|
Diweddariad gan ei merch, Catrin Puw Davies, o'r nofel a enillodd i'r awdures Fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1938; nofel yw hi am ferch ifanc ar droad y ganrif yn ymgodymu ag amgylchiadau o dlodi a chreulondeb teuluol.
An up-dated version by her daughter, Catrin Puw Davies, of the novel which won for the author the Literary Medal at Cardiff National Eisteddfod, 1938; it is a novel about a young girl at the turn of the century wrestling with circumstances of family poverty and cruelty.
|
|
Mae campwaith Elena Puw Morgan, heb os, yn un o glasuron y genedl. Rwyn cofion dda gael fy hoelio im cadair pan eisteddais i lawr iw darllen rai blynyddoedd yn ôl. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 1938 y tro cyntaf i ferch ei hennill.
Yn ymddangosiadol, maen nofel draddodiadol, yn dilyn hynt a helynt merch ifanc yn tyfu i fyny yng nghefn gwlad Cymru ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ond nid portread rhamantus or math o fywyd yr ydym yn tueddu i edrych yn ôl arno gyda rhyw hiraeth cenedlaethol mo hwn. Maen hanes ysgytwol syn aros yn y cof oherwydd dawn yr awdur i beintio stori a chorddi ein teimladau.
Fen cyflwynir yn y geiriau cyntaf i Dori, merch ysgol alluog syn byw ar fferm yng ngogledd Cymru efoi chwaer iau ai rhieni. Rydym yn dilyn ei bywyd hi wedyn i weld ei phlant hithau'n tyfu i fyny, ymhell i mewn ir ganrif newydd, gydai newidiadau cymdeithasol chwyldroadol.
Buan y down i sylweddoli ei bod yn cael ei magu ar aelwyd lom a digysur, yn rhannol oherwydd tlodir teulu ond hefyd oherwydd agwedd ei mam tuag ati. Tynged Dori yw byw i weithion ddi-baid ac i ddioddef min tafod ei mam a gwaeth.
Maer stori'n delio âr gwrthdaro dinistriol o fewn y teulu, ac effaith hynny ar Dori ai theulu hithau yn y man, oherwydd creulondeb ei mam yw achos y graith yn gorfforol ac yn seicolegol. Ni chawn ni lawer o esboniad am achos y creulondeb, ond mae casineb y fam tuag at ei merch hynaf yn ddidrugaredd. Caiff Dori ddihangfa am blwc pan anfonir hi i ffwrdd i weini ac yn ddiweddarach wrth briodi. Ond nid oes dianc rhag effaith y creithio.
Yn y bôn, maer thema'n un gyfoes; gallwn yn hawdd ei chymharu âr straeon y clywn amdanynt yn rhy aml o lawer am gam-drin plant. Mae yma elfennau syn ei gosod yn ei chyfnod, wrth gwrs y diffyg ymholi seicolegol am gymhelliad mam Dori, ar ffordd yr ymdrinnir â salwch meddwl yn nheulu ei gŵr, efallai, ac ymadroddion sydd, gwaethar modd, yn perthyn i raddau helaeth ir oes or blaen; ond, rhywsut, mae cael y stori wedi ei gosod yn erbyn cefndir y cyfnod hwn ar wlad brydferth a roddodd, fe gredwn, blentyndod mor ddelfrydol in cyn-neiniau, yn cydio yn ein calonnau. Teimlwn ir byw ddiymadferthedd y ferch oherwydd confensiynaur oes ac amgylchiadaur teulu yn wyneb y diffyg cariad sydd, fe dybiwn, yn reddfol i famau pob oes.
Luned Meredith
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|