|
Argraffiad newydd o nofel boblogaidd a gyhoeddwyd gyntaf ym 1969, yn portreadu ymdrechion Crynwyr ardal Dolgellau i addoli yn ôl eu dymuniad, a'u penderfyniad i hwylio i'r Amerig a bywyd newydd.
A new edition of a popular novel set in the Dolgellau area depicting the struggles of the Quakers to worship as they wish, and their decision to sail to a new life in America. First published in 1969.
|
|
Lle braf ydi Sesiwn Fawr Dolgellau, ond y llynedd, ar ŵyl bellach yn denur miloedd, roedd y dorf anferthol fel pe bai ychydig bach yn fwy anystywallt nag arfer ac wrth ir caniau bentyrru ar y sgwâr ar goryfed ddechrau mynd yn drech, digon hawdd y gellid dychmygu sut y gallai hwyl ddiniwed y werin arwain at y math o weithred dreisiol, aflednais syn digwydd ar ddechraur nofel hon, sef dowcio gwrach dybiedig yn Afon Wnion.
Mae Y Stafell Ddirgel yn adrodd pennod gythryblus yn hanes Meirionnydd yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg pryd yr erlidiwyd aelodau mudiad y Crynwyr mewn ffordd mor atgas a didostur gan yr awdurdodau nes, yn y pen draw, ir rhan fwyaf ohonynt orfod ymfudo ir Unol Daleithiau gan adael bwlch cymdeithasol enfawr ar eu holau yn eu sir enedigol. Yng ngeiriau yr hanesydd, R.T.Jenkins, mor dda i Gymru fuasai eu cyfraniad hwy iw bywyd hi, pe cawsent gyfle iw roi.
Yn Y Stafell Ddirgel llwydda Marion Eames i chwythu anadl i esgyrn sychion yr hanes yma gan greu cymeriadau cig a gwaed credadwy a naratif gafaelgar, cynhaliol. Maer gwaith ymchwil hanesyddol drylwyr ar adnabyddiaeth o fro Dolgellau a chariad yr awdur tuag ati, yn amlwg, ond eto heb fod yn rhy ymwthiol, ac maer arddull yn aeddfed braf ac yn hollol ddiymdrech.
Rhaid llongyfarch S4C hefyd am weld potensial y gyfrol i greu addasiad clodwiw, poblogaidd ir sgrin fach yn ddiweddar. Byddain wych o beth pe bai ymddangosiad yr argraffiad smart newydd gan Gomer i gyd-ddigwydd âr gyfres deledu yn esgor ar gynnydd yng ngwerthiant arferol y nofel.
Fodd bynnag, ddeng mlynedd ar hugain ers ei gyhoeddi am y tro cyntaf, er y gellir nodi llawer iawn o rinweddau amlwg wrth ei ailddarllen, ar sawl gwedd mae yna le i amau mai cyfyng yw apêl uniongyrchol y llyfr hwn erbyn hyn, ac nad yw'n glasur bytholwyrdd y gellir ei ddarllen droeon gan ddod o hyd i haenau newydd o ystyr ac ysbrydoliaeth. Eto, dichon ei fod yn destun gosod amlbwrpas defnyddiol yn yr ysgolion uwchradd ac mewn dosbarthiadau dysgwyr.
Er gwaethaf yr amheuaeth a fynegais, rhaid pwysleisio bod y cynnwys, fel syn wir am holl nofelau Marion Eames, yn ddiffuant ac yn taro deuddeg drwyddo draw, ac o edrych yn ôl maen drueni nad yw amgylchiadau llenora yn y Gymraeg wedi caniatáu ir awdures fedrus hon fod yn fwy cynhyrchiol.
Martin Davis
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|