Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Cyfres Swigod: Gwneud Fel Maen Nhw'n ei Ddweud
Gwenno Mair Davies
ISBN: 9781848514577 (1848514573)Dyddiad Cyhoeddi Chwefror 2014
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, Llandysul
Darluniwyd gan Helen FlookAddas i oed 7-9+ neu Cyfnod Allweddol 2 Fformat: Clawr Meddal, 196x128 mm, 74 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £4.99 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Stori am fachgen direidus sydd byth a beunydd mewn trwbl yn yr ysgol. Un diwrnod, mae'r prifathro'n penderfynu dysgu gwers iddo gan ddefnyddio hud a lledrith. O hyn ymlaen, mae'n rhaid i Deio wneud yn union fel mae rhywun yn ei ddweud. Er enghraifft, mae'n dechrau crafu'n wyllt ar ôl i'w ffrind ddweud 'Cer i grafu' wrtho!

A humorous story about a mischievous boy who regularly finds himself in trouble at school. When the headmaster decides to teach him a lesson by using magic, Deio has to do whatever his family and friends tell him. But will the strange things that happen to him make him reform his ways?
Tydi brodyr a chwiorydd yn gallu bod yn boen? Maent yn gwneud bob dim ich gwylltio chin gacwn, yn gwneud i chi dynnu gwallt eich pen ar brydiau, yn eich rhoi mewn helynt ac yn herion ddi-baid. Yn Gwneud fel maen nhwn ei Ddweud, dydi Deio a Lisa yn ddim gwahanol ac mae Mam bron chyrraedd pen ei thennyn.

Wedi iddo gael ei ddwrdio am bigoi drwyn wrth y bwrdd bwyd, mae Deio yn mynd dros ben llestri yn yr ysgol hefyd yn tynnu coes a chwarae triciau. Ond mae Mr Cadwaladr, ei brifathro, yn feistr arno mewn mwy nag un ffordd. Wedi deall nad ywr Gornel Gallion ddigon i ddod Deio at ei goed, mae pethau rhyfedd iawn, iawn yn dechrau digwydd mor rhyfedd nes bod Deio yn dechrau bihafio!

Mae hon yn nofel fach ddifyr i blant ac yn un y gallent uniaethu hi. Mae Gwenno Mair Davies wedi portreadu'r cythraul bach Deio ir dim! Maer rhyfeddodau sydd yn digwydd yn y llyfr yn rhai fydd yn codi gwn ar wynebau plant Cymru ac mae'n rhaid i chi ddarllen tan y diwedd i weld sut mae perthynas Mr Cadwaldr a Deion datblygu.

Tybed ydi'n bosib callio'r cythraul bach syn cynddeiriogi pawb? Oes tawelwch meddwl iw gael unwaith mae Mr Cadwaladr yn rhoir cenau bach hwn yn ei le? Dyfalwch chi!


Llinos Griffin

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Gwybodaeth Bellach:
Maer storin dilyn hynt a helynt Deio wrth iddo ddysgu pa mor bwysig yw hi i wrando ar bobl. Ond tybed a fydd e wedi dysgui wers erbyn y diwedd? Ceir lluniau lliw drwy'r llyfr.
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Dramâu'r Drain: Su ...
Gwenno Mair Davies
£2.95
 
Prynwch
Cyfres yr Onnen: Y Bancsi Bach
Tudur Dylan Jones
£5.95
 
Prynwch
Cyfres Swigod: Cyfrinach ...
Siân Lewis
£4.99
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Dan Bwysau
John Alwyn Griffiths
£8.50
 
Prynwch
Saesneg
Head in the Clouds - ...
Boyd Clack
£10.00
 
Prynwch
Plant
Caffi Merelli
G. R. Gemin
£7.99
 
Prynwch