Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Cyfres Fflach Doniol: Tad-Cu yn Bwyta Popeth
Martin Morgan
ISBN: 9781855965256 (1855965259)Dyddiad Cyhoeddi Chwefror 2003
Cyhoeddwr: Dref Wen, Caerdydd
Darluniwyd gan Glyn ReesAddas i oed 7-9 neu Cyfnod Allweddol 2 Fformat: Clawr Meddal, 198x126 mm, 48 tudalen Iaith: Cymraeg Allan o brint Ein Pris: £3.95   
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Stori ddarluniadol ddoniol am brofiadau rhyfeddol Tad-cu wedi iddo ymweld â'r meddyg, ac am effaith y moddion a roddir iddo arno ef, ac ar nifer o bobl ac anifeiliaid eraill; i ddarllenwyr 7-9 oed. 38 llun du-a-gwyn.

An amusing illustrated story about the amazing experiences of Grandfather after his visit to the doctor, and the effect of the medicine he is given on himself, and on a number of other people and animals; for 7-9 year old readers. 38 black-and-white illustrations.
Mae Tad-cu yn ei wely, yn rhy wan i godi am nad ydi o wedi bwyta dim ers wythnosau, felly mae’n penderfynu mynd i weld Doctor Cwac i geisio ateb i’w broblem. Gan ei fod mor denau a llipa â deilen letys, a’r gwynt wedi codi, caiff Tad-cu ei gipio fel gwylan ar antur drwy’r awyr cyn saethu drwy ffenest meddygfa Doctor Cwac. Llynca ffisig coch y doctor ac ar amrantiad daw ei archwaeth yn ôl, ond yn ffyrnicach o’r hanner nag o’r blaen, nes bod Tad-cu eisiau bwyta popeth.

Dyna yw ail antur y stori,sef ymdrech Tad-cu i ddod o hyd i bopeth ac unrhyw beth y gall suddo ei ddannedd gosod iddo. Rwy’n siŵr y byddai’r llyfr hwn at ddant plant tua saith i ddeg oed sy’n hoffi stori ddoniol a chymeriadau mwy na’r cyffredin, ac mae lluniau gwych Glyn Rees yn ychwanegu at y ddeupeth hyn.

Mae’r stori’n cael ei hadrodd yn slic yn nhafodiaith y de a gwirionais ar enwau rhai o’r cymeriadau, megis Misus Snobi Snŵt a’i chath Ping-Pong. Edrychaf ymlaen at ddarllen rhagor o straeon doniol eraill am y cymeriad hoffus a gwallgo hwn.

Esyllt Nest Roberts

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Llyfr ABC
Elwyn Ioan
£2.95
 
Prynwch
Helpwch eich Plentyn/Help ...
Elin Meek
£4.99
 
Prynwch
Cyfres Fflach Doniol: Twm ...
Martin Morgan
£3.95
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Heddiw, Ddoe a Gŵyl Ddewi
 
£6.95
 
Prynwch
Saesneg
No Regrets - Welsh ...
Matthew Southcombe
£13.99
 
Prynwch
Plant
Llyfr Adar Mawr y Plant
Onwy Gower
£7.99
 
Prynwch