Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Llyfrau Lloerig: Mins Sbei
Siân Lewis
ISBN: 9781859025345 (185902534X)Dyddiad Cyhoeddi Ebrill 1999
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, Llandysul
Darluniwyd gan Sue MorganAddas i oed 7-9 neu Cyfnod Allweddol 2 Fformat: Clawr Meddal, 46 tudalen Iaith: Cymraeg Allan o brint Ein Pris: £2.50   
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Stori hyfryd i blant 7-9 oed sy'n dechrau darllen ar eu pennau eu hunain, am y bochdew Mins sy'n helpu ei berchennog Sali Sbei i ddal lleidr. Cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1998. (Lloerig CANOLIG)

An appealing story for 7-9 year old children who are beginning to read on their own, about the hamster Mins who helps his owner Sali Sbei to catch a thief. First published in 1998. (Lloerig MODERATE)
Stori yn y gyfres Llyfrau Lloerig yw Mins Sbei. Bochdew yw Mins, ac fe gafodd ei enw am ei fod yn cnoi papur yn ddarnau mân.

Un dydd mae ei berchennog, Sali, am iddo chwarae bod yn sbei gyda hi. Tasg Mins yw cnoi’r papurau gyda’r negeseuon cudd arnynt fel na all neb arall eu darllen – ond ei broblem yw ei fod yn mynd i ormod o hwyl gyda’i waith ac yn cnoi pob papur y daw ar ei draws. Mae Mins yn dal i chwarae bod yn sbei pan ddaw lleidr i’r tŷ, a chawn wybod beth ddigwyddodd pan fo’n ceisio cael y lleidr i chwarae gydag ef.

Dyma stori ddoniol a llawn dychymyg sydd yn cael ei hadrodd yn naturiol ac yn hwyliog, ac mae darluniau du a gwyn Sue Morgan yn cyfleu’r doniolwch. Ni all unrhyw blentyn beidio â chwerthin wrth ddarllen am antur y bochdew bach hoffus hwn, a byddai unrhyw riant yn maddau iddo am y llanast a wneir ganddo!

Delyth Wyn Davies

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth edrych ar y teitl hwn hefyd edrych ar y canlynol:
Stradey Stories
Alun Wyn Bevan
£9.99
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Mudferwi
Rebecca Roberts
£7.99
 
Prynwch
Saesneg
Longest Farewell, The
Nula Suchet
£12.99
 
Prynwch
Plant
Rygbi
Sarah Larter
£9.99
 
Prynwch