Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Cyfres Cled: Corff Anhysbys, Y
Bob Eynon
ISBN: 9781855964525 (185596452X)Dyddiad Cyhoeddi Tachwedd 2000
Cyhoeddwr: Dref Wen, Caerdydd
Darluniwyd gan Brett BreckonAddas i oed 9-11+ neu Cyfnod Allweddol 2/3 Fformat: Clawr Meddal, 80 tudalen Iaith: Cymraeg Archebir yn l y galw Ein Pris: £3.75   
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Nofel hanesyddol fer a chyffrous am ddirgelwch llofruddiaeth mewn tref fechan yng Nghymru yn 1660, a'r cysylltiad rhwng y dieithryn a lofruddiwyd a chyfrinach bachgen mud a byddar; i ddarllenwyr 9-12 oed. 8 llun du-a-gwyn. (Cled ESTYNNOL)

An exciting historical short novel about a murder mystery in a small Welsh town in 1660, and the connection between the murdered stranger and the secret of a deaf-mute boy; for 9-12 year old readers. 8 black-and-white illustrations. (Cled CHALLENGING)
'Bob Eynon yw meistr y stori boblogaidd Gymraeg,' medd broliant y gyfrol hon, ac yn sicr mae’r awdur cynhyrchiol hwn wedi mentro i sawl maes. Hyd yma mae wedi cyhoeddi llyfrau antur a rhamant, dirgelwch, gwyddonias a helyntion y gorllewin gwyllt, ac mae ei dri llyfr diweddaraf, Y Corff Anhysbys, Lladd Akamuro a Dol Rhydian, yr un mor amrywiol eu cefndir a’u cyfnod.

Nofel ddirgelwch hanesyddol yw Y Corff Anhysbys a gyhoeddir fel rhan o Gyfres Cled. Yn hwyr un noson yn y flwyddyn 1660 cyrhaeddodd dieithryn dref Caer Fynach, ac erbyn y bore mae’n farw – wedi ei lofruddio. Mae’r ymchwiliad i ddarganfod y llofrudd yn dechrau, ond a yw pawb sy’n ymchwilio i’r dirgelwch am weld y gwir yn cael ei ddatgelu? A hyd yn oed pan fo pawb – gan gynnwys y darllenydd – yn credu fod y llofrudd ei hun wedi ei ladd, nid dyna ddiwedd ar y llofruddiaethau.

Daw milwr o Sais i’r dref i ddatrys y dirgelwch, ac yn sgil hynny mae Buddug ac Arwel, plant siryf Caer Fynach, yn eu cael eu hunain yng nghanol yr helynt. O dipyn i beth dechreua’r dirgelwch ymddatod gan ddatgelu, ymhlith pethau eraill, flacmel a chynllwyn i herwgipio un o drigolion Caer Fynach.

O ystyried mai prin 70 tudalen sydd i’r nofel, mae Bob Eynon wedi llwyddo i gynnwys nifer helaeth o ddigwyddiadau a chymeriadau. Mae’r cefndir hanesyddol yn argyhoeddi – yn wir, mae hanes cythryblus yr ail ganrif ar bymtheg yn hanfodol i’r stori. Nofel ysgafn dderbyniol iawn ar gyfer pobl ifanc a dysgwyr.

Elgan Davies

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Perygl yn Sbaen
Bob Eynon
£3.99
 
Prynwch
Marwolaeth heb Ddagrau
Bob Eynon
£3.50
 
Prynwch
Lladd Akamuro
Bob Eynon
£3.50
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Apostol
Dyfed Edwards
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Bee Book, The
Jo Byrne
£9.99
 
Prynwch
Plant
Dathlu gyda Sali Mali
Ifana Savill
£6.99
 
Prynwch