Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig   English  
Gwybodaeth Lyfryddol
Ffordd Gadarn, Y - Ysgrifau ar Lên a Chrefydd gan R. Geraint Gruffydd
Awdur: R. Geraint Gruffydd
Gweld rhagor o deitlau gan 'R. Geraint Gruffydd'
ISBN: 9781850492306 (1850492301)
Dyddiad Cyhoeddi Rhagfyr 2008
Cyhoeddwr: Gwasg Bryntirion Press, Pen-y-bont ar O
Golygwyd gan E. Wyn James
Fformat: Clawr Caled, 215x140 mm, 344 tudalen
Ar gael 
Does dim Ymatebion Darllenwyr i'r teitl hwn.
 
 
Ffordd Gadarn, Y - Ysgrifau ar Lên a Chrefydd gan R. Geraint Gruffydd
Ein Pris: £14.95 
Ceir yn y gyfrol hon ddetholiad o ysgrifau poblogaidd un o ffigyrau amlycaf y bywyd diwylliannol Cymraeg heddiw. Yn ogystal â bod yn ysgolhaig o'r radd flaenaf, mae'r awdur hefyd yn Gristion o argyhoeddiad dwfn, ac y mae llawer o'i waith yn canolbwyntio ar ddadansoddi a dehongli'r dreftadaeth Gristnogol Gymraeg. Gyda rhagair gan Bobi Jones.

This volume is a collection of essays by one of the most prominent cultural figures in Wales today. R. Geraint Gruffydd is a first class scholar, and he's also a Christian of great conviction; a lot of his work analyses and interprets the Welsh Christian heritage. With a foreword by Bobi Jones.
Gwybodaeth Bellach:
Yn Y Ffordd Gadarn - Ysgrifau am Fyd Llên a Chrefydd gan R. Geraint Gruffydd ceir detholiad o ysgrifau poblogaidd un o ffigyrau amlycaf y bywyd diwylliannol Cymraeg heddiw. Yn ogystal â bod yn ysgolhaig o'r radd flaenaf, mae'r awdur hefyd yn Gristion o argyhoeddiad dwfn, ac y mae llawer o'i waith yn canolbwyntio ar ddadansoddi a dehongli'r dreftadaeth Gristnogol Gymraeg. Mae tair rhan i'r gyfrol. Yn yr adran gyntaf trafodir materion y gellir eu galw'n 'uniongyrchol grefyddol'. Yn yr ail cawn ysgrifau ar wahanol agweddau ar lên a diwylliant Cristnogol Cymru o'r Diwygiad Protestannaidd ymlaen. Casgliad o ysgrifau mwy personol eu natur yw'r adran olaf, yn cynnwys teyrngedau i nifer o gydweithwyr a chyfeillion yr awdur. Golygydd y gyfrol yw Dr E. Wyn James, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, a cheir rhagymadrodd gan yr Athro Bobi Jones.

Cyhoeddwyd gan Wasg Bryntirion, Bryntirion, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4DX. Ffôn: 01656 655 886. e-bost: swyddfa@mudiad-efengylaidd.org
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol: