landudoch, Aberteifi a dreuliodd oes yn gwasanaethu ei hardal fel athrawes, digrifwraig, pregethwr cynorthwyol, Ynad Heddwch, beirniad eisteddfod a chwpl o bethau eraill hefyd. Fel arweinydd nosweithiau llawen a diddanwraig hwyliog mae nifer yn ei hadnabod a dros y blynyddoedd fe ymwelodd â phob math o gymdeithasau i'w difyrru.

The memoirs of Mair Garnon from St Dogmaels near Cardigan who has spent her life serving her community as a teacher, comic, lay preacher, Justice of the Peace, and eisteddfod adjudicator amongst many others roles. As a compere and entertainer she has become well known over the years especially amongst the various societies she has entertained.
Bu peth dirgelwch erioed ynglŷn blen union mae Llandudoch, oherwydd ryw ffin symudol fu ir pentre sydd gyferbyn ag Aberteifi ar ochr ddeheuol yr aber. Mae synnwyr cyffredin yn dweud mai yn Sir Benfro y mae ond nid felly y bu bob amser. Fel y dywed Mair Garnon James, stamp Sir Benfro sydd ir lle ar bobol, a phan gafodd y trigolion y dewis, pleidleisio dros fod yn rhan o Sir Benfro wnaethon nhw.

Mae Mair Garnon wedi treulio'i hoes yn Llandudoch (neu Llandoch, yn iaith y trigolion), heblaw am ei dwy flynedd yng Ngholeg Hyfforddi y Barri. A ffrwyth blynyddoedd o adnabyddiaeth or pentre ar ardal sydd yn y gyfrol gyfoethog hon.

Rywle yn y llyfr mae hin gresynu na ddysgwyd dim hanes lleol iddi pan oedd hi yn yr ysgol. Bellach, diolch ir gyfrol hon, does dim esgus gan neb, yn athrawon, plant nac oedolion, dros fod yn anwybodus o hanes Llandudoch.

Roedd Llandudoch yn bod ymhell cyn bod sn am Aberteifi, yn l Mair. Adeiladwyd Abaty Llandudoch tua 1115 fel cangen o Abaty Tiron yn Ffrainc, dan nawdd Robert Fitz Martin, Arglwydd Cemaes.

Y mynachod o Ffrainc sefydlodd berllannau enwog Llandudoch gydau hamrywiaeth rhyfeddol o afalau, rhain felys, eraill iw coginio, eraill i wneud seidir ac un gydar enw gorau i gyd Afalau Ceiller Esgob.

Traddodiad arall ddaeth i Landudoch gydar mynachod, ac syn dal i gael ei arfer, oedd pysgotar Sn lle byddair dynion yn cerdded allan ir aber rhwyd hir pan fyddair llanwn mynd mas gan gaun gylch i ddal y pysgod. Dawr enw, maen debyg, o afon Seine yn Ffrainc lle defnyddid dull tebyg o bysgota.

Mae gan Mair Garnon gyfoeth o hanesion mwy diweddar yn ddifyr a doniol am gapelir ardal ar anfarwol Barchedig John Thomas, Blaenwaun. Llwyddodd i grynhoi hanesion am y sipsiwn ai hatgofion am yr Ail Ryfel, y ddau fom a ddisgynnodd ger Llandudoch, a dyfodiad yr ifaciws.

Wedi dychwelyd or coleg i Landudoch bun athrawes yn Ysgol Llwynihirion, Brynberian, dan y prifathro mwyn a diwylliedig Ifor Davies, fun arweinydd Aelwyd Crosswell am flynyddoedd. Coffa da am eraill fel Glenys Lewis (gynt Williams) fun brifathrawes Ysgol Bridell. Roedd yr athrawon hyn, fel Mair Garnon ei hun, yn ysbrydoliaeth i fro ac ysgol.

Bun Ynad Heddwch ar Fainc Aberteifi. Bun arweinydd Noson Lawen ar lwyfan a theledu S4C ac y mae yn y gyfrol gasgliad da o jcs addas i unrhyw un syn ymdopi r dasg honno o dro i dro. Ceir ganddi hanes yr hwyl ryfeddol a gaed wrth chwarae'r prif rannau yn sioeau cerdd W. R. Evans, Cilwch Rhag Olwen a Dafydd a Goliath.

A choffa da am ddau or perfformwyr eraill, Wil Morris, digrifwr a saer o athrylith, dyn bach a phersonoliaeth enfawr; a Peter John, y dyn garej o Grymych, dyn barfog mwy o faint a phersonoliaeth enfawr arall. Y ddau wedin gadael, ysywaeth.

Odyr teid wedi mynd mas? Nag yw, gwlei! Bydd y gyfrol hon yn ei atal am sbel to, achos fe gwyd ysbryd a balchder pobol Llandudoch yn eu bro au hetifeddiaeth. A diolch i Jon Merion Jones am gydweithio gyda Mair ar y gyfrol hyfryd hon.

Gwyn Griffiths

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Bywgraffiad Awdur:
Ganwyd Mair Garnon James yn Llandudoch, sir Benfro ym 1928 ac maen dal i fyw yn yr un ty r bedair cenhedlaeth oi blaen. Er ei bod mewn gwth o oedran ai golwg wedi dirywio, mae ganddi gof da a llu o atgofion.Un o ddisgynyddion teulur Cilie yw Jon Meirion Jones o Langrannog, Ceredigion. Bun brifathro yn Ysgol Gynradd Llandudoch ac mae ganddo adnabyddiaeth dda o Mair, y pentre ai hanes. Ef yw awdur Ol Troed T. Llew (Gomer, 2011) Teulur Cilie (Barddas, 1999) a Morwyr y Cilie (Barddas, 2002).
Gwybodaeth Bellach:
Efallai bod hiwmor iach yn gydnaws i phersonoliaeth ond mae yna ddifrifoldeb hefyd. Trwy ei geiriau fe ddown i'w hadnabod yn well a chael cip ar gyfnod arbennig mewn hanes.
Rhoddodd Sian Salisbury o Lymington, Hampshire i'r teitl yma ac ysgrifennodd:
"Dwi'n cofio Miss Garnon yn dda iawn. Hi oedd fy athrawes yn ysgol Llandudoch a Mr Jones oedd y prifathro pan aeth fy mam i'r ysgol! Mae'r ffoto ysgol dal 'da fi, a sawl llyfr ysgol yn cynnwys cywiriadau Miss Garnon! Ar l bod yn byw mewn gwahanol rannau o'r byd roedd yn rhyfeddol i ddarllen am Llandoch, a bod Miss Garnon yn dal yn byw yn yr un lle. Dwi wedi medru darllen y lyfr hwn a chofio bywyd fel yr oedd yn y cyfnod hwnnw!"
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Cyfansoddiadau a ...
 
£9.00
Rhaglen Eisteddfod ...
 
£7.00
Dic y Fet - Hunangofiant ...
Richard Thomas
£7.99
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Dan Bwysau
John Alwyn Griffiths
£8.50
 
Prynwch
Saesneg
Head in the Clouds - ...
Boyd Clack
£10.00
 
Prynwch
Plant
Caffi Merelli
G. R. Gemin
£7.99
 
Prynwch