Eich basged
Mae eich Basged yn Wag
Ewch i...
Gwerthwyr Gorau
Dolenni
|
| Gwybodaeth Lyfryddol |
Cyfres Swigod: Jelygaid Sonia Edwards
|
ISBN: 9781848514232 (1848514239)Dyddiad Cyhoeddi Ionawr 2012
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, LlandysulDarluniwyd gan Siân SmithAddas i oed 9-11 neu Cyfnod Allweddol 2
Fformat: Clawr Meddal, 195x128 mm, 72 tudalen
Iaith: Cymraeg
Ar gael Ein Pris:
£4.99
| |
| Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
|
|
|
Mae yna bethau rhyfedd iawn yn digwydd draw yn nhŷ Nain. Mae Mam a Dad yn meddwl ei bod hi'n wirion ac yn dechrau mynd o'i cho' wrth iddi sôn am bobol llgada jeli'n dod allan o'r teledu! Ond tybed ai wedi cymryd gormod o dabledi y mae Nain, neu a oes yna wirionedd yn y stori am y Jelygaid?
Strange things are happening at Gran's house ... Mum and Dad think she's going loopy because of all the things she's been saying about people with jelly eyes coming out of the television! But is it just a case of too many tablets or has Granny actually been telling the truth about the 'Jelygaid'?
|
|
Mae nain Elin yn mynd yn wirion. Mae’n sôn am greaduriaid gyda llygaid jeli yn dod allan o’r teledu. Mae’n amlwg, felly, ei bod yn bryd iddi weld y doctor ynglŷn â’i thabledi, oherwydd does bosib ei bod yn dweud y gwir!
Ond yn fuan mae Elin a’i brawd Ned yn sylweddoli mai Nain sy’n iawn wedi’r cyfan, ac yn camu drwy’r set deledu i fyd y Jelygaid. Ac am fyd! Mae’n wlad liwgar lle mae popeth wedi ei wneud o losin. Ond mae’r teulu yn darganfod nad yw’r byd siwgwrllyd yma yn un delfrydol wedi’r cyfan. Mae’r Jelygaid angen cymorth, a Nain yw’r un a ddewiswyd ganddyn nhw i’w helpu.
Er mor rhyfeddol yw byd y Jelygaid, dyw Sonia Edwards ddim yn colli golwg ar y byd `go iawn’ wrth adrodd ei stori. Mae Elin a Ned yn dal i gecru’n ddiddiwedd, a’r ddau yn cenfigennu os oes un Jelygad yn cael gormod o sylw gan eu Nain. Mae yna ddigon o hiwmor yn y nofel ac mae’r lluniau yn ychwanegu at y profiad o ddarllen. Ac mae yna rywbeth annwyl iawn am y Jelygaid, ac erbyn diwedd y nofel roeddwn i'n reit hoff ohonyn nhw! O ganlyniad, roeddwn i ychydig yn siomedig gyda’r diweddglo taclus. Mae yma ddeunydd mwy nag un stori rhwng y cloriau ac mi fyddai hi wedi bod yn braf clywed ychydig mwy am helyntion y creaduriaid gyda llygaid jeli.
Cerian Arianrhod
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council
|
|
Gwybodaeth Bellach: Ydy Nain yn dechrau drysu? ‘Roedd y teulu i gyd yn dechrau ofni bod Nain Llwyn Helyg yn ddall neu’n ddw-lal neu’r ddau.’ Dyna un o’r brawddegau ym mhennod agoriadol Jelygaid, nofel ddiweddaraf cyfres Swigod a gyhoeddir gan Wasg Gomer. Y Prif Lenor Sonia Edwards o Langefni yw awdur y llyfr hwn sydd â henaint a sut mae teulu yn ymdopi â hynny yn thema amlwg. Hiwmor yw un o’r ffyrdd gorau i ddenu plant at stori dda ac fe ddaw hynny i’r brig drwy’r nofel hon.
‘Ydach chi wedi bod yn cymryd eich tabledi, Nain? gofynnodd Mam.
‘Ella mai wedi cymryd gormod ohonyn nhw mae hi,’ awgrymodd Dad.’ Dyna pam ei bod hi wedi dechrau gweld pethau.’
‘Mi ydw i’n dal yma,’ meddai Nain, ‘a dydw i ddim yn fyddar, hyd yn oed os ydach chi’n meddwl fy mod i’n mynd o ‘ngho.’
Mae’n siwr bod y sgwrs fer hon yn cael ei hadleisio mewn nifer o gartrefi yn enwedig o gofio bod bron deugain mil o bobl yng Nghymru heddiw yn byw gyda rhyw fath o ddemensia. Yn ôl yr ystadegau bydd un o bob tri ohonom ni yn dioddef o’r afiechyd. Gweld pobl yn dod allan o’r teledu mae Nain yn Jelygaid, ond nid pobl fel chi a fi, ond pobl ryfedd gwyrdd gyda ‘llgada jeli’. Yn llawn chwilfrydedd, dewis aros yn gwmni i Nain wna’r plant Ned ac Elin yn hytrach na mynd i siopa gyda Mam a Dad.
Dyna ddechrau’r antur – tybed a ddaw pobl allan o’r teledu neu ydy Nain yn mynd o’r cho? Dilynwch hynt chwareus Ned ac Elin a’u prynhawn anturus wrth droi tudalennau’r nofel ogleisiol hon i blant tua 8-10 oed. |
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
|
|
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
|
|
|
|
Rhagor o Deitlau
|
Fe wnaeth pobl wrth edrych ar y teitl hwn hefyd edrych ar y canlynol:
|
Llyfr y Mis
|
| | Cymraeg |
| Blasu |
| Manon Steffan Ros |
| £8.95 |
|
|
| |
|
|