Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Cyfres Lolipop: Yr Wmp o Blwmp
Dwynwen Lloyd Llywelyn
ISBN: 9781848515536 (1848515537)Dyddiad Cyhoeddi Tachwedd 2012
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, Llandysul
Darluniwyd gan Helen FlookAddas i oed 7-9 neu Cyfnod Allweddol 2 Fformat: Clawr Meddal, 197x129 mm, 64 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £4.99 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Efeilliaid oedd Defi a Dewi ac roedden nhw wedi stopio siarad ers pythefnos gan wylltio eu rhieni. Chwarae gêm oedd y ddau ac wedi eu hanfon i'r gwely'n gynnar, yr unig le tywyll yn yr ystafell yw o dan y gwely. Felly i ffwrdd â nhw yno ond fe ddechreuodd creadur bach blewog crwn fel pêl â dwy lygad fawr frown â gwên fawr ar ei wyneb siarad â nhw. Dyma'r Wmp o Blwmp.

Defi and Dewi were twins who had stopped talking for a fortnight in order to annoy their parents. They were sent early to bed and while playing a game under the bed a furry creature with two large, brown eyes and a wide smile started talking to them. He was Wmp from Plwmp.
Ond dyw hin braf cael llyfrau gwreiddiol Cymraeg? Mae yna groeso mawr, felly, i gyfres Lolipop gan Gomer. Dyma stori gan awdures newydd Dwynwen Lloyd Llywelyn ond un sydd phrofiad helaeth mewn ysgrifennu ar gyfer y theatr ac y mae dawn Dwynwen i ysgrfennu deialog yn amlwg yn y gyfrol hon.

Hanes efeilliaid a geir yn y stori hon, efeilliaid tawel iawn ar ddechraur gyfrol ond os oes rhywun yn achosi iddynt siarad wel, yr Wmp o Blwmp yw hwnnw. Dyma greadur glas, blewog a chrwn a ddarganfuwyd yn ystafell wely Defi a Dewi. Ers iddo gyrraedd, mae popeth rywsut yn llwyddo. Maer efeilliaid yn siarad, ac yn fwy na hynny mae'r ddau yn llwyddo i roi taw ar fwli mawr Blwyddyn 6 ai antics. Mae yna ddigon o gyffro yn y stori hon, a phob canmoliaeth hefyd i Helen Flook am y lluniau.

Dyma lyfr addas iw ddarllen i unrhyw blentyn ond fe fydden nin tybio ei fod yn bennaf addas ar gyfer oed darllen Blynyddoedd 2 a 3. Edrychwn ymlaen at straeon eraill yn y gyfres Lolipop.

Sarah Down-Roberts

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Anturiaethau Syr Wynff a ...
 
£5.99
 
Prynwch
Helpwch eich Plentyn / ...
Elin Meek
£4.99
 
Prynwch
Cyfres Cae Berllan: Dilyn ...
Phil Roxbee Cox
£5.99
Llyfr y Mis
Cymraeg
Mam - Cerddi gan Famau, ...
 
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Talk Welsh
Heini Gruffudd
£6.95
 
Prynwch
Plant
Mis yr Ŷd
Manon Steffan Ros
£5.99
 
Prynwch