Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Ffeithiau Rygbi 2: 100 o Ffeithiau RygbiGary Pritchard Gweld rhagor o deitlau gan 'Gary Pritchard'
ISBN: 9781855967632 (1855967634)Dyddiad Cyhoeddi Ebrill 2007
Cyhoeddwr: Dref Wen, Caerdydd
Addas i oed 9-11+. Fformat: Clawr Meddal, 128x90 mm, 48 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £2.99 
Ffeithiau Rygbi 2: 100 o Ffeithiau Rygbi
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Cant arall o ffeithiau rygbi a'r diweddaraf yn y gyfres o lyfrau poced ar thema rygbi a phêl-droed gan Gary Pritchard. Cartwnau gan Philip Prendergast.

Another 100 facts about rugby and the latest in a series of pocket size books on football and rugby by Gary Pritchard. Cartoons by Philip Prendergast.
Dyma’r ail lyfr yng nghyfres Ffeithiau Rygbi gan Gary Pritchard. Mae’n cynnwys 100 o ffeithiau diddorol ac anarferol am fyd y bêl hirgron. Os yw rygbi at eich dant, mae’r llyfryn bach hwn, sy’n llawn gwybodaeth, yn hanfodol i chi. Dyma lyfr hwylus y gallwch ei gadw ym mhoced tin eich trowsus fel bod ffeithiau difyr ar flaenau'ch bysedd, e.e. yn 1877, roedd yn rhaid i’r dyfarnwr ddod â gêm rhwng Caerdydd a Llanelli i ben yn gynnar wedi i’r dorf ddwyn y bêl! Dim ond trwy ddarllen y llyfr hwn y cewch wybod sawl potel o champagne sydd ei hangen i lenwi Cwpan Pencampwriaeth y Chwe Gwlad! Wyddech chi beth oedd enw’r chwaraewr o Ffrainc a dorrodd ei ffêr cyn iddo hyd yn oed sefyll ar y maes chwarae, wedi iddo faglu ar y staer y tu allan i’r ystafelloedd newid?

I ychwanegu at ddifyrrwch y llyfr, ceir cartwnau gan Philip Prendergast. Er enghraifft, ynghlwm â’r ffaith bod enw barddol gan rai o enwogion y byd rygbi, mae cartŵn o Gareth Edwards, Gareth Davies, Robin McBryde a Ray Gravell yn eu gwisgoedd gorseddol.

Dyma’r llyfr perffaith er mwyn dangos eich hun o flaen eich ffrindiau! Felly, beth bynnag fo’ch oedran, mae’n werth darllen y llyfr hwn i ehangu’ch gwybodaeth am rygbi a syfrdanu’ch ffrindiau ar y bws, yn yr ysgol, yn y gwaith, yr ystafell newid neu’r dafarn – ewch amdani!

Llŷr Evans

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.

Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Cysgliad (CD-ROM)
 
£40.85
 
Prynwch
Atlas Cynradd 2
 
£9.00
 
Prynwch
Atlas Cynradd 1
 
£8.00
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Cyfres y Dderwen: Yr Alarch Du
Rhiannon Wyn
£5.95
 
Prynwch
Saesneg
Owain Glyn Dŵr - The ...
Peter Gordon Williams
£7.95
 
Prynwch