Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Paid â Deud
Eigra Lewis Roberts
ISBN: 9781848514485 (1848514484)Dyddiad Cyhoeddi Hydref 2011
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, Llandysul
Fformat: Clawr Meddal, 216x140 mm, 144 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £7.99 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Casgliad o ddeuddeg stori fer newydd gan Eigra Lewis Roberts, yr awdures dalentog o Ddolwyddelan sydd wedi gwneud enw iddi'i hun fel meistres yn y maes hwn.

A collection of 12 new short stories by Eigra Lewis Roberts, the popular author from Dolwyddelan who has long made her mark as a master in this genre of literature.
Fel y dywed y broliant, cr o leisiau amrywiol yn adrodd eu hanesion unigol ydy man cychwyn cyfrol ddiweddaraf Eigra Lewis Roberts. Cyflwynir dwsin o gymeriadau au hanesion ir darllenydd ac fel y dywed yr awdures ei hun ar y clawr, Maen werth clywed pob stori o lygad y ffynnon. Cyflwynir y gyfrol ir cymeriadau hynny y cawn gip sydyn ar eu bywydau gan enwi sawl un ohonyn nhw'n unigol.

Ond pwy ydyn nhw? Merched ydy prif gymeriadau'r straeon bron yn ddieithriad a golwg ar y berthynas rhwng mam ai phlentyn ydy calon y gyfrol hon, a dydyr berthynas ddim yn un hawdd. O blith y mamau mae Mary syn gorfod gadael ei phlentyn, Linda syn dewis bod heb ofal yn y byd, Lona sydd wedi profi pob methiant, a Luned ai mab anystywallt a chanddo enw mor anffodus! Methu dweud mae nifer or cymeriadau a hynny am eu bod yn methu gwneud synnwyr o bethau, yn siarad iaith wahanol, neu yn syml am nad ydynt yn cael y cyfle i ddweud, megis hanes Beth sy'n gorfod byw celwydd. Ar y llaw arall, tristwch Emma ydy bod Alun wedi dweud.

Er mai dim ond cip sydyn a gawn ni ar y cymeriadau hyn, rydan ni yn eu hadnabod i gyd. Llwydda Eigra Lewis Roberts i greu cymeriadau byw syn sboncian oddi ar y dudalen gyda disgrifiadau megis Un sgonsan fawr oedd Mrs Pritchard, lwmp o does efo dau lygad cyrens nad oedden nhwn gweld ond yr hyn oedd hin dymunoi weld ac mae yna 'sgonsan' ymhob cymuned! Dro arall, defnyddia ddisgrifiad byr a bachog i ddweud y cyfan, megis Dot drws nesa a'i chlustog o ben-l. Maer defnydd o ddeialog yn gynnil iawn a dim ond dweud yr hyn sydd raid y mae nifer or cymeriadau, fel y gellid disgwyl wrth ystyried y teitl. Oes angen dweud fod yr iaith yn gyfoethog?

Ydy, mae Eigra Lewis Roberts yn nabod ei phobl ac mae ffurf y stori fer yn ei galluogi i agor cil y drws ar eu bywydau ac adrodd eu hynt au helynt, y trist ar doniol, eu doe au heddiw. Y tro hwn mae hi hefyd wedi cynnwys penillion digon adnabyddus ir darllenydd ar ddechrau pob stori. Dydw i ddim yn siŵr pa un fyddai orau, darllen y stori gyntaf neur pennill dewiswch chi!

Janet Roberts

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council
Bywgraffiad Awdur:
Ganed Eigra Lewis Roberts ym Mlaenau Ffestiniog ac fei haddysgwyd yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor. Maen byw bellach yn Nolwyddelan ac yn briod gyda thri o blant a deuddeg o wyrion ac wyresau.

Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Brynhyfryd, pan oedd hi ond ugain oed ac ers hynny bun awdur toreth o gyfrolau, gan gynnwys nofelau, straeon byrion, llyfrau i blant, cofiannau a drama. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn 1965 a 1968 ar Tlws Drama yn Eisteddfod Genedlaethol 1974. Maen awdur dros ddwy ar bymtheg o gyfrolau ac mae wedi ysgrifennu nifer o ddramu radio a rhaglenni teledu, yn cynnwys y gyfres 'Minafon'. Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe yn 2006.
Gwybodaeth Bellach:
Dyma gr o leisiau amrywiol yn adrodd eu hanesion unigol. Maer dweud yn huawdl ac eton gynnil, yn mynegi llawer mwy na gwerth y geiriau eu hunain.

Llwydda Eigra Lewis Roberts i greu sawl byd crwn gydai lliwio geiriol celfydd.

Er gwaethar siars i beidio deud ac i gadw cyfrinachau teuluol, maer casgliad hwn o straeon byrion yn ddadlennol, yn gignoeth, yn sensitif, yn ddoniol ac yn ffraeth.

Un on llenorion praffaf ac enwocaf yw Eigra Lewis Roberts. Mae hin awdur sicr ei chyffyrddiad mewn sawl maes. Cyrhaeddodd ei chyfrol o straeon byrion, Oni Bai (Gomer) Restr Hir Llyfr y Flwyddyn yn 2005.
Diweddarwyd ar 25 Hydref 2011
Y Goron, y Fedal Ryddiaith, y Tlws Drama, mae Eigra Lewis Roberts wediu hennill i gyd ac ar nos Fawrth, 8 Tachwedd yn Llyfrgell Blaenau Ffestiniog am 7 or gloch mi fydd hin lansio cyfrol arall o gasgliad o ddeuddeg stori fer, Paid Deud.

Mae Eigra Lewis Roberts eisoes yn awdur dros ddeg ar hugain o gyfrolau gan gynnwys nofelau, storau byrion, cyfieithiadau a chofiannau ac wedi ysgrifennu nifer helaeth o ddramu radio a rhaglenni teledu. Gosodwyd Oni Bai, ei chyfrol ddiwethaf o storau byrion, ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn 2005.

Er nad yw hi wedi crwydro ymhell oi chartref genedigol ym Mlaenau Ffestiniog maer gyfol hon yn profi unwaith eto bod ganddi ddealltwriaeth ddofn o berthynas pobl i gilydd. Amlygwyd y ddawn hon ganddi ym Minafon, un o gyfresi mwyaf poblogaidd S4C erioed.

Mae Eigra Lewis Roberts yn credu bod teitl llyfr yn hollbwysig ac yn y gyfrol hon maer teitl yn clymur holl storau byrion ynghyd. Ymdrin diffyg cyfathrebu maer storau: peidio dweud neu dweud gormod. Fel y dywed Eigra Lewis Roberts: Weithiau maen well dweud pethau, weithiau maen well peidio, hynny sydd wrth wraidd yr holl storau.

Cawn yma groesdoriad o gymeriadau, yn ddynion a merched ambell un yn ddiamynedd a hunanol ac eraill yn amlygu cariad, amynedd a dealltwriaeth - pobl y gallwn uniaethu hwy mewn rhyw fodd, boed yn sefyllfa, yn emosiwn neu yn ein dulliau o ymateb a chyfathrebu.

Meddai Eigra Lewis Roberts, Mewn pobl mae fy niddordeb i, yn eu perthynas a'u diffyg perthynas, a'r pethau 'bach' 'na sy'n poeni pobl ond yn bethau mawr iddyn nhw.

Mae yn Paid Deud linyn cryf syn rhedeg drwyr holl storau gan greu cyfanwaith. Ac mae yma hefyd enghreifftiau o gampau llenyddol gwych. Maer ieithwedd lafar yn brydferth a hiwmor cryf yn y ddeialog. Maer llon ar lleddf yn aml yn cyd-redeg gan gryfhau effaith y naill ar llall.

Nid yn unig y mae gennym awdures sylwgar yma, ond dyma awdures a all wneud synnwyr or hyn mae hin ei weld ac yn ei gyfleu yn gynnil ac yn effeithiol. Yn gyflwyniad i bob stori mae cn adnabyddus e.e Oes gafr eto? ac Aros maer mynyddau mawr.

Yn l Eigra Lewis Roberts, Ar yr wyneb nid oes a wnelor gn r stori, ond dawn amlwg fod sawl peth yn y storau yn adleisio cynnwys y caneuon.

Maer gyfrol yn mynd ir afael phynciau fel camdrin rhywiol ac anffyddlondeb yn ogystal pherthynas pobl o ddydd i ddydd. Cyflwyno darlun o gymdeithas, fel y mae hi'n gweld pethau, yw nod Eigra Lewis Roberts. Meddai, Does gen i ddim neges o fath yn y byd, dim ond rhoi darlun o gymdeithas yr ydw in gyfarwydd hi.
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Beirniadaeth Lenyddol
Hugh Bevan
£5.95
 
Prynwch
Ambell Sylw
Alun Llywelyn-Williams
£5.00
 
Prynwch
Meddwl a'r Dychymyg ...
Gerwyn Wiliams
£4.99
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Dan Bwysau
John Alwyn Griffiths
£8.50
 
Prynwch
Saesneg
Head in the Clouds - ...
Boyd Clack
£10.00
 
Prynwch
Plant
Caffi Merelli
G. R. Gemin
£7.99
 
Prynwch