|
Hanes cyffrous am ddau ffrind yn teithio dros fil o gilomedrau ar gefn beic ar draws ucheldiroedd anial Tibet, yn cynnwys disgrifiadau cyfoethog o'r tirwedd gerwin a sylwadau treiddgar am gyflwr gwleidyddiaeth, crefydd a ffordd o fyw trigolion y wlad. Cyfrol a osodwyd yn uchel yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 2000. 16 ffotograff lliw.
A fascinating account of a cycling journey undertaken by two friends across the wild highlands of Tibet, comprising rich descriptions of the harsh landscape and comments on the political, religious and everyday life of the inhabitants. A volume which received high praise in the Literature Medal competition at the Llanelli National Eisteddfod 2000. 16 colour photographs.
|
|
Yn y gyfrol hon awn ar daith o Gymru at gyrion Everest, ar rhan fwyaf serth ohoni ar gefn beic. Ceir llu o gyfleoedd i gyflwyno golygfeydd bythgofiadwy, anturiaethau enbyd, a chymeriadau lliwgar, a does dim dwywaith nad ywn llwyddo.
Daliwn ein gwynt wrth ir awdur ai gyfaill gludo beic i mewn i China yn anghyfreithlon a theithio i Tibet heb drwydded deithio. Cyfarfyddwn â rhes o deithwyr lliwgar, rhai yn hoffus a rhai eraill, fel yr Americanwyr, nad oedd erioed wedi dysgu ei bod yn bosibl iddyn nhw golli dadl, ffeit neu ryfel. Arweinir nin gelfydd ar daith, sydd ar brydiaun hunllefus mae un cam yn unig ohoni yn gyfystyr â dringor Wyddfa chwe gwaith! Erbyn cyrraedd troed Chomolungma (Everest), teimlwn ein bod wedi profi arteithiau a gwefrau, wedi blasu te menyn Yak hallt a gweld golygfeydd gwych ac allorau anghysbell âu baneri lliwgar.
Weithiau mae rhywun yn teimlo fod yr awdur yn bodloni ar ddweud fod y rhiw yn serth neu ei fod wedi blino yn hytrach na chyfleur ymdrech neur blinder hwnnw. Gellid dychmygun ogystal mai un or pethau mwyaf trawiadol am ddyddiadur fel hwn fyddai perthynas yr awdur ai gyd-deithiwr. Mae prinder y cyfeiriadau at Dylan yn gallu cythruddor darllenydd. Oni fyddai gan yr awdur ryw sylw, neu efallai lif o regfeydd, o sylweddoli fod ei fêt wedi colli polion y babell filltiroedd i lawr y cwm ac y byddain rhaid iddynt dreuliou nosweithiau yn eu sachau cysgu? Fe fyddair dyddiadur yn ddifyrrach o gael ambell gip ar y berthynas rhyngddynt ac yn sicrhau fod ychydig yn rhagor o gymeriad yr awdur yn gymysg âr golygfeydd.
Maer ffotograffau trawiadol yn ychwanegun arw at y gyfrol ac fe fyddai map wedi ychwanegu rhagor. Cawn ambell gip ar hanes y wlad drwy gydol y daith, ac wrth ddynesu at y mynydd cawn hanesion am gyfraniad ambell Gymro at ei hanes un o Gymru oedd Mr Everest, er enghraifft.
Llwyddodd Llion Iwan i fynd at droed Everest a rhannu golygfeydd, aroglau, blasau, lliwiau, argyfyngau a gwefraur daith, gan gyflwynor wlad ai hanes ai brofiadau unigryw ei hun gan fynd âi ddarllenwyr gydag o. Mae trigolion Tibet yn bobl ysbrydol iawn, a theimlwn droeon fod yr awdur yn uniaethu âr ysbrydolrwydd hwn ac ar ddiwedd ei daith maen gollwng offrwm o ddarnau arian ir afon a sibrwd gweddi dawel, daer, y caiff ddychwelyd ryw ddydd gobeithio y daw hynnyn wir.
R. Arwel Jones
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|