| Gwybodaeth Lyfryddol |
| Dim Gwely heb Tedi / No Bed Without TedNicola Smee
Gweld rhagor o deitlau gan 'Nicola Smee' |
ISBN: 9781855967489 (1855967480)Dyddiad Cyhoeddi Mawrth 2007
Cyhoeddwr: Dref Wen, CaerdyddDarluniwyd gan Veneta HooperAddaswyd/Cyfieithwyd gan Gwynne Williams.Addas i oed 0-7 neu Cyfnod Allweddol 1
Fformat: Clawr Meddal, 260x215 mm, 20 tudalen
Iaith: Dwyieithog (Cymraeg a Saesneg)
Allan o brint Ein Pris:
£4.99
| |
| Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
|
|
|
Llyfr codi'r-fflapiau hyfryd i blant ifanc. Ble yn y byd mae Tedi? Helpwch y ferch i chwilio amdano - codwch y fflapiau, agorwch ddrôr y gist i edrych a ellwch chi ffeindio Tedi. Cyfrol ddwyieithog; addasiad o No Bed Without Ted.
A delightful lift-the-flap book for young children. Wherever can Ted be? Help find him by peeking behind all the flaps in this bedtime story. A bilingual book; translated from No Bed Without Ted.
|
|
Dyma stori syml a hyfryd iawn am blentyn yn chwilio ym mhob twll a chornel am ei dedi cyn mynd i’r gwely, gyda thestun sy’n odli (er ei fod wedi ei gyfieithu o’r Saesneg, a’r gwreiddiol mewn ffont lai ar y dudalen).
Mae digonedd o ddeunydd trafod yn y lluniau, oherwydd mae’r tŷ hwn yn llawn cathod a chŵn a llygod, yn ogystal â theganau. Bob tro mae'ch plentyn eisiau chwilio yn rhywle am y tedi, mae yna fflap i’w godi, ond dyw’r fflapiau ddim yn drwchus o gwbl, a gallai bysedd plant bach eu rhwygo’n hawdd.
Problem y llyfr yma yw nad yw ei gynulleidfa yn glir: mae’r stori braidd yn rhy hawdd i blentyn fyddai’n ddigon hen i fod yn ofalus i beidio â thorri’r fflapiau.
Heather Williams
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
|
|
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
|
|
|