Gwybodaeth Lyfryddol |
Cyfres Swigod: Hei Now!, Now! Haf Llewelyn
|
ISBN: 9781848514560 (1848514565)Dyddiad Cyhoeddi: Mawrth 2012
Cyhoeddwr: GomerAddas i oed 7-9+ neu Cyfnod Allweddol 2
Fformat: Clawr Meddal, 197x129 mm, 100 tudalen
Iaith: Cymraeg
Ar gael Ein Pris:
£4.99
|
|
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
|
|
Wrth i Now feddwl am rywbeth, mae'n digwydd go iawn. Ni all wneud dim i rwystro hyn, sy'n dipyn o niwsans. Yn ôl y Swyddfa Sicrhau Runfathrwydd Cenedlaethol dylai popeth fod yn union yr un peth, a dylid 'dileu' unrhyw beth nad yw'n berffaith, fel siop Bobi Bob Dim. Defnyddia Now ei ddawn i rwystro'r dynion rhag dinistrio'r siop.
When Now thinks about something, it actually happens. He can't do anything to stop it, which is a nuisance. The National Office for Identicality say that everything should be exactly the same, and anything unusual like Bobi's Shop for Everything, should be 'erased'. Now uses his gift to prevent the men destroying the shop.
|
Mae Now yn wahanol i bawb arall. Mae o’n edrych yn wahanol, mae ei enw’n anarferol ac ar ben hynny i gyd mae rhywbeth od yn digwydd iddo ar adegau. Mae’r hyn y mae Now’n ei ddychmygu yn dod yn wir. Côt yn llenwi â gwynt nes bod y perchennog yn hedfan i ffwrdd, beiro yn troi’n fochdew a Blewyn Melyn, y ci, yn pi-pi ar sgidiau Mr Huw Hyffi Harris drws nesaf. Does ryfedd bod Now yn cael ei adnabod (yn annheg yn ei dyb e, wrth gwrs) fel 'Now Niwsans'.
Ond does bellach ddim lle yn y pentref i unrhyw un nag unrhyw beth sy’n wahanol. Mae Mr Huw Hyffi Harris a’r Swyddfa Sicrhau Safonau Runfathrwydd Cenedlaethol yn benderfynol o gael trefn ar y lle, ac mae hynny’n cynnwys cau Siop Bobi Bob Dim. Sut gall Now atal hyn ac arbed pobl rhag gorfod byw yn ôl rheolau llym y swyddfa?
Mae Now’n siarad gyda’r darllenydd yn uniongyrchol ac mae’r llyfr yn llawn hiwmor a direidi bachgen 11 oed. Mae ’na frawddegau bachog a chymeriadau sy’n dod yn fyw mewn ychydig eiriau. Ac mae ymateb Now i ymweliad swyddogion y Swyddfa Sicrhau Safonau â'r ysgol yn odidog o syml a doniol.
O dan yr wyneb mae ’na neges ei bod hi’n iawn bod yn wahanol drwy'r llyfr hwn. Dyma stori dda wedi’i hadrodd yn grefftus. ‘Gwych’ fel byddai Now’n dweud.
Cerian Arianrhod
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
|
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
|
|
|