Home Books Basket Checkout My Account Help Special Offers Contact us   Cymraeg  
 
Find a Bookshop
 
Sign In
 
Register
Bibliographical Information
Dafydd Hywel - Hunangofiant Alff Garnant
Dafydd Hywel, Alun Wyn Bevan
ISBN: 9781848515376 (1848515375)Publication Date November 2013
Publisher: Gwasg Gomer, Llandysul
Format: Paperback, 215x140 mm, 208 pages Language: Welsh Available Our Price: £9.99 
There are no Customer Reviews for this title.
 
Write a Customer Review
The autobiography of the outspoken, colourful character and talented actor Dafydd Hywel.

Hunangofiant di-flewyn ar dafod y cymeriad brith, lliwgar a'r actor talentog Dafydd Hywel.
Dyn oedd thipyn o feddwl oi farn ei hun oedd Alf Garnett y sitcom Till Death Us Do Part, yn adweithiol a rhagfarnllyd. Ir graddau ei fod yntau hefyd yn hoff o gael dweud ei ddweud, gesyd Dafydd Hywel ei hun yn yr un mowld r cymeriad crintachlyd hwnnw a bortreadwyd gan Warren Mitchell.

Llanw a thrai yw bywyd, ac maer uchafbwyntiau ar isafbwyntiau iw cael yn y gyfrol hon. Magwyd Dafydd Hywel yng Nglanaman nefoedd ar y ddaear i blentyn yn y pumdegau, a rhestrir pob siop a charreg yn y pentref, a phob person oedd yn byw yno. Mae ei deyrnged iw fam yn un gynnes, ac maer mab yn galon i gyd wrth gofioi chyflwr bregus ar ddiwedd ei hoes, yn dioddef o glefyd Alzheimer. Maen canmol ei dad, ei ffrind gorau ar un ai cyflwynodd ir campau y bun eu dilyn weddill ei oes rygbi, criced a bocsio. Bu farw ei dad o ganser yn 85 oed: dymar diwrnod y dechreuodd Dafydd Hywel beidio chredu bod Duw i gael.

Adroddir nifer o hanesion difyr am yrfa broffesiynol yr awdur, gan restrur dramu ar sioeau sydd wedi aros yn ei gof, er enghraifft 'The Mouse and the Woman', stori fer gan Dylan Thomas a addaswyd ar gyfer y sgrin fawr gan Vincent Kane a Karl Francis. Sonnir hefyd am Yr Alcoholig Llon, a sut y daeth Alcoholics Anonymous i ddangos y ffilm drosodd a throsodd yn eu sesiynau, er budd mawr ir rheini oedd yn chwilio am ryddhad o afael y cyffur. Ar gynffon y rhestr gynyrchiadau manteisir ar y cyfle i ddatgan barn am gyflwr y byd ffilmiau cyfoes yng Nghymru.

Ar lefel bersonol, bu Dafydd Hywel yn weithgar iawn yn yr ymgyrch i sefydlu ysgolion Cymraeg yng Nghaerdydd. Roedd cynllun ar droed i fynnu bod ei blant yn mynychu ysgolion cynradd gwahanol, y naill yn agos ir cartref ar llall bellter mawr i ffwrdd. Wedi ymgyrch filain caniatawyd lle ir ddau yn Ysgol Coed-y-gof. Adroddir stori ingol Aber-fan yma hefyd, a cholli'r 144, gan gynnwys 116 o blant. Tynnir sylw at yr anghyfiawnder a fu wrth ddosbarthur arian a gasglwyd i gefnogir gymuned: o ddefnyddio 150,000 o arian Cronfa Aber-fan i glirior tip a'i wneud yn ddiogel yn hytrach nag i helpur teuluoedd dioddefus.

Nid ywn osgoi nodir troeon tywyll yn ei fywyd ei anffyddlondeb i Betty, ei wraig, ei gyfnodau o yfed trwm, ei iselder, ai drafferthion ariannol. Telir teyrnged gynnes i nifer o ffrindiau agos a fun gefn iddo drwyr adegau anodd hyn pan oedd, yn iaith Dyffryn Aman, wedi mynd off y raels.

Cyflwynir yr hunangofiant yn nhafodiaith hyfryd Dyffryn Aman. Maen gyfrol syn adrodd stori bywyd, y gwych ar gwachul. Er bod rhywbeth yn y safiad na fydd at ddant pawb, bydd yn sicr o ddiddanur rhai hynny syn hoffi ambell druth a thipyn o dantro.

Rhiannon Ifans

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Last Updated on 21 November 2013
Actor tells it straight

Having performed on stage and screen for nearly half a century, Dafydd Hywel is one of our most recognised actors.

The 67 year-old, who starred in Pobol y Cwm, Ruth Jones Sky One series Stella, The Bill and the film Christmas Story, is set to release his unsparingly honest Welsh language autobiography, Dafydd Hywel: Hunangofiant Alff Garnant (Gwasg Gomer.

A master of stage and screen, Dafydd Hywel comes clean about his own life: about his career, his thoughts on S4C, Welsh education, the major influences in his life and his period of alcohol-dependency.

Its safe to say that Dafydd has never been one to sit on the fence, and his autobiography is no different. It was a very emotional experience, it wasnt until I began writing that I realised how influential people were in my life, and how much I miss those Ive lost. Ive been as honest as possible, which at times got quite uncomfortable, said Dafydd.

He added: People have asked why I decided to tell my story and the honest answer is that I feel I have something to say. Ive experienced so many different emotions in my life, some great highs and some tremendous self-inflicted lows.

The book leads us from his early childhood in Garnant, Amman Valley, from the rugby and cricket fields, through to his career on stage and screen. He also takes the opportunity to air his thoughts on the current state of Welsh language TV: When I started they had very talented and creative people who knew what they were doing, the likes of Dilwyn Jones, Will Aaron, Paul Turner, John Hefin and Carl Francis understood their craft. The people in charge today dont really know how to identify with Wales and the Welsh, what does Dr Who and Casualty actually mean to the people of Wales? said Dafydd who now lives in Capel Hendre, Ammanford.

I think one of the biggest issues is the fact that the Welsh dont really know how good they are. Y Gwyll, for example, is an outstanding piece of work and it shows that we can compete with the best.

The fiery Welshman has starred in a number of Welsh and English films including Burton: Y Gyfrinach, Off to Philadelphia in the Morning and Rebeccas Daughter. In his book he talks about the decline of Welsh language film and drama: To be honest it breaks my heart, but I hope under S4Cs new regime that the suits will use some of their common sense and ensure that film and drama plays a prominent part in the schedules. Not everyone wants to watch rugby and football morning, noon and night!
There are no Customer Reviews so far for this title.
 
More Titles
People who bought this title also bought the following:
Writers of Wales: Gwenlyn ...
Roger Owen
£16.99
 
Buy Now
Never Mind the Bluebirds ...
David Collins
£6.99
 
Buy Now
Cyfres y Cewri: 10. Be ...
Dafydd Wigley
£9.95
 
Buy Now
Book of the Month
English
Robin Book, The
Jane Russ
£9.99
 
Buy Now
Welsh
Nadolig Pwy a Ŵyr 2
Amrywiol/Various
£8.00
 
Buy Now
Children
Gwyn y Carw Cloff
Tudur Dylan Jones
£6.99
 
Buy Now