Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Cyfres Sêr Arswyd: Dol Rhydian
Bob Eynon
ISBN: 9781855964044 (185596404X)Dyddiad Cyhoeddi Ionawr 2000
Cyhoeddwr: Dref Wen, Caerdydd
Darluniwyd gan Brett BreckonAddas i oed 12+ neu Cyfnod Allweddol 3 Fformat: Clawr Meddal, 60 tudalen Iaith: Cymraeg Allan o Stoc - Archebir yn l y galw Ein Pris: £3.50 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Stori iasoer am ddol sy'n meddu ar bwerau arbennig gan ddwyn lwc ac anlwc i Rhydian, ei deulu a'i gydnabod wedi iddo ddod yn berchennog arni. 8 llun du-a-gwyn.

A ghost story about a doll with supernatural powers that brings luck and misfortune to Rhydian, his family and acquaintances after he becomes its owner. 8 black-and-white illustrations.
'Bob Eynon yw meistr y stori boblogaidd Gymraeg,' medd broliant y gyfrol hon, ac yn sicr mae’r awdur cynhyrchiol hwn wedi mentro i sawl maes. Hyd yma mae wedi cyhoeddi llyfrau antur a rhamant, dirgelwch, gwyddonias a helyntion y gorllewin gwyllt, ac mae ei dri llyfr diweddaraf, Y Corff Anhysbys, Lladd Akamuro a Dol Rhydian yr un mor amrywiol eu cefndir a’u cyfnod.

Down yn ôl i’r presennol gyda’r nofel Dol Rhydian. Hen ddol ddigon salw’r olwg yw’r ddol welodd Rhydian yn y ffair sborion, nid y math o beth y dylai fod wedi ei brynu’n anrheg i’w chwaer. Ond ac yntau wedi gwario’i arian i gyd ar ei ffrindiau, ni allai Rhydian fforddio prynu unrhyw beth arall. Ac o’r eiliad honno ymlaen mae bywyd Rhydian, ei deulu a’i ffrindiau yn newid. Ni fu Rhydian erioed yn sgolor arbennig, ond yn awr mae’n cael y gwaith cartref yn hawdd, mae’n cael ei achub rhag fwlis mwyaf yr ysgol, ac mae hyd yn oed yr athro mwyaf sur a sarrug yn chwerthin am ben un o jôcs Rhydian. Beth sy’n digwydd? Beth sydd wedi achosi’r newidiadau hyn? Ond nid yw’r pethau da yma’n parhau, ac unwaith mae Rhydian yn penderfynu cael gwared â’r ddol mae pethau’n mynd o ddrwg i waeth.

Mae llyfrau arswyd wedi bod yn boblogaidd iawn ers nifer o flynyddoedd bellach, ond gwendid mawr y mwyafrif ohonynt yw mai rhes o ddigwyddiadau arswyd stoc ydynt heb fawr ddim tensiwn nac ymdrech i adeiladu cymeriadau, ac yn anffodus mae Dol Rhydian yn disgyn i’r un bai.

Elgan Davies

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Perygl yn Sbaen
Bob Eynon
£3.99
 
Prynwch
Yn Nwylo Terfysgwyr
Bob Eynon
£2.95
 
Prynwch
Asiant Cudd, Yr
Bob Eynon
£3.50
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Mam - Cerddi gan Famau, ...
 
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Talk Welsh
Heini Gruffudd
£6.95
 
Prynwch
Plant
Mis yr Ŷd
Manon Steffan Ros
£5.99
 
Prynwch