Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Ffeithiau Ffwtbol 2Gary Pritchard Gweld rhagor o deitlau gan 'Gary Pritchard'
ISBN: 9781855967236 (1855967235)Dyddiad Cyhoeddi Mehefin 2006
Cyhoeddwr: Dref Wen, Caerdydd
Addas i oed 9-11 neu Cyfnod Allweddol 2 Fformat: Clawr Meddal, 128x91 mm, 48 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £2.99 
Ffeithiau Ffwtbol 2
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Casgliad o gant o ffeithiau difyr am gêmau a chystadlaethau, clybiau a chwaraewyr pêl-droed ar draws y byd, gyda chartwnau du-a-gwyn bywiog; i ddarllenwyr o bob oed. Clip Sain

A collection of one hundred entertaining facts about football games and competitions, clubs and players all over the world, with lively black-and-white cartoons; for all ages. Play Audio
Mae pêl-droed yn obsesiwn yn ein tŷ ni a’r silffoedd yn drwm o lyfrau yn ymwneud â’r gêm brydferth! Roedd croeso cynnes felly i ail lyfr o Ffeithiau Ffwtbol gan Gary Pritchard.

Wrth bori trwy’r gyfrol fechan hon mi gewch chi’r ffeithiau y byddech yn ei ddisgwyl mewn llyfryn o’r fath. Cewch ddarllen bod Stanley Mathews wedi chwarae ei gêm olaf i Stoke City ac yntau dros ei hanner can mlwydd oed ac mai dim ond ‘17 mlwydd a 41 diwrnod oed’ oedd Norman Whiteside pan chwaraeodd dros Ogledd Iwerddon yng Nghwpan y Byd. Rwy’n ceisio fy ngorau yma i beidio ildio i’r demtasiwn o ailadrodd nifer mwy o ffeithiau ffwtbol diddorol gan f’atgoffa fy hun mai cant o ffeithiau yn unig sydd o fewn y cloriau.

Mae yma dueddiad i or-bwysleisio pêl-droed Lloegr ar adegau wrth i ni glywed am lysenw Wycome Wanderers, lleoliad maes pêl-droed Wigan Athletic ac yn y blaen. Er bod yma gyfeiriadau at bêl-droed yr Alban ac Ewrop byddai wedi bod yn braf cael ffeithiau am bêl-droed Affrica ac Asia yn ogystal. Mae gwybodaeth plant heddiw yn llawer ehangach na gwybodaeth cenhedlaeth Gary Pritchard a minnau!

Ceir adrannau ar dimau pêl-droed Caerdydd, Abertawe a Wrecsam – tîm sydd mor annwyl i’r awdur – ac mae’r wybodaeth am y tîm cenedlaethol yn werth ei dysgu ar y cof. Siom, fodd bynnag, yw nodi nad oes yma unrhyw gyfeiriad at ein Cynghrair Cenedlaethol a hithau bellach ar ei thrydydd tymor ar ddeg! Mae yma gyfoeth o ffeithiau i’w rhannu ac i rai ohonom mae’r un mor bwysig gwybod o ble daeth yr enw Abergavenny Thursdays ag ydi hi i wybod am y cefndir tu ôl i'r enw Sheffield Wednesday!

Fodd bynnag, dyma lyfr gwerth ei brynu sy’n ffitio’n berffaith mewn hosan Nadolig!

Dilwyn Roberts-Young

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.

Diweddarwyd ar 16 Awst 2010
 
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Pysgota (G. Ffynnon)
Moc Morgan
£1.00
 
Prynwch
Byd Ceffylau
Jackie Budd
£5.99
 
Prynwch
Cerddi Cyntaf
Myrddin ap Dafydd
£6.95
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Cyfres y Dderwen: Yr Alarch Du
Rhiannon Wyn
£5.95
 
Prynwch
Saesneg
Owain Glyn Dŵr - The ...
Peter Gordon Williams
£7.95
 
Prynwch