Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
TarandonAnthony Horowitz Gweld rhagor o deitlau gan 'Anthony Horowitz'
ISBN: 9781855967342 (1855967340)Dyddiad Cyhoeddi Mai 2006
Cyhoeddwr: Dref Wen, Caerdydd
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Grey Evans.Addas i oed 12+ neu Cyfnod Allweddol 3 Fformat: Clawr Meddal, 197x129 mm, 240 tudalen Iaith: Cymraeg Allan o brint Ein Pris: £5.99   
Tarandon
Sgôr y Cwsmeriaid ar gyfartaledd:
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
 
Darllen Adolygiadau...
Y cyntaf yn y gyfres o nofelau am Alecs Rider, bachgen 14 oed sy'n cael ei ricriwtio'n ysbïwr yn erbyn ei ewyllys. Mae cyfrifiaduron y Tarandon yn cael eu dosbarthu i bob ysgol ym Mhrydain - ond a oes yna reswm sinistr y tu ôl i rodd hael Herod? MaeŸr cloc yn tician, mae'r Tarandon ar fin dod ar-lein - ac mae Alecs yn darganfod gwirionedd enbyd. Addas i ddarllenwyr 9-14 oed.

The first in a series of novels about Alecs Rider, a 14 year old boy who is recruited to be a spy against his will. The Tarandon computers are being distributed to every school in Britain, but has the benefactor Herod got an ulterior motive? The Tarandon is about to go online when Alecs makes a startling discovery ... Suitable for readers aged 9-14 years.
Mae Alex Rider yn bedair ar ddeg oed a phan gaiff ei ewythr ei ladd, mae popeth ym mywyd Alex Rider yn newid. Mae’n cael ei orfodi i weithio i MI6 a cholli'r ysgol - sy’n freuddwyd i’r rhan fwyaf o bobl ond i Alex mae’n hunllef i fyw bywyd cyfrinachol heb siarad â’i ffrindiau amdano.

Caiff ei anfon i gael ei hyfforddi mewn camp SAS ble mae’n rhaid iddo gymryd rhan mewn ymarferion caled. Yna, gyda theclynnau arbennig wedi eu dyfeisio gan ddyn gwahanol ond anhygoel, Mr Smithers, mae’n cael ei anfon i Gernyw lle mae’r biliwnydd Herod Sayle yn creu cyfrifiaduron Stormbreaker. Mae Sayle yn cynnig cyfrifiadur am ddim i bob disgybl ysgol yn y wlad ond mae ’na fwy i’r anrheg nag y mae pobl yn ei gredu.

Mae Tarandon yn llyfr hynod gyffrous a doniol wedi ei ysgrifennu o safbwynt bachgen cyffredin pedair ar ddeg oed. Mae’n llyfr addas i fechgyn a merched yn eu harddegau ac oedolion. Mi faswn i’n sicr yn ei argymell i bawb.

Nia Angharad Tomos

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.



Gwybodaeth Bellach:
Tarandon yw'r trosiad Cymraeg o Stormbreaker - teitl llyfr cyntaf cyfres o nofelau am Alecs Rider, bachgen 14 oed, sy'n cael ei ricriwtio'n ysbiwr yn erbyn ei ewyllys.
Mae cyfrifiaduron y Tarandon yn cael eu dosbarthu i bob ysgol ym Mhrydain - ond a oes yna reswm sinistr y tu ôl i rodd hael Antur Sayle? Mae'r cloc yn tician, mae'r Tarandon ar fin dod ar-lein, ac mae Alecs yn dysgu'n fuan iawn nad wyt ti byth yn rhy ifanc i farw . . .
Mae cyffro ar bob tudalen, a bydd y stori i'w weld fel ffilm ar y sgrin fawr led-led y byd yn ystod Haf 2006.
Gwobrau:
Mae llyfrau Anthony Horowitz wedi ennill clod ac amrywiol wobrau ar hyd a lled y byd - gyda nifer o'r gwobrau hynny yn rai a enwebwyd gan y darllenwyr eu hunain. Enillodd un o lyfrau'r gyfres hon wobr Brydeinig (Red House Best Children's Book Award) ym mis Ebrill 2006.
Rhoddodd Sebastian Gwynedd o Porthmadog i'r teitl yma ac ysgrifennodd:
"Llyfr arbennig!!!! Mae'n llawn cyffro ac antur; yn addas i bobol o bob oed a'r print yn hawdd ei ddarllen!"
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Cyfres Nofelau i'r ...
Tudur Williams
£3.99
 
Prynwch
Bywyd Blodwen Jones ...
Bethan Gwanas
£14.29
Catrin Jones a'i Chwmni
Meleri Wyn James
£6.95
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Cyfres y Dderwen: Yr Alarch Du
Rhiannon Wyn
£5.95
 
Prynwch
Saesneg
Owain Glyn Dŵr - The ...
Peter Gordon Williams
£7.95
 
Prynwch