Eich basged
£45.00
Ewch i...
Gwerthwyr Gorau
Dolenni
|
Gwybodaeth Lyfryddol |
Caniadau'r Diwygiad - Golwg ar Emynau, Penillion a Thonau Diwygiadol 1904-05 Noel A. Gibbard
|
ISBN: 9781850491958 (185049195X)Dyddiad Cyhoeddi: Mai 2003
Cyhoeddwr: Gwasg Bryntirion PressFformat: Clawr Meddal, 200x130 mm, 184 tudalen
Iaith: Cymraeg
Archebir yn ôl y galw Ein Pris:
£7.95
|
|
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
|
|
Astudiaeth o emynau, penillion a thonau Diwygiad 1904-05 a geir mewn casgliadau emynau llai cyfarwydd, boed yn eiriau gwreiddiol neu'n gyfieithiadau gyda gwybodaeth am y cantorion a gynorthwyai'r diwygwyr, ac atodiad helaeth yn cynnwys nifer o'r emynau a'u tonau ynghyd â nodiadau manwl. 18 llun du-a-gwyn.
A study of the hymns, verses and tunes of the 1904-05 Revival found in lesser-known hymn collections, both original words and translations with information about the singers who supported the revivalists, together with a substantial appendix comprising a number of hymns and their tunes and detailed notes. 18 black-and- white illustrations.
|
Yn y cyfraniad gwerthfawr hwn i ddathliadau canmlwyddiant Diwygiad 04-05, mae Noel Gibbard wedi ymchwilion drwyadl i faes na chafodd ddigon o sylw, ac maer nodiadau yng nghefn y gyfrol yn creu llyfryddiaeth werthfawr. Neilltuir 42 tudalen i dri dwsin o benillion ac emynau pwysicaf y Diwygiad a dwsin or tonau. Dyfynnir rhagor ohonynt yng nghorff y llyfr.
Mae Gibbard yn tynnun sylw yn gywir at bwysigrwydd y canu yn y Diwygiad hwn, wrth bwysleisio iddo fod yn elfen mewn diwygiadau blaenorol, yn enwedig 1859. Dengys i gerddoriaeth offerynnol ar gymanfa ganu gyfrannu at y Diwygiad. Cyfeirir at rôl merched a phlant, ac at bwysigrwydd gweddi. Ond mae Gibbard yn brin o gydnabod un o agweddau pwysicaf y Diwygiad, sef bod llawer or cyfarfodydd yn ddibregeth. Mae hyn yn elfen or 'democrateiddio' ar addoli (t.161 n. 52) y gynulleidfa yn dewis cân, defnyddio alawon poblogaidd Seisnig ac alawon gwerin Cymraeg, ac ati. Nid yw Gibbard yn ymdrin â sut y collwyd hyn or capeli ar ôl 1905.
Mae eangfrydedd diwinyddol y Diwygiad yn creu penbleth i Gibbard. Cyfeiria at bwysigrwydd yr emyn 'Lead, kindly light', ond anghofia grybwyll mai John Henry Newman oedd yr awdur uchel-eglwyswr a droes yn Babydd! Dengys i Elfed gyfrannun fawr ir Diwygiad, ond mynn ddangos fod emynau diwygiadol Elfed yn well nai emynau diweddar a oedd yn fwy rhyddfrydol eu diwinyddiaeth. Mae Gibbard felly yn canmol 'dyfnder meddwl' Elfed yn un oi emynau mwyaf ystrydebol (t. 31).
Rhaid i Gibbard gydnabod i gariad Duw fod yn bwyslais cryfach yn y Diwygiad nag uffern, a bod y syniad Catholig o eiriolaeth Iesu yn ganolog. Anodd i Gibbard gysoni llwyddiant Diwygiad yn cynnwys credoau felly âi gred ei hun mai 'dros yr etholedigion yn unig y gweddïa Crist' (tud. 40). Nid ywn gofyn a allai diwygiad a bregethai Grist mor gul â hyn fod wedi denu ymateb fel a gafwyd ym 1904-05.
Byddair gyfrol wedi elwa o olygu mwy trwyadl. Ar dro, fe gyflwynir emynydd or newydd ar ôl ei gyflwyno eisoes mewn pennod flaenorol; dro arall cyfeirir at enw heb esboniad o bwy ydyw. Weithiau cyfeirir at bennill heb ei ddyfynnu, ond dyfynnir rhai penillion sawl gwaith. Mae gormod o wallau argraffu, a thrueni mawr fod rhai yn yr emynau. Ceir dau wall erchyll ar dud. 24 syn llurgunio ystyr yr emynydd ar awdur.
Maer bennod olaf yn ailadrodd sylwadau o gorff y llyfr heb ddod i gasgliadau, ac mae brawddeg olaf y llyfr yn hynod o gloff gan adlewyrchu beirniadaeth a wneir gan yr awdur ar linell olaf ambell emyn! Ond maer llyfr hwn yn gyfraniad gwerthfawr ir maes, a bydd yn ffynhonnell bwysig i astudio hanes y Diwygiad.
Gethin Rhys
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
|
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
|
|
|
|
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth edrych ar y teitl hwn hefyd edrych ar y canlynol:
|
Llyfr y Mis
| Cymraeg |
Mynd |
Marged Tudur |
£7.00 |
|
| |
|
|