Eich basged
Mae eich Basged yn Wag
Ewch i...
Gwerthwyr Gorau
Dolenni
|
| Gwybodaeth Lyfryddol |
| Llyfr Ryseitiau, Y - Gwaed y TylwythNicholas Daniels
Gweld rhagor o deitlau gan 'Nicholas Daniels' |
ISBN: 9781855967762 (1855967766)Dyddiad Cyhoeddi Gorffennaf 2007
Cyhoeddwr: Dref Wen, CaerdyddDarluniwyd gan Pat MoffetAddas i oed 9-11.
Fformat: Clawr Meddal, 198x130 mm, 128 tudalen
Iaith: Cymraeg
Ar gael Ein Pris:
£5.99
| |
Sgôr y Cwsmeriaid ar gyfartaledd:   
|
|
Mae bywyd yn newid i Gwiddan wedi iddi etifeddu llyfr hynod ar ei phen-blwydd yn dair ar ddeg oed. Ond pam fod llyfr fel hwn ym meddiant ei mam-gu? Beth yw pwysigrwydd y dudalen goll? A phwy yw Cynulliad y Cenhadon? Rhaid i Gwiddan ddod o hyd i'r atebion ar frys. Enillydd Gwobr Tir na n-Og 2008. Clip SainGwiddan's life changes when she inherits a strange book on her thirteenth birthday. But why was this book in her grandmother's possession? Why is there a missing page? Gwiddan must find the answers; her unconventional family's future hangs in the balance. Winner of the Welsh Tir na n-Og Award 2008. Play Audio
|
|
Mae clawr y nofel hon i blant 1014 oed yn apelgar ar yr olwg gyntaf. Gall y darllenydd weld yn syth fod yma stori ag iddi naws hudol, cymeriad anghyffredin a hen lyfr arbennig iawn.
Stori am Gwiddan, merch sy’n cael ei phen blwydd yn 13 oed, sydd yma. Ar ddiwrnod ei phen blwydd mae ei thad yn rhoi pâr o dreinyrs newydd iddi ac anrheg oddi wrth ei mam a fu farw pan oedd hi’n ferch fach sef y Llyfr Ryseitiau.
Mae’r stori’n gymysgfa fyrlymus o hanes merch ysgol gyffredin a byd chwedloniaeth Llyn y Fan Fach a’r hud sy’n gysylltiedig â’r swynion yn y Llyfr Ryseitiau. Mae ’na berthynas sy’n datblygu’n fwy na ffrindiau rhwng Gwiddan, Rhodri ac Olwen, bwli Blwyddyn 8, ac mae’r cyfan yn troi o gwmpas un dudalen goll y Llyfr. Mae gan Mrs Smith, y brifathrawes, rhyw gyfrinach, ac mae’r diweddglo’n frwydr erchyll rhwng y Cenhadon a’r Tri Dewisol.
Mae’n nofel gyffrous a gwahanol. Fel y dywed ‘ . . . y llais tyner, fel awel ysgafn . . . “Hawddamor, fy mhlant! Mae rhan gyntaf y broffwydoliaeth wedi’i chyflawni.”’ Oes yna ddilyniant, tybed? Gobeithio, yn wir!
Meinir Edwards
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council
|
|
Gwybodaeth Bellach: Awdur yn defnyddio chwedloniaeth a hud er mwyn annog plant i ddarllen yn Gymraeg
Wrth i wyliau’r haf ddechrau, gwelir plant ac oedolion leled y byd â’u trwynau’n ddwfn mewn llyfr wrth i gyffro Harry Potter ledu ar hyd y DU am y tro olaf. Ond peidiwch â gofidio, mae un awdur, sef Nicholas Daniels, yn benderfynol o fanteisio ar yr ysfa hon am bob peth hudol, wrth iddo gyhoeddi ei lyfr diweddaraf i blant, Y Llyfr Ryseitiau: Gwaed y Tylwyth.
Fel y dywed yr athro ysgol gynradd, a ddaw yn wreiddiol o Lanelli ond sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd: ”Pan gychwynnodd ffenomen Harry Potter, teimlais rywfaint o dristwch o ran Cymru, gan fod gennym draddodiad aruthrol o gyfoethog ym maes chwedloniaeth a mythau. Er bod y straeon yn wych, ac er bod y plant wrth eu boddau yn gwrando arnynt, mae’n rhaid i ni ddiweddaru’r themâu er mwyn iddynt apelio at genhedlaeth newydd.”
Felly aeth ati i ysgrifennu am rywbeth y credai y byddai’r plant yn ei ddosbarth ef yn mwynhau. Mae’r llyfr yn dilyn hanes Gwiddan, sef merch tair ar ddeg oed, sy’n cael hen lyfr ryseitiau ei nain yn anrheg pen-blwydd. Er ei bod wedi’i siomi i ddechrau, cyn hir mae’n darganfod bod llawer mwy i’r llyfr ryseitiau na’r hyn sy’n ymddangos ar yr olwg gyntaf.
“Yr unig reswm y dechreuais ysgrifennu oedd oherwydd ‘mod i’n gweld, yn sgil fy ngwaith, pa mor anodd yw cael plant i ddarllen, yn enwedig yn Gymraeg,” esboniodd Nicholas. “Felly dyna oedd fy mhrif nod bob tro – i ysgrifennu rhywbeth y byddai plant rhwng 9 a 12 mlwydd oed wir am ei ddarllen. Er mai merch yw prif gymeriad y llyfr, nid yw’n llyfr merchetaidd; mae’n eithaf tywyll a sinistr ac rwy’n gobeithio y bydd bechgyn a merched fel ei gilydd yn ei fwynhau.”
Yn ogystal â stori afaelgar, roedd Nicholas yn awyddus i ysgrifennu llyfr a fyddai o fewn cyrraedd cynifer â phosibl o blant Cymraeg eu hiaith: “Mae llawer o’r plant dwi wedi eu dysgu’n cael iaith a chystrawen rhai o’r llyfrau Cymraeg yn eithaf anodd. Mae’n ddieithr iddyn nhw, yn enwedig os nad ydyn nhw’n siarad Cymraeg adref. Dwi am i blant deimlo’n gysurus gyda’r iaith, a dyna sut y cawn ni fwy o blant i siarad Cymraeg.”
A chan ddibynnu ar lwyddiant y gyfrol gyntaf, mae gan Nicholas rai syniadau yn barod ar gyfer y llyfr nesaf:”Rwyf wedi dechrau chwarae â rhai syniadau, ond bydd rhaid i ni aros i weld a yw’r plant am gael mwy ai peidio!”, meddai gan chwerthin.
Ychwanegodd Catrin Hughes o’r cyhoeddwyr, Gwasg y Dref Wen: ”Mae llwyddiant cyfres Harry Potter wedi profi bod galw am y math hwn o ddeunydd ymhlith y grŵp oed hwn. Fodd bynnag, nid yw’r farchnad Gymraeg yn bodloni’r galw hwn ar hyn o bryd. Ein gobaith ni fel cyhoeddwyr yw y bydd ‘Y Llyfr Ryseitiau’ yn llenwi’r bwlch rhywfaint. Mae’n llyfr anghyffredin iawn sy’n plethu ffantasi a realiti ac mae digon o gyffro ac antur ynddo i gynnal diddordeb darllenydd ifanc - yr union beth ar gyfer gwyliau hir yr haf!” |
|
|
|
Diweddarwyd ar 16 Awst 2010
|
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
|
|
"Stori ddifyr! Dilyniant, plis!"
|
|
|
|
Rhagor o Deitlau
|
Fe wnaeth pobl wrth edrych ar y teitl hwn hefyd edrych ar y canlynol:
|
Llyfr y Mis
|